Neidio i'r cynnwys

COVID-19

Mae COVID-19 yn glefyd anadlol heintus iawn a achosir gan feirws. Bydd gan y mwyafrif o bobl sydd wedi’u heintio â’r feirws salwch anadlol ysgafn i gymedrol, a byddant yn gwella heb fod angen triniaeth. Gall fod yn fwy difrifol yn achos pobl hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd penodol, megis bod â system imiwnedd wan. Os bydd y bobl hyn yn dal y feirws, gallant fynd yn ddifrifol wael ac efallai y bydd arnynt angen gofal meddygol neu gael eu derbyn i’r ysbyty.

Symptomau COVID-19

Ymhlith symptomau cyffredin COVID-19 mae pesychu parhaus, methu arogli neu flasu neu newid i’ch synnwyr o arogl neu flas, poenau, cur pen, blinder, a gwendid. Mae rhagor o wybodaeth am COVID-19 ar gael yn ganllawiau Llywodraeth Cymru i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19.  

Sut i amddiffyn eich hun

Y ffordd orau o amddiffyn eich hun rhag y feirws yw cael y brechlyn COVID-19. Dros amser, gall feirysau newid a gall lefelau eich amddiffyniad leihau. Bydd cael eich brechu yn eich helpu i gael symptomau llai difrifol a gwella’n gyflymach.

Gwybodaeth:

Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlynnau, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 Cymru neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol

Efallai y bydd diddordeb gennych ddarllen yr adroddiadau a chynhyrchwyd am fewnwelediadau iechyd rhyngwladol neu hoffwch chi weld yr arolygon ymgysylltu â’r cyhoedd ar iechyd a lles yn ystod mesurau coronafeirws.

Data