Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC)
Beth yw MECC?
Mae MECC, sef ‘Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif’, yn ymagwedd at newid ymddygiad sy’n defnyddio’r miliynau o ryngweithiadau bob dydd a gaiff sefydliadau ac unigolion gyda phobl eraill i’w cynorthwyo i wneud newidiadau cadarnhaol i’w hiechyd a’u lles corfforol a meddyliol.
Mae ymagwedd MECC yn cydnabod bod gan unigolion ar draws iechyd, awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol filoedd o gysylltiadau bob dydd ac maent mewn sefyllfa ddelfrydol i hyrwyddo iechyd a lles.
Mae MECC yn canolbwyntio ar yr ymddygiadau allweddol canlynol sydd, wrth fynd i’r afael â nhw, yn gallu gwneud y gwelliant mwyaf i iechyd unigolyn:
- Rhoi’r gorau i smygu
- Yfed alcohol dim ond o fewn y terfynau a argymhellir
- Bwyta’n iach
- Bod yn actif yn gorfforol
- Gwella iechyd a lles meddyliol
- Cael yr imiwneiddiadau a’r brechiadau diweddaraf
- Derbyn cynnig sgrinio pan fydd unigolyn yn gymwys
Beth mae MECC yn ei olygu:
I sefydliadau
Darparu staff a gwirfoddolwyr â’r arweinyddiaeth, yr hyfforddiant a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt i gyflwyno ymagwedd MECC yn effeithiol.
I staff a gwirfoddolwyr
Meddu ar y cymhwysedd a’r hyder i gyflwyno negeseuon iechyd, i helpu annog pobl i newid eu hymddygiad ac i’w cyfeirio at wasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n gallu eu cefnogi.
I unigolion
Ceisio cymorth a gweithredu er mwyn gwella’u hiechyd a’u lles eu hunain.
Beth nad yw MECC
Nid yw MECC yn gwneud y canlynol:
- ychwanegu tasg arall at ddiwrnodau gwaith sy’n brysur yn barod
- dod yn arbenigwyr ar ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd
- bod yn gwnselwyr neu ddarparu cymorth parhaus i unigolion penodol
- dweud wrth bobl beth i’w wneud a sut i fyw eu bywyd.
Beth yw buddion MECC?
Mae buddion ynghlwm wrth roi ymagwedd MECC ar waith ar draws amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys lle rydym ni’n cael ein geni a lle rydym ni’n tyfu i fyny, yn byw ac yn heneiddio. Trwy ddefnyddio rhyngweithiadau cyffredin i gynnal sgyrsiau am ymddygiadau iechyd, gall ymagwedd MECC effeithio’n gadarnhaol ar unigolion, gweithwyr proffesiynol, sefydliadau a chymunedau.
Buddion sefydliadol
- Mae ymagwedd MECC yn helpu i gyflawni cyfrifoldebau am wella iechyd a lles y boblogaeth.
- Mae ymagwedd MECC yn cefnogi datblygiad staff trwy hybu ymwybyddiaeth, sgiliau, hyder a chymhelliant.
- Gall ymagwedd MECC gael ei hintegreiddio i fentrau presennol ar gyfer gwella iechyd neu’r gweithlu.
Buddion i’r economi iechyd leol ac i’r gymuned
- Mae’n gwella mynediad at gyngor ar ymddygiad iach.
- Gall leihau salwch ac arbed costau ar draws y system iechyd leol.
- Mae’n annog ymgysylltu a chydweithredu cymunedol.
Buddion i staff a gwirfoddolwyr
- Mae’n grymuso staff a gwirfoddolwyr i rannu negeseuon am ymddygiad iechyd yn hyderus ac fel mater o drefn.
- Mae’n galluogi staff a gwirfoddolwyr i gyfeirio pobl at wasanaethau cymorth lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.
Buddion cenedlaethol a buddion i’r boblogaeth
- Mae’n defnyddio adnoddau presennol yn well i wella iechyd cyhoeddus.
- Mae’n cynnig potensial i gyfrannu at leihau anghydraddoldebau iechyd trwy gefnogi newid mewn ymddygiad.
- Mae’n cyrraedd pobl na fyddent fel arall yn ceisio cyngor neu arweiniad ar iechyd.
Buddion unigol
Ar gyfer unigolion, gall dull MECC gynorthwyo pobl i weithredu er mwyn gwella’u hiechyd a’u lles eu hunain. Mae hyn yn cynnwys bwyta’n iach, bod yn actif yn gorfforol, yfed alcohol o fewn y terfynau a argymhellir yn unig, rhoi’r gorau i smygu, gwella iechyd a lles meddyliol, derbyn cynnig sgrinio pan fydd unigolyn yn gymwys a chael yr imiwneiddiadau a’r brechiadau diweddaraf.
Cysylltiadau
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Ebost: [email protected]
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Ebost: Florence Beach at [email protected]
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ebost: [email protected]
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ebost: [email protected]
Ffôn: 03000 858 695
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Ebost: [email protected]
Ffôn: 02921 836505
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Ebost: [email protected] neu [email protected]
Ffôn: 01685 351450
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Ebost: [email protected]
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Ebost: [email protected]
Iechydd Cyhoeddus Cymru
Ebost: Annie Petherick at [email protected]
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ebost: [email protected]
Gwybodaeth bellach
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn