Datrysiadau ar gyfer tegwch iechyd
Mae Datrysiadau tegwch iechyd, a arferai gael ei alw’n lwyfan datrysiadau ecwiti iechyd Cymru, yn rhan o fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi), sy’n cyflawni Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO); a chefnogi Cymru iachach, mwy cyfartal a ffyniannus ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Cymru yw’r wlad gyntaf i gyflwyno menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Ewropeaidd (HESR) WHO (Saesneg yn unig), gan dod yn ddylanwad byd-eang ac yn safle arloesi byw ar gyfer tegwch iechyd a buddsoddiad ar gyfer iechyd a llesiant, datblygu a hyrwyddo dulliau, offer a datrysiadau arloesol ar gyfer sicrhau bywydau iach a llewyrchus i bawb yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’r tudalennau hyn yn borth i ddata, tystiolaeth, economeg a modelu iechyd, polisïau, arfer da, offer arloesol ac atebion ymarferol i helpu i wella llesiant y boblogaeth ac i leihau’r bwlch tegwch iechyd yng Nghymru a thu hwnt. Mae wedi’i strwythuro o amgylch fframwaith arloesol WHO o ‘Bum Amod Hanfodol’ ar gyfer bywydau iach a ffyniannus i bawb.
Beth yw tegwch iechyd?
Dim gwahaniaethau annheg, gwahaniaethau y gellir eu hosgoi, neu wahaniaethau y gellir eu cywiro rhwng grwpiau o bobl, p’un a yw’r grwpiau hynny’n cael eu diffinio’n gymdeithasol, yn economaidd, yn ddemograffig neu’n ddaearyddol neu drwy ddulliau eraill megis rhyw, ethnigrwydd neu anabledd. Mae tegwch iechyd yn bodoli pan all pawb gyflawni eu potensial llawn ar gyfer iechyd a llesiant.
Gweithio i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru?
Mae’r dudalen hon wedi’i datblygu i’ch cefnogi gyda’r dystiolaeth, y ddealltwriaeth, a’r datrysiadau ymarferol y byddwch eu hangen i wneud gwahaniaeth. Mae’n cydgasglu data o ansawdd uchel, dulliau polisi profedig, a dadansoddiad economaidd mewn un lle hygyrch sy’n eich helpu i ddeall beth sy’n achosi anghydraddoldeb a nodi lle mae angen gweithredu fwyaf. P’un ai eich bod yn gweithio ym maes polisi, gofal iechyd, llywodraeth leol neu’r trydydd sector, mae’r adnodd hwn wedi’i gynllunio i gefnogi penderfyniadau gwybodus, sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n gwella iechyd a llesiant i bawb.
Tabl cynnwys:
- Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y canlynol:
- HealthEquityDigest
- Edrych ar degwch iechyd o safbwynt economeg, polisi, a heriau iechyd byd-eang
- Mewnwelediadau ac allbynnau o fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi)
- Wedi colli un o'n gweminarau? Gwylio ar alw
- Pynciau cysylltiedig
- Gwybodaeth bellach
- Adroddiadau
- Adnoddau
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y canlynol:
-
Y pum amod hanfodol
Mae datrysiadau tegwch iechyd wedi’u trefnu o amgylch fframwaith ecwiti iechyd ‘Pum Amod Hanfodol’ arloesol WHO, a ddatblygwyd gan Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Buddsoddi er Iechyd a Datblygu yn Fenis, yr Eidal. Dysgwch fwy am y Pum Amod Hanfodol yma.
-
Chwilio am ddatrysiadau
Edrychwch ar wybodaeth a dealltwriaeth sy’n ymwneud â thegwch iechyd, mae’r nodweddion yn cynnwys y gallu i hidlo yn ôl amod hanfodol, dyddiad cyhoeddi, a mwy.
-
Beth mae’r data yn ei ddweud wrthym?
Edrychwch ar ein rhestr o ffynonellau data cenedlaethol a rhyngwladol sy’n cynnwys data a gwybodaeth sy’n ymwneud â’r pum amod hanfodol. Gallwch gael mynediad i’r data ategol hwn yma.
