Neidio i'r cynnwys

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA)

Beth yw Asesiad o’r Effaith ar Iechyd?

Mae Consensws Gothenburg y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Polisi Iechyd (1999) yn diffinio Asesiad o’r Effaith ar Iechyd fel:

‘cyfuniad o weithdrefnau, dulliau ac offer y gellir barnu polisi, ymyrraeth neu wasanaeth yn eu herbyn o ran ei effeithiau posibl ar iechyd poblogaeth, a dosbarthiad yr effeithiau hynny o fewn poblogaeth’ (Canolfan Ewrop ar gyfer Polisi Iechyd, 1999).

Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn broses seiliedig ar dystiolaeth sydd yn ymarferol, yn systematig ac yn hyblyg. Gellir ei defnyddio i nodi unrhyw effeithiau neu gyfleoedd cadarnhaol ar iechyd a llesiant yn ogystal ag unrhyw effeithiau negyddol anfwriadol.

Trawsysgrif – Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA)

Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA)

Mae pob penderfyniad a wnawn yn llunio ein dyfodol, ac yn effeithio ar iechyd a llesiant ein poblogaethau, ein cymunedau a’n hamgylchedd.

Dyna pam mae Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, neu HIA yn gryno, yn rhan hanfodol o wneud penderfyniadau strategol o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru)  2017 ac yn cael eu harwain gan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Ond beth yw Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd?

Maent yn helpu cyrff cyhoeddus I ddeall effaith penderfyniadau strategol ar iechyd a llesiant.

Gellir eu defnyddio’n wirfoddol hefyd I asesu effeithiau posibl ar gynnig, cynllun neu bolisi ar iechyd a llesiant drw lens penderfynyddion ehangach iechyd.

Fel offeryn systematig sy’n seiliedig ar dystiolaeth, mae HIA yn ystyried yr effeithiau negyddol cadarnhaol ac anfwriadol ar iechyd unigolion a chymunedau.

Trwy asesu’r dystiolaeth sydd ar gael, a chreu tystiolaeth newydd gyda chyfranogiad rhanddeiliaid, nodir effeithiau a gwneir argymhellion I sicrhau’r buddion iechyd mwyaf posibl er mwyn lleihau risigau iechyd.

Mae cynnal HIA yn helpu i leihau anghydraddoldebau a hyrwyddo tegwch. Gellir cynnal HIAs ar lefel gymunedol, sy’n cynnwys yn uniongyrchol y bobl y gellid effeithio arnynt.

Er enghraifft, arwyddion HIA ar brosiect mannau gwyrdd trefol newydd yn y Rhyl at ddatblygu parc cymunedol cynaliadwy.

Gellir cynnal HIAs ar lefel polisi hefyd. Ystyriodd HIA o’r polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol yn ystod y pandemig COVID-19 yng Nhgymru yr effeithiau ehangach ar iechyd a llesiant ar boblogaeth Cymru a llywiodd diweddariadau polisi.

Yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru yma I helpu.

O ganllawiau ar-lein, e-ddysgu I hyfforddiant wyneb yn wyneb, rydym yn darparu’r offer a’r arbenigedd I helpu pobl eraill I gynnal HIAs o ansawdd ac sy’n cael effaith.

Rydym yn rhoi’r grym I randdeiliad I sicerhau bod iechyd a llesiant yn ystyriaeth allweddol ym mhob sector polisi, ac yn ysgogi newid cadarnhaol ledled Cymru a thu hwnt.

Drwy ddeall effeithiau ehangach ein penderfyniadau, gallwn greu Cymru iachach a thecach ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru

Mae Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yn cael eu henwi fel gofyniad statudol yng Nghymru o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Mae UGAEIC yn darparu arweiniad, hyfforddiant a chymorth ymarferol i helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru i baratoi ar gyfer gweithredu ac ymgorffori Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd mewn prosesau polisi a gwneud penderfyniadau.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am reoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA).

Manteision Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd

Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn broses sy’n eich galluogi i ystyried, mewn ffordd systematig, sut y gall penderfyniadau mewn ardaloedd ar draws sectorau a lleoliadau ar amrywiaeth o lefelau – cenedlaethol, rhanbarthol, lleol, cymunedol ac ar draws gwahanol lefelau gwneud penderfyniadau – o lefel strategol hyd lefel weithredol.

