Neidio i'r cynnwys

Angyhraddoldebau iechyd

Mae gormod o bobl yn ein cymunedau yng Nghymru yn profi iechyd gwael neu’n byw bywydau byrrach oherwydd niwed annheg ac y gellir ei osgoi i’w hiechyd. Gelwir y gwahaniaethau hyn mewn canlyniadau iechyd yn anghydraddoldebau iechyd. Mae ein naratif am annhegwch Iechyd yn disgrifio beth yw annhegwch iechyd a beth sy’n eu hachosi.

Gall anghydraddoldebau iechyd effeithio ar bobl yn seiliedig ar ffactorau fel:

  • Amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd (fel tlodi, addysg, tai a swyddi)
  • Nodweddion gwarchodedig (e.e. hil, oedran, rhyw, anabledd, crefydd)
  • Pobl sydd mewn mwy o bergyl neu risg luosog (e.e. ceiswyr lloches, pobl sy’n ddigartref neu sydd ynghlwm wrth y system gyfiawnder)
  • Lle maen nhw’n byw ac yn treulio amser (e.e. ardaloedd trefol, gwledig, neu arfordirol, a mynediad at wasanaethau lleol.

Mae llawer o bobl yn perthyn i fwy nag un o’r grwpiau hyn. Gelwir hyn yn groestoriadedd, a all waethygu anghydraddoldebau iechyd ymhellach.

Sut gallwn leihau anhegwch iechyd?

Er mwyn sicrhau iechyd da, mae angen i bobl gael y sylfeini cywir yn eu lle – fel tai da, gwaith teg, plentyndod meithringar, a mynediad at ofal iechyd.Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i leihau’r anghydraddoldebau hyn drwy hysbysu, eiriol dros, a symud camau gweithredu, a thrwy sicrhau bod ein gwasanaethau’n darparu ar gyfer pawb. Rydym am greu Cymru lle mae gan bawb gyfle teg i fyw’n dda a byw’n hirach mewn iechyd da.

Rydym wedi datblygu fframwaith wedi’i seilio ar dystiolaeth i’w ddefnyddio wrth wneud penderfyniadau a’r prosesau cynllunio i leihau anghydraddoldebau iechyd.

Mae ein tudalen Atebion ar gyfer Cydraddoldeb Iechyd yn darparu gwybodaeth bellach am ddata, tystiolaeth, economeg iechyd a modelu, polisïau, arfer da, offer arloesol a datrysiadau ymarferol i helpu gwella lles y boblogaeth a lleihau’r bwlch cydraddoldeb iechyd yng Nghymru.

Sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i leihau anghydraddoldebau iechyd?

Rydym yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy ddarparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus rhagorol i amddiffyn y cyhoedd a gwasanaethau canlyniadau iechyd, er enghraifft:

Rydym hefyd yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd trwy gefnogaeth i’r llywodraeth a phartneriaeth i ddylanwadu ar ffactorau ehangach sy’n dylanwadu ar iechyd.

Mae sawl darn allweddol o ddeddfwriaeth yng Nghymru yn darparu sylfeini cryf ar gyfer ein dull at mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd:

  • Deddf Cydraddoldeb 2010: Yn cyflwyno Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried sut mae eu penderfyniadau’n effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig, gan hyrwyddo tegwch a chyfle cyfartal.
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Yn gorchymyn i gyrff cyhoeddus weithio tuag at nodau llesiant, gan gynnwys Cymru fwy cyfartal, gan annog dulliau ataliol hirdymor o leihau anghydraddoldeb.
  • Dyletswydd Gymdeithasol-Economaidd (rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a ddeddfwyd yng Nghymru yn 2021): Yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried sut y gall eu penderfyniadau strategol leihau’r anghydraddoldebau canlyniad sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Archwiliwch y data ar anghydraddoldebau iechyd

Data