Neidio i'r cynnwys

Adolygu Marwolaethau Plant

Mae unrhyw farwolaeth plentyn yn drasiedi. Mae’r golled yn cael effeithiau dinistriol sy’n newid bywydau’r rhieni, brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau a’r teulu a’r gymuned ehangach.

Gall nodi ffactorau sy’n cyfrannu at farwolaeth helpu i atal marwolaethau plant yn y dyfodol.

Mae’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant (CDRP) yn casglu gwybodaeth am yr holl farwolaethau plant yng Nghymru neu blant Cymreig sy’n marw yn rhywle arall.

Mae’r wybodaeth yn ddienw ac yn cael ei defnyddio gan y CDRP i adolygu’r hyn a ddigwyddodd ac i weld beth y gellir ei ddysgu i atal yr un peth rhag digwydd i blentyn neu berson ifanc arall.

Am y rhaglen

Amcanion y rhaglen yw:

  • canfod a choladu data ar farwolaethau plant yng Nghymru a marwolaethau plant sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru
  • cynnal gwyliadwriaeth o farwolaethau plant gan gynnwys nodi a disgrifio patrymau ac achosion marwolaethau plant, gan gynnwys unrhyw dueddiadau
  • nodi ffactorau y gellir eu haddasu a all fod yn cyfrannu at farwolaethau plant yng Nghymru
  • nodi cyfleoedd i atal marwolaethau plant yn y dyfodol
  • rhannu’r canfyddiadau i lywio gweithredu

Mae’r rhaglen yn cwmpasu unrhyw farwolaeth plentyn a aned yn fyw sy’n digwydd ar ôl 1 Hydref 2009 a chyn pen-blwydd y plentyn yn 18 oed a lle mae’r plentyn naill ai’n preswylio fel arfer yng Nghymru neu’n marw yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys plant sydd o dan ofal awdurdod lleol ac sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru; neu’r rhai a all fyw dros dro y tu allan i Gymru at ddibenion gofal iechyd neu addysg.

Ffurflen hysbysu

I roi gwybod i ni am farwolaeth plentyn defnyddiwch y ffurflen hysbysu marwolaeth plentyn:

Ffurflen hysbysu marwolaeth plentyn

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â’r tîm adolygu marwolaethau plant.

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn