Neidio i'r cynnwys

Amser i Siarad iechyd Cyhoeddus

Gall eich llais helpu i lunio iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus (TTPH) yn un ffordd y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwrando ar bobl sy’n byw ledled Cymru am bynciau a allai effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Mae’r mewnwelediadau a gesglir drwy TTPH yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch polisi ac ymarfer.

Beth yw Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus (TTPH)?

Mae TTPH yn grŵp o tua 2,500 o bobl 16 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru. Mae’r grŵp yn gynrychioliadol yn fras o’r boblogaeth ehangach yng Nghymru yn seiliedig ar oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’n bwysig clywed gan amrywiaeth o leisiau.

Mae’r grŵp hwn yn helpu i arwain polisi ac ymarfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru drwy ateb ein harolygon ymgysylltu â’r cyhoedd rheolaidd. Gellir crynhoi gweithgarwch TTPH fel a ganlyn: 

  • Cynhelir tri arolwg y flwyddyn (Chwefror, Mehefin a Hydref)
  • Cwblheir arolygon gan aelodau’r grŵp naill ai ar-lein neu dros y ffôn
  • Caiff aelodau newydd eu recriwtio drwy hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol a chyfweliadau wyneb yn wyneb
  • Cymerir rhwng 10 a 15 munud i gwblhau pob arolwg
  • Mae’r arolygon yn casglu agweddau, barn a phrofiadau ar gymysgedd o bynciau iechyd y cyhoedd
  • Mae o leiaf 1,000 o bobl yn cwblhau pob arolwg
  • Cyhoeddir adroddiadau yn rhannu canlyniadau’r arolygon 

Ymunwch â’r grŵp

Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac yn 16 oed neu’n hŷn, gallwch ymuno â TTPH a helpu i wneud gwahaniaeth.

Ymunwch â’r grŵp

Pynciau yn TTPH

Mae’r arolygon yn archwilio ystod eang o faterion iechyd y cyhoedd i helpu i lywio penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl, cymunedau a gwasanaethau ledled Cymru. Mae’r pynciau yn cwmpasu pedair thema yn eang:

  • Gwella iechyd;
  • Diogelu iechyd;
  • Eiriolaeth polisi; a
  • Gwasanaethau iechyd.

Canfyddiadau TTPH

Canlyniadau o arolygon TTPH yw:

  • Cyhoeddir y canfyddiadau mewn adroddiadau clir a hygyrch ar ein gwefan
  • Defnyddir y canfyddiadau mewn cyflwyniadau, gweminarau ac ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Caiff y canfyddiadau eu dadansoddi a’u cyhoeddi mewn ymchwil academaidd ac mewn cyfnodolion

Cymerwch olwg ar ein tudalen cyhoeddiadau.

Pam mae TTPH yn bwysig?

Mae gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd i gynnwys pobl mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, fel bod ganddynt lais ystyrlon mewn materion sy’n bwysig i’w bywydau, eu cymunedau a’r dyfodol. Mae TTPH yn cefnogi hyn drwy sicrhau bod gan gyrff cyhoeddus fynediad at fecanwaith dibynadwy ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd a redir gan dîm sydd â phrofiad sylweddol o ddylunio a chyflwyno arolygon, ac eirioli polisi.

Gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid

Rydym yn gweithio’n agos gyda thimau ar draws sefydliadau iechyd y cyhoedd a Llywodraeth Cymru. Mae’r sefydliadau canlynol yn gallu cyflwyno cwestiynau atom i’w cynnwys yn TTPH:

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Timau Iechyd y Cyhoedd Lleol

Rydym hefyd yn cydweithio â rhanddeiliaid allanol i wneud y mwyaf o’r budd a geir o’r wybodaeth a gesglir. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Diabetes UK Cymru
  • Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru
  • Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Heddlu Cymru
  • Age Cymru

Cysylltu â ni

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu os ydych chi’n meddwl y gallai gweithio gyda TTPH gefnogi eich gwaith, cysylltwch â ni yn [email protected].

Adnoddau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn