Gwasanaeth Ymateb Acíwt Cymru Gyfan (AWARe) ac afiechyd hysbysadwy
Mae’r Tîm Diogelu lechyd yn rhoi cyngor iechyd y cyhoedd arbenigol ar reoli clefydau heintus. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r GIG, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill eraill i helpu i leihau lledaeniad clefydau heintus yng Nghymru.
Sut i roi gwybod am glefyd hysbysadwy
Gall gweithwyr iechyd proffesiynol roi gwybod am glefyd hysbysadwy neu holi ar fater diogelu iechyd trwy e-bost. Fodd bynnag, os yw’n fater brys neu’n hysbysiad, ffoniwch AWARe ar 0300 00 300 32.
Dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n dymuno rhoi gwybod am glefydau hysbysadwy y gallai fod angen gweithredu arnynt ar unwaith neu ar frys ym maes iechyd y cyhoedd, gysylltu â ni bob amser dros y ffôn.
Pwy ydym ni a beth rydym ni’n ei wneud
Mae’r Tîm Diogelu Iechyd yn darparu Gwasanaeth Ymateb Acíwt Cymru Gyfan o’r enw AWARe, sy’n derbyn yr holl adroddiadau clefydau hysbysadwy yn ystod oriau gwaith arferol.
Mae gennym saith tîm rhanbarthol hefyd sydd wedi’u lleoli ledled Cymru ac sydd wedi’u halinio â’r tri rhanbarth, sef:
- Byrddau Iechyd Gogledd Cymru a Phowys – Betsi Cadwaladr a Phowys. Cynghorau Sir Powys, Sir y Fflint, Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Byrddau Iechyd De-ddwyrain Cymru – Cwm Taf Morgannwg, Caerdydd a’r Fro, Aneurin Bevan. Cynghorau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen)
- Byrddau Iechyd Canolbarth a Gorllewin Cymru – Bae Abertawe (sy’n cynnwys Castell-nedd Port Talbot) a Hywel Dda. Cynghorau Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
Mae’r timau hyn yn gweithio’n agos gyda phartneriaid rhanbarthol i leihau effaith clefydau heintus yn eu cymunedau lleol.
Sut i gysylltu â ni
Y prif bwynt cyswllt ar gyfer y Tîm Diogelu Iechyd yw ein gwasanaeth AWARe (Ymateb Acíwt Cymru Gyfan).
Gall gweithwyr iechyd proffesiynol ffonio neu e-bostio:
Ffôn: 0300 00 300 32
E-bost: [email protected]
Noder
Dim ond rhwng dydd Llun a dydd Gwener 9yb-5yp y caiff hysbysiadau e-bost eu hadolygu.
Y tu allan i’r amseroedd hyn mae gennym dîm ar alwad hefyd, sy’n delio â materion diogelu iechyd brys yn unig y gellir cysylltu â nhw drwy ffonio 0300 00 300 32.
Gwybodaeth bellach
Adnoddau
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn