Neidio i'r cynnwys

Gwerth cymdeithasol ac economeg iechyd

Beth yw economeg iechyd?

Mae economeg iechyd yn is-ddisgyblaeth o economeg sy’n defnyddio damcaniaethau a dulliau economaidd i fynd i’r afael â heriau iechyd a lles y byd go iawn. Mae’n canolbwyntio ar sut i ddyrannu adnoddau’n effeithiol ac yn deg er mwyn gwella iechyd y boblogaeth, ac yn ystyried ffactorau fel tegwch, effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, a gwerth am arian.

Mae gwerthuso economaidd yn chwarae rhan allweddol yn hyn o beth, trwy gymharu costau a chanlyniadau gwahanol opsiynau gofal iechyd. Mae hyn yn llywio penderfyniadau er mwyn dyrannu cyllid ac adnoddau gofal iechyd prin yn effeithiol. Mae sawl math o werthuso economaidd, ac mae’r dewis o ddull y dylid ei ddefnyddio yn dibynnu ar y cwestiwn economaidd sy’n cael ei drafod.

Beth yw gwerth cymdeithasol?

Gwerth cymdeithasol yw’r gwerth ehangach y mae gweithredoedd beunyddiol sefydliadau yn ei greu i gymdeithas, i gymunedau, ac i’r blaned – y tu hwnt i’w henillion ariannol ac economaidd. Mae’n cwmpasu effaith gadarnhaol y gweithgareddau hyn ar unigolion, cymunedau, yr amgylchedd a llesiant cymdeithasol cyffredinol. 

Trwy ddefnyddio methodolegau gwerth cymdeithasol – e.e. Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi – gallwn gynhyrchu tystiolaeth sy’n dangos pa mor werthfawr yw gwahanol newidiadau i ganlyniadau i randdeiliaid. Gall y wybodaeth hon helpu i gael y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ganolbwyntio ar raglenni ac ymyriadau sy’n creu’r gwerth mwyaf i boblogaethau lleol.

Rhan economeg iechyd a gwerth cymdeithasol yn iechyd y cyhoedd

Mae mwy a mwy o alw ar ddulliau o gofnodi ac o arddangos effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ehangach gwasanaethau ac ymyriadau iechyd y cyhoedd i ddarparu gwerth ehangach.

Mae economeg iechyd a dulliau sy’n seiliedig ar werth cymdeithasol yn rhan ganolog o’r ymdrech hon.

  • Mae modelu a gwerthuso economaidd yn caniatáu inni fesur a thystio gwerth, cost-effeithiolrwydd ac effeithiau uniongyrchol a hirdymor rhaglen neu fenter ar iechyd a llesiant y boblogaeth.
  • Mae methodolegau gwerth cymdeithasol yn ein helpu i gofnodi’r manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach y mae dulliau economaidd traddodiadol yn aml yn eu hanwybyddu.

Gyda’i gilydd, mae’r dulliau hyn yn allweddol wrth gefnogi llunwyr polisi a’r rhai sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau i fuddsoddi’n wybodus ac i flaenoriaethu adnoddau’n effeithiol, gan sicrhau bod ymdrechion iechyd y cyhoedd yn rhoi’r gwerth mwyaf posibl i unigolion, cymunedau a chymdeithas.

Gallwch ddysgu mwy am werth cymdeithasol iechyd y cyhoedd yn y tudalennau gwybodaeth bellach.

Buddsoddi mewn atal

Mae’r heriau sy’n ein hwynebu o ganlyniad i glefydau cronig cynyddol, anghydraddoldebau iechyd sy’n ehangu, ac effeithiau iechyd sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yn gofyn am atebion integredig i amddiffyn llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae buddsoddi mewn dulliau ataliol ar gyfer iechyd a llesiant yn cynnig ffordd o leihau baich economaidd heriau o’r fath yn ogystal â rhoi budd i bobl, cymunedau, a’r blaned. Mae tystiolaeth yn dangos bod pob £1 a fuddsoddir mewn ymyriadau iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn arwain at enillion o £14, gan leihau baich a chostau hirdymor salwch a galluogi defnydd mwy effeithlon o adnoddau cyfyngedig.

Mae ymrwymiad cryf a pharhaus i atal yn allweddol os ydym am gynnal gwasanaethau iechyd a gofal gwydn yng Nghymru. Gall buddsoddiad o’r fath wrthdroi’r dirywiad yn iechyd y genedl, mynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd, a galluogi pobl Cymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach.

Darllenwch fwy am fuddsoddiad cynaliadwy ar iechyd a llesiant.

Cyfrannu at llesiant ac economïau sylfaenol

Mae Cymru wedi ymrwymo i adeiladu economi llesiant ac mae hi’n cael ei chydnabod fel cenedl flaengar yn y newid byd-eang tuag at fodelau economaidd sy’n canolbwyntio ar lesiant. Dysgwch fwy am ymagwedd Cymru tuag at economi llesiant (Saesneg yn unig).

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) yn sefydlu’r cyd-destun a’r amodau ar gyfer gweithredu Economi Llesiant ac Economi Sylfaenol, wedi’u harwain gan nodau a dangosyddion llesiant cenedlaethol sy’n hyrwyddo llesiant cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd hirdymor. 

Trwy ymgorffori dull sy’n seiliedig ar werth o wneud penderfyniadau – un sy’n ystyried y canlyniadau cymdeithasol, economaidd, ac amgylcheddol – gallwn helpu i sicrhau bod cyd-fanteision ehangach buddsoddi ar draws sectorau yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi. Mae hyn yn cefnogi datblygiad economi sy’n rhoi iechyd a llesiant pobl a’r blaned yn gwbl ganolog.

Mae rhagor o wybodaeth am economïau llesiant a sylfaenol yng Nghymru ar gael yma.

Y Tîm Lles Economeg a Gwerth

Mae Tîm Lles Economeg a Gwerth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canolbwyntio ar gasglu, cynhyrchu a lledaenu tystiolaeth gan defnyddio economeg iechyd a dulliau sy’n seiliedig ar werth cymdeithasol i gefnogi’r gwaith o flaenoriaethu adnoddau a chyllidebau yn strategol, gyda phwyslais ar ymyriadau ataliol i wella canlyniadau’r boblogaeth ac i sicrhau gwytnwch system hirdymor.

Mae rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gysylltu â’r tîm Economeg a Gwerth ar gael yma.

Gwybodaeth bellach

Darllenwch y tudalennau gwybodaeth bellach isod i gael rhagor o wybodaeth am y meysydd allweddol sy’n gysylltiedig ag economeg iechyd a gwerth. Mae’r rhain yn rhoi tystiolaeth, offer a dulliau ymarferol i gefnogi eich dealltwriaeth o ddulliau sy’n seiliedig ar werth economaidd a chymdeithasol iechyd a’u defnydd ymarferol.