Neidio i'r cynnwys

Alcohol

Mae camddefnyddio alcohol yn fygythiad mawr i iechyd yng Nghymru, ac mae’n ffactor sy’n achosi dros 200 o gyflyrau meddygol.

Canllawiau yfed alcohol

Nid oes lefel ddiogel o ran yfed alcohol, ac mae yfed hyd yn oed ychydig bach o alcohol yn cynyddu’r risg o glefydau, e.e. canser.

Er mwyn cadw’r risgiau a ddaw o yfed alcohol ar lefel isel, ni ddylech yfed mwy na 14 uned yr wythnos yn rheolaidd.

Os ydych chi’n yfed 14 uned neu fwy yr wythnos yn rheolaidd, mae’n well i chi eu hyfed dros 3 neu fwy o ddyddiau. Os ydych chi’n cael un neu ddwy sesiwn o yfed trwm yr wythnos, rydych chi’n cynyddu eich risg o farw o ganlyniad i salwch hirdymor neu ddamweiniau ac anafiadau.

Po fwyaf rydych chi’n yfed yn rheolaidd, y mwyaf fydd y risg o ddatblygu ystod o broblemau iechyd.

Os ydych chi eisiau yfed llai, un ffordd dda o wneud hyn yw cael sawl diwrnod yn ystod yr wythnos pan na fyddwch chi’n yfed o gwbl.

Rydym yn deall ei bod yn anodd mesur neu wybod yn union faint o alcohol rydych chi’n ei yfed, neu wybod faint yw un uned o alcohol, yn enwedig pan fyddwch gartref. Mae apiau i’w cael i’ch helpu i gadw cofnod o’r hyn rydych chi’n ei yfed, neu gallech gadw dyddiadur. Dewis arall fyddai defnyddio cyfrifiannell unedau ar-lein.

Pam mae alcohol yn broblem yng Nghymru?

Mae 45% o ddynion a 34% o fenywod yn dweud eu bod yn yfed mwy na’r hyn sy’n cael ei argymell. Mae alcohol yn achosi tua 1,500 o farwolaethau y flwyddyn, gan wneud gwerth dros £1 biliwn o niwed i gymdeithas.

Mae marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Gall cael eich magu mewn teulu sy’n camddefnyddio alcohol neu sylweddau gael effaith negyddol sy’n para hyd yn oed pan fyddwch yn oedolyn.

Mae 14% o oedolion wedi gweld alcohol yn cael ei gamddefnyddio yn ystod eu plentyndod. Gall lleihau Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod leihau lefelau yfed niweidiol o 35%.

Beth sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â chamddefnydd alcohol yng Nghymru?

Rydym eisiau i ddewisiadau iach fod yn ddewisiadau hawdd yng Nghymru a’i chymdeithas.

Erbyn 2030, byddwn wedi newid yr hyn sy’n dderbyniol gan gymdeithas o ran ymddygiadau sy’n niweidio iechyd.

Er mwyn lleihau nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol, yn 2020 fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru isafbris uned o alcohol yng Nghymru.

Bydd hyn yn lleihau’r defnydd o alcohol o 6% ymhlith y grŵp incwm isaf, ac yn lleihau marwolaethau o 8% ymhlith yr yfwyr trwm mewn galwedigaethau ailadroddus/gwaith llaw. (Gwneud Gwahaniaeth)

Mae dull cydgysylltiedig wedi’i ddatblygu yng Nghymru. Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn sgwrs sydd wedi’i chynllunio er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiadau sy’n niweidiol i iechyd, yn enwedig pan fydd y cyhoedd yn ymwneud â staff GIG Cymru.

Gallwch gael rhagor o cyngor am alcohol gan y GIG.

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Adroddiadau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Adnoddau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn