Gordewdra a Gorbwysau
Beth yw gordewdra a gorbwysau?
Mae’r termau gordewdra a gorbwysau yn cyfeirio at ystodau pwysau sy’n uwch na’r hyn a ystyrir yn gyffredinol yn iach.
Mae gordewdra yn gyflwr iechyd cronig. Yng Nghymru, mae mwy o bobl yn byw gyda phwysau uwch, ac oherwydd hyn, mae’n dod yn anoddach i gymdeithas ddeall sut beth yw ystod pwysau iach.
I oedolion dros 18 oed, y ffordd arferol o amcangyfrif a yw rhywun yn bwysau iach yw wrth ddefnyddio Mynegai Màs y Corff (BMI). Cyfrifir hyn wrth rannu pwysau mewn cilogramau â thaldra mewn metrau sgwâr. Er nad yw BMI yn mesur braster y corff yn uniongyrchol, caiff ei ddefnyddio’n helaeth i ddangos pwysau mewn perthynas ag uchder.
Mae offer ar gael i gyfrifo BMI, ac mae’r rhain yn ystyried cefndir teuluol. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall pobl o gefndir Asiaidd, Du Affricanaidd, Affricanaidd-Caribïaidd neu’r Dwyrain Canol fod â risg uwch o broblemau iechyd gyda BMI is (Cyfrifwch eich Mynegai Màs y Corff (BMI) – GIG (Saesneg yn unig)).
Mae’r categorïau BMI ar gyfer oedolion dros 18 oed fel a ganlyn:
- o dan bwysau <18.5
- pwysau iach 18.5 i <25
- dros bwysau 25 i <30
- gordew 30 i <40
- afiachus o ordew 40+
Mae BMI yn cael ei gyfrifo’n wahanol ar gyfer plant, ac yng Nghymru, mae gweithwyr proffesiynol iechyd yn cyfrifo a yw plant yn byw gyda gorbwysau neu ordewdra fel rhan o’r Rhaglen Mesur Plant mewn ysgolion.
Cyfyngiadau BMI
Mae BMI yn mesur pwysau mewn perthynas ag uchder, ond ni all wahaniaethu rhwng braster, cyhyrau, a màs esgyrn. Mae hyn yn golygu y gallai person cyhyrog iawn, fel athletwr, gael ei ddosbarthu’n berson “dros bwysau”. Gall dulliau eraill, fel cymhareb taldra i bwysau, helpu i ddangos bod llawer o fraster wedi’i storio o amgylch eich gwasg. Gall cario braster gormodol o amgylch eich gwasg gynyddu’r risg o broblemau iechyd fel clefyd y galon a diabetes math 2. Er mwyn aros o fewn yr ystod iach, dylai mesuriad eich gwasg fod yn llai na hanner eich uchder: Cyfrifwch eich cymhareb canol i daldra – GIG (Saesneg yn unig).
Pam mae gordewdra a gorbwysau yn broblem yng Nghymru?
Mae byw gyda gorbwysau neu ordewdra yn cynyddu’r risg o ystod eang o afiechydon cronig. Mae hyn yn cynnwys diabetes math 2, pwysedd gwaed uchel, a chlefyd cardiofasgwlaidd fel trawiad ar y galon a strôc. Gall hefyd gynyddu’r risg o rai mathau o ganser, clefyd yr arennau, apnoea cwsg rhwystrol, gowt, osteoarthritis, clefyd yr afu/iau, a chyflyrau iechyd eraill fel dementia. Mae gordewdra yn arwain at gynnydd yn nifer y blynyddoedd y mae person yn byw gydag anabledd ac yn gostwng disgwyliad oes.
Dysgwch ragor am risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â gordewdra.
Mae byw gyda gordewdra yn gallu amharu ar les unigolyn, eu hansawdd bywyd a’u gallu i ennill arian. I rai, mae hefyd yn gallu effeithio ar eu hiechyd meddwl, gan arwain at broblemau fel hunan-barch isel, hunanddelwedd wael, a lefelau isel o hyder.
Mae gordewdra yn dod yn fwy cyffredin yng Nghymru, fel y mae ledled y byd. Mae costau gofal iechyd sy’n gysylltiedig â thrin gordewdra a’r cyflyrau iechyd a achosir gan ordewdra yn uchel ac yn parhau i gynyddu.