-
Ymgyrchu dros gydraddoldeb iechyd
Dysgwch am y broses datblygu polisi a sut y gellir defnyddio’r platfform i lywio datblygiad a newidiadau polisi yn llwyddiannus. Gallwch ddysgu mwy am y chwe cham o ddatblygu polisi yma.
HealthEquityDigest
Mae’r HealthEquityDigest yn cynnal cyfres o gyhoeddiadau hawdd eu darllen, sy’n manylu ar atebion tegwch iechyd y gellir eu cymhwyso yng Nghymru a thu hwnt. Maent yn tynnu sylw at atebion sy’n canolbwyntio ar weithredu, gan fynd ymhellach na dim ond disgrifio’r broblem trwy gynnig gweithredoedd pragmatig gyda’r nod o gau bylchau iechyd. Gweld pob un o gyhoeddiadau HealthEquityDigest.
Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau am adnoddau, mewnwelediadau a digwyddiadau sy’n tynnu sylw at y polisïau, mentrau a’r cynnydd sy’n siapio dyfodol mwy teg ym maes iechyd. O bostiadau blog newydd a digwyddiadau sydd ar y gweill i offer, adnoddau, a chyfleoedd i gymryd rhan – byddwch chi’n cael y cyfan yn syth i’ch mewnflwch.
CofrestrwchEdrych ar degwch iechyd o safbwynt economeg, polisi, a heriau iechyd byd-eang
Mae miliynau o bobl ledled y byd yn wynebu mynediad anghyfartal at ofal iechyd oherwydd caledi economaidd, bylchau polisi, a bregusrwydd systemig. Mae tegwch iechyd yn golygu mwy na dim ond triniaeth gyfartal, mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i gyrraedd eu potensial iechyd llawn, waeth ble maent yn byw neu pa adnoddau sydd ganddynt. Trwy edrych ar groestoriad economeg iechyd, polisi cyhoeddus, a gwahaniaethau byd-eang, gallwn ddeall yn well achosion sylfaenol anghenion iechyd heb eu diwallu ac archwilio atebion ystyrlon.
Dysgwch fwy am sut y gall ffactor ehangach helpu i newid y feddylfryd ynghylch tegwch iechyd.
Mewnwelediadau ac allbynnau o fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi)
Mynnwch olwg manwl ar yr ymchwil a’r dystiolaeth a ddatblygwyd gan fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru. Mae’r adnoddau hyn yn rhoi mewnwelediadau clir i’r ffactorau sy’n siapio tegwch iechyd yng Nghymru. Rydym yn cyfeirio at y rhain fel deunyddiau cyfeirio – gweld yr holl ddeunyddiau cyfeirio a ddatblygwyd gan WHESRi.
Wedi colli un o’n gweminarau? Gwylio ar alw
Wedi methu dod i weminar diweddar? Rydym wedi ei gwneud hi’n hawdd i chi glywed y newyddion diweddaraf – pan fo’n gyfleus i chi.
Mae ein archif gweminarau yn cynnig recordiadau o sesiynau blaenorol a gynhaliwyd dan arweiniad arbenigwyr, ymchwilwyr ac ymarferwyr o bob cwr o’r maes. Mae’r gweminarau’n trafod ystod o bynciau, o dueddiadau iechyd sy’n dod i’r amlwg i ddiweddariadau polisi a strategaethau cymunedol, ac maen nhw wedi’u cynllunio i gefnogi eich gwaith a chryfhau’r effaith ar iechyd y cyhoedd.
Gwyliwch ein digwyddiadau blaenorol pan fo’n gyfleus i chi.
Pynciau cysylltiedig
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein tudalennau ar anghydraddoldeb iechyd, iechyd rhyngwladol, a phenderfynyddion ehangach iechyd ac anghydraddoldebau.
Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Annhegwch iechyd Iechyd rhyngwladol Penderfynyddion ehangach o iechyd ac anghydraddoldebau
Adroddiadau