Gwybodaeth Iechyd ar gyfer Rhieni
I rieni beichiog, mae cael babi yn amser pan fydd llawer yn gofyn am wybodaeth a chefnogaeth i’w helpu i bontio i flynyddoedd cynnar bod yn rhieni a symud drwyddynt.
Mae’r adnoddau a welir ar y tudalen hwn wedi’u hysgrifennu gyda rhieni, sydd eisoes wedi bod trwy’r profiad o fagu plant, yn ogystal â’r gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n cefnogi teuluoedd ac yn helpu rhieni i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plant.
Nod yr adnoddau yw:
- Darparu adnoddau o ansawdd uchel sy’n hygyrch i ystod eang o rieni beichiog a newydd.
- Darparu ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth iechyd a llesiant ar gyfer rhieni beichiog a rhieni newydd yng Nghymru.
- Darparu adnodd i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwybodaeth hybu iechyd gan weithwyr iechyd proffesiynol a phartneriaid i rieni beichiog a rhieni newydd yng Nghymru.
Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth
Dylai’r holl rieni tro cyntaf yng Nghymru gael copi caled, neu gael eu cyfeirio at y fersiwn digidol hwn, o Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth, yn gynnar yn ystod eu beichiogrwydd. Os ydych chi neu’ch partner yn feichiog, ac nid ydych wedi derbyn copi o’r llyfryn hwn eto ond yr hoffech gael un, gofynnwch i’ch bydwraig roi un i chi.
Llyfryn 1: Eich beichiogrwydd a’r enedigaeth
Gallwch weld copi o’r llyfryn yma.
Newydd-anedig hyd at 2 oed
Dylai’r holl rieni tro cyntaf yng Nghymru gael copi caled, neu gael eu cyfeirio at y fersiwn digidol hwn, o Newydd-anedig hyd at 2 oed, yn fuan ar ôl i’w babi gael ei eni. Os ydych chi neu’ch partner wedi cael babi, ac nid ydych wedi derbyn copi o’r llyfryn hwn eto ond yr hoffech gael un, gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd roi un i chi.
Llyfryn 2: Newydd-anedig hyd at 2 oed
Gallwch weld copi o’r llyfryn yma.
2 oed i Ddechrau’r ysgol
Mae’r llyfryn yn cael ei ddatblygu
4 i 7 oed
Mae’r llyfryn yn cael ei ddatblygu
Gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol
Mae’r llyfrynnau Gwybodaeth Iechyd ar gyfer Rhieni wedi’u dylunio i’ch cefnogi i gael sgyrsiau gyda rhieni a gofalwyr, a darparu gwybodaeth allweddol o Feichiogrwydd hyd at saith oed.
Mae’r llyfrynnau hyn wedi’u hysgrifennu gydag arweiniad gan weithwyr iechyd proffesiynol a mewnbwn gan rieni sydd eisoes wedi bod trwy’r profiad o fagu plant. Mae hyn yn golygu bod y llyfrynnau hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth hanfodol a phwysig sydd ei hangen ar rieni yng Nghymru i’w helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plant.
- Dylai’r fydwraig roi Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth yn yr apwyntiad archebu.
- Dylai’r ymwelydd iechyd roi Newydd-anedig hyd at 2 oed yn y cyfarfod cyntaf.
- 2 oed i Ddechrau’r ysgol – dylai’r ymwelydd iechyd yn yr adolygiad 27 mis.
- 4 i 7 oed – dylai’r nyrs ysgol yn adolygiad iechyd i blant ifanc yn yr ysgol.
Archebu
Nid yw llyfrynnau Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth, a Newydd-anedig hyd at 2 oed yn cael eu dosbarthu’n awtomatig i swyddfeydd neu safleoedd mamolaeth neu ymwelwyr iechyd. Gellir archebu copïau caled drwy dudalen Adnoddau Gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r rhain hefyd ar gael fel e-lyfrau digidol.
Mae 2 oed i Ddechrau’r ysgol a 4 i 7 oed yn e-lyfrau digidol; gellir archebu cyflenwad bach o gopïau caled drwy ebostio [email protected].
Arweiniad
Darperir arweiniad i weithwyr proffesiynol ar ddosbarthu a defnyddio’r llyfrau.
Darllenwch y canllaw i weithwyr proffesiynol ar sut i ddefnyddio llyfryn Newydd-anedig hyd at 2 oed.
Gwerthusiad
Gwybodaeth bellach
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Mae’r dudalen hon yn cynnwys y tablau data sy’n gysylltiedig â’r dangosfwrdd iechyd a llesiant…
-
Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi dangosfwrdd rhyngweithiol sy’n cyflwyno canlyniadau arolwg wedi’u diweddaru ar…