Amcangyfrifwyd yn 2024 bod y costau uniongyrchol o dalu am drin pobl sy’n byw gyda gorbwysau neu ordewdra a chlefydau sy’n gysylltiedig â gordewdra yn £0.5 biliwn, ac amcangyfrifwyd bod y costau anuniongyrchol (fel colli enillion oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â gordewdra, a marwolaeth gynnar) yn £2 biliwn. (Ffynhonnell: Crynodeb o dueddiadau mewn ffactorau risg ar gyfer clefydau anhrosglwyddadwy – Iechyd Cyhoeddus Cymru).
Faint o bobl yng Nghymru sy’n byw gyda gorbwysau neu ordewdra?
Mae cyfran y plant ac oedolion yng Nghymru sy’n cynnal pwysau iach yn gostwng:
- Yn 2022, roedd 62% o oedolion yn byw gyda gorbwysau neu ordewdra, a chwarter o’r rheini’n byw gyda gordewdra.
- Yn 2023-24, roedd 13.7% o blant a ddechreuodd yn yr ysgol yn byw gyda gorbwysau ac roedd 11.8% yn byw gyda gordewdra. Mae’r patrymau hyn yn dechrau ymhell cyn i blant gyrraedd oedran ysgol, wedi’u llunio gan ddylanwadau yn ystod beichiogrwydd, babandod a phlentyndod cynnar.
- Cymru sydd â’r lefelau uchaf yn y Deyrnas Unedig o blant sy’n byw gyda gordewdra.
- Mae cyfraddau gordewdra yn uwch yn y cymunedau mwyaf difreintiedig.
Beth sy’n achosi gordewdra a gorbwysau?
Caiff gorbwysau a gordewdra eu hachosi gan ryngweithio rhwng ffactorau unigol fel prosesau ffisiolegol a phatrymau bwyd a gweithgarwch ar draws bywyd, a ffactorau amgylcheddol sy’n chwarae rhan mewn pennu maeth a gweithgarwch corfforol.
Ar ei symlaf, mae gorbwysau neu ordewdra yn ganlyniad anghydbwysedd mewn ynni sy’n digwydd pan mae’r ynni a fwytawn mewn bwyd a diod yn fwy na’r ynni a ddefnyddiwn yn ein gweithgareddau dyddiol. Mae’r calorïau ychwanegol yn cael eu storio fel braster y corff, a thros gyfnod o amser, mae hyn yn arwain at fagu pwysau.
Fodd bynnag, mae llawer o ffactorau cydgysylltiedig cymhleth sy’n arwain at orbwysau a gordewdra. Gall y rhain gynnwys:
- Ffactorau unigol fel geneteg, cyflyrau iechyd sylfaenol, effeithiau rhai meddyginiaethau, yr hyn rydym yn ei fwyta ac yfed, a pha mor egnïol ydym ni.
- Ffactorau seicolegol gan gynnwys cwsg aflonydd, lefelau uchel o straen, neu strategaethau ymdopi emosiynol sy’n ymwneud â bwyd.
- Mae pwysau cymdeithasol ac economaidd, fel diffyg amser, cyllidebau tynn, neu waith heriol a chyfrifoldebau teuluol hefyd yn effeithio ar y dewisiadau realistig sydd gan bobl. Gall y pwysau hwn ei gwneud hi’n anoddach bwyta’n dda neu fod yn egnïol, hyd yn oed pan fydd pobl wedi’u cymell i wneud hynny.
Mae’r amgylchedd rydym yn byw ynddo yn chwarae rhan fawr wrth ddylanwadu ar ba fwyd a diod sydd ar gael ac sy’n fforddiadwy ac yn ddeniadol, a pha mor hawdd neu anodd yw bod yn egnïol.
