Nick Elliott
Cyfarwyddwyr Anweithredol (Data a Digidol)
Nick Elliott
Cyfarwyddwyr Anweithredol (Data a Digidol)
Mae gan Nick ei ymgynghoriaeth reoli ei hun sy'n arbenigo ym maes Digidol mewn Gofal Iechyd. Daw Nick â chyfoeth o brofiad o'r sector cyhoeddus a phreifat gydag ef. Fel y Prif Swyddog Gwybodaeth cyntaf ar lefel Bwrdd yn NHS England, gwnaeth waith arloesol gydag arsylwadau electronig a dyfeisiau symudol wrth erchwyn y gwely. Llwyddodd i wneud y newid i fod yn Brif Swyddog Gweithredu yn y sector ysbytai, gan drawsnewid perfformiad nifer o ymddiriedolaethau'r GIG drwy ddod â phobl a data at ei gilydd. Mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad ar lefel Bwrdd yn NHS England yn ogystal â phrofiad gweithgynhyrchu blaenorol. Yn dilyn ei gyfnod yn y GIG, prynodd ran mewn cwmni apiau clinigol arloesol a’i dyfu cyn ei werthu i ddarparwr EPR mawr yn y DU. Symudodd Nick i ymgynghori yn bartner yn un o ymgyngoriaethau Iechyd Digidol mwyaf blaenllaw'r DU lle roddodd gyngor i Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ar strategaethau a modelau gweithredu. Mae Nick bellach yn gweithredu o'i ymgynghoriaeth ei hun yn cefnogi arloeswyr gofal iechyd ac yn darparu cyngor strategol i Fyrddau'r GIG, rhaglenni trawsnewid mawr ac mae’n cyflwyno adolygiadau sefydliadol. Ar ôl dechrau ei yrfa yn ddadansoddwr, mae Nick yn dal i fod yn angerddol am ddefnyddio data i helpu i yrru gwelliannau mewn iechyd a gofal.