Mae gan Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd sawl budd o ran iechyd a llesiant, i gymunedau a sefydliadau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Hyrwyddo mwy o degwch mewn iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau trwy ganolbwyntio ar grwpiau poblogaeth a allai fod yn fwy tebygol o’u profi.
  • Nodi canlyniadau cadarnhaol yn ogystal â chanlyniadau anfwriadol, a ffyrdd o’u lliniaru os oes angen. Mae Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yn darparu gwerth ychwanegol trwy nodi bylchau a chyfleoedd.
  • Hyrwyddo tystiolaeth a chynllunio a gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar wybodaeth.
  • Gwella dealltwriaeth ar draws meysydd polisi o gyfraniad sector at wneud y mwyaf o ganlyniadau iechyd a lles cadarnhaol a lleihau anghydraddoldebau.
  • Cryfhau gweithio mewn partneriaeth, cydweithredu traws-sector, prosesau ymgynghori a chyd-gynhyrchu.
  • Cynnwys y bobl a fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau a wneir neu bobl sydd â diddordeb ynddynt.
  • Bod yn offeryn defnyddiol, cymesur a hyblyg i’r holl randdeiliaid ar draws sectorau.
  • Gall gefnogi’r ystyriaeth o iechyd ac anghydraddoldebau poblogaeth ar draws dyletswyddau ac asesiadau effaith eraill ac osgoi dyblygu.

Y broses Asesiad Effaith ar Iechyd

Mae’r broses Asesiad Effaith ar Iechyd yn dilyn proses gam wrth gam hyblyg. Dysgwch am bob cam o’r broses Asesiad Effaith ar Iechyd (HIA).

Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC)

Mae UGAEIC yn ganolfan ar gyfer cefnogi a gwella’r defnydd o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Maen nhw’n gwneud hyn trwy gynnig hyfforddiant, offer, adnoddau a chefnogaeth arbenigol i helpu sefydliadau a chymunedau i lunio polisïau sy’n gwella iechyd a llesiant ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd ledled y wlad.

Dysgwch fwy a chysylltwch ag Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC).

Canllawiau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd ar gyfer ymarfer

Mae UGAEIC wedi datblygu canllawiau cam wrth gam ymarferol i’w gwneud yn haws ac yn fwy hygyrch i gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru. Darllenwch y Canllawiau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) ar gyfer ymarfer.

Adroddiadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd

Mae UGAEIC wedi arwain a chyfrannu at nifer o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru ac yn rhyngwladol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Os oes gennych ddiddordeb mewn ychwanegu eich Asesiad chi at ein casgliad ar-lein, cysylltwch â ni trwy anfon neges i [email protected].

Cyrchwch yr holl adroddiadau asesiad o’r effaith ar Iechyd (HIA) a gynhyrchwyd gan UGAEIC a’u partneriaid allanol.

Adnoddau HIA

Mae amrywiaeth o adnoddau HIA ar gael i’ch cefnogi i gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd o ansawdd uchel. Mae’r adnoddau hyn yn darparu canllawiau, offer ac enghreifftiau arfer gorau ymarferol i helpu i sicrhau bod asesiadau’n gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gymesur.

Rhwydwaith Ymarfer Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd

Mae ein Rhwydwaith Ymarfer Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) yn rhwydwaith cydweithredol ar gyfer pobl sy’n angerddol am wella iechyd a thegwch trwy ddull Iechyd ym Mhob Polisi (HiAP) o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Does ots os ydych chi’n anghyfarwydd â’r Asesiadau neu’n brofiadol, dyma rwydwaith lle gallwch gysylltu, dysgu a rhannu. Mae’n dod â gweithwyr proffesiynol o bob sector ynghyd, gan gynnwys: cynllunio, iechyd y cyhoedd, polisi, ymchwil a datblygu cymunedol—ledled Cymru a thu hwnt.

Hyfforddiant ar Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd

Mae UGAEIC yn darparu hyfforddiant arbenigol ar Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) i gefnogi unigolion a sefydliadau i’w defnyddio yn effeithiol. Mae ein hyfforddiant yn cwmpasu’r egwyddorion, y broses a’r defnydd ymarferol o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan helpu i adeiladu gallu ar draws sectorau a chefnogi penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Papurau academaidd HIA

Mae UGAEIC wedi arwain a chyfrannu at bapurau academaidd sy’n arddangos ei waith ar lwyfan ryngwladol. Mae’r cyhoeddiadau hyn yn tynnu sylw at arbenigedd, dull cydweithredol, ac effaith yr uned ar draws disgyblaethau, gan helpu i rannu dysgu, dylanwadu ar ymarfer, a chodi proffil ei gwaith yn fyd-eang.

Cynllunio gofodol

Mae UGAEIC yn cefnogi integreiddio Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd o fewn cynllunio gofodol er mwyn sicrhau bod cynlluniau a datblygiadau yn hyrwyddo iechyd, lles a thegwch. Trwy ddarparu arweiniad ac arbenigedd, mae UGAEIC yn helpu cynllunwyr a llunwyr polisi i asesu’r effeithiau posibl y gall cynigion eu cael ar iechyd ac i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n canolbwyntio ar iechyd.