Cefnogi teuluoedd a sylfeini ar gyfer iechyd gydol oes
Bydd y camau a gymerir yn ystod blynyddoedd cyntaf bywyd yn cael yr effaith hirdymor fwyaf ar iechyd. Mae’r blynyddoedd cynnar yn gyfnod hollbwysig ar gyfer llunio patrymau dietegol gydol oes ac ymddygiadau iechyd ehangach. Mae maeth mamol a magu pwysau’n iach yn ystod beichiogrwydd yn helpu i gefnogi datblygiad iach y plentyn a lleihau ei risg o ordewdra yn ddiweddarach mewn bywyd. Ceir tystiolaeth y gall y ffactorau canlynol hefyd helpu plant i fyw gyda phwysau iach:
- bwydo ar y fron
- osgoi magu pwysau’n gyflym yn ystod babandod
- cyflwyno bwydydd solet yn amserol tua 6 mis oed
- gweithgarwch corfforol
- diet cytbwys ac iach trwy gydol babandod, plentyndod a llencyndod
Trwy sicrhau bod gan deuluoedd y gefnogaeth a’r amgylcheddau cywir yn ystod y cyfnodau hollbwysig hyn, gellir helpu i osod y sylfeini ar gyfer twf iach a phwysau iach trwy gydol bywyd.
Camau gweithredu i greu amgylcheddau bwyd iachach a chefnogi bywydau egnïol
Mae angen i ni greu amgylcheddau cefnogol sy’n annog bwyta’n iachach a gweithgarwch corfforol rheolaidd fel yr opsiynau hawsaf a mwyaf fforddiadwy i bawb. Mae cyflawni hyn yn gofyn am gamau cydgysylltiedig ar draws y system gyfan: ailfformiwleiddio bwyd a diod a gynhyrchir ymlaen llaw, a chyfyngu ar farchnata cynhyrchion sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr, yn enwedig i blant a chymunedau sy’n profi anghydraddoldebau; a lleihau tlodi, a mynd i’r afael â thrafnidiaeth a chynllunio trefol. Mae gan bawb ran i’w chwarae wrth greu’r amgylchiadau sy’n gwneud dewisiadau iachach yn hawdd, yn fforddiadwy ac yn rhan o fywyd bob dydd.
Gall gweithwyr proffesiynol yr amgylchedd adeiledig helpu i sicrhau bod datblygiadau newydd a phrosiectau adfywio yn blaenoriaethu mynediad i fannau gwyrdd, llwybrau teithio llesol, mynediad at fwyd iachach, cynllunio gwell i reoli siopau bwyd poeth tecawê, a chyfleusterau cymunedol sy’n cefnogi byw’n iachach.
Mae rôl allweddol gan weithleoedd ac ysgolion, hefyd, wrth gynnig dewisiadau iachach o ran bwyd a diod, a chreu cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol cyn, yn ystod, ac ar ôl y diwrnod gwaith.
Gall y diwydiant bwyd gyfrannu wrth ailfformiwleiddio cynhyrchion i leihau faint o fraster, siwgr a halen y mae pobl yn ei fwyta, ac wrth sicrhau bod dewisiadau mwy fforddiadwy a maethlon ar gael ac yn hygyrch i bob cymuned.
Yn ogystal, gellir gwneud newidiadau mewn polisi, rheoleiddio ac arferion. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod bwyd a diod a ddarperir mewn lleoliadau fel ysbytai ac ysgolion yn faethlon, a bod gan bobl ifanc fannau diogel i chwarae a bod yn egnïol.
Mae hyn yn cynnwys gwaith i’w gwneud hi’n haws i bobl yng Nghymru gyflawni pwysau iach, trwy’r Dull System Gyfan ar gyfer Pwysau Iach.
Mae’r camau gweithredu hyn ar draws y system yn rhan o uchelgeisiau Strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach Llywodraeth Cymru, ac yn ategu gwaith ehangach ar draws timau iechyd cyhoeddus.
Helpu unigolion i fod â phwysau iach
Mae gwasanaethau cymorth lleol (llwybrau) ar gael trwy wasanaethau rheoli pwysau’r bwrdd iechyd.
Mae’r safonau ar gyfer gwasanaethau llwybr wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru o dan thema Pobl Iach Strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adolygu sut mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu’n lleol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu gwefan, Pwysau Iach Byw’n Iach, i gefnogi unigolion i gyrraedd a chynnal pwysau iach. (Mae hyn yn alinio â Lefel 1 Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan.) Mae’r wefan yn defnyddio offeryn unigryw ‘Dod o Hyd i’ch Siwrnai’, a ddatblygwyd ar gyfer canolbwyntio ar yr heriau a’r cymhellion sy’n gysylltiedig â chyflawni pwysau iach, ac mae’n cynnig cefnogaeth i alluogi pobl i gyflawni newid cynaliadwy.
Gwybodaeth bellach
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn