Lleisio cwyn neu godi pryder
SYLWER – Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am holl ofal a thriniaeth y GIG ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau Meddyg Teulu a Gofal Iechyd Meddwl.
Gwasanaethau a gofal a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw un o’r 11 sefydliad sy’n ffurfio GIG Cymru. Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r asiantaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol yng Nghymru.
Mae’r canlynol yn rai o’r gwasanaethau a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Sgrinio
- Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol
- Sgrinio Cyn Geni
- Sgrinio Coluddion Cymru
- Bron Brawf Cymru
- Sgrinio Sefigol
- Sgrinio Llygaid Diabetig
- Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig
- Sgrinio Clyw Babanod
- Y Tîm Diogelu Iechyd – cyngor iechyd y cyhoedd arbenigol ar reoli clefydau heintus.
- Gwasanaethau Microbioleg
- Helpa Fi I Stopio (Canolfan gyswllt genedlaethol)
Mae rhestr lawn o’r gwasanaethau a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i’w gweld yma.
Yn anffodus, mae yna adegau pan na fydd pethau’n mynd yn ôl y bwriad. Mae lleisio eich pryder neu gŵyn yn ein galluogi i ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd, i ddysgu o’ch profiadau a gwella’r gwasanaethau a gynigiwn yma yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Os ydych chi, aelod o’ch teulu, gofalwr, neu eiriolwr, yn dymuno trafod unrhyw gwynion sydd gennych am ofal neu wasanaeth a gawsoch gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, dylech siarad â’r staff sy’n ymwneud â’ch gofal a’ch triniaeth fel y gallant eich helpu i ddatrys y mater. Gallwch hefyd ysgrifennu atom neu ein ffonio.
Gofal mewn Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau eraill
Ni all Iechyd Cyhoeddus Cymru ymdrin â phob cwyn sy’n ymwneud â’ch iechyd a gwasanaethau’r GIG, gallai’r rhain fod yn gyfrifoldeb ar sefydliadau eraill y GIG ledled Cymru. Mae Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau eraill y GIG yn gyfrifol am gynllunio a chyflenwi’r gwasanaethau’r GIG ar gyfer eu poblogaethau yn eu hardaloedd daearyddol eu hunain. Mae’r gwasanaethau iechyd sydd ddim yn gyfrifoldeb ar Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys, ond nid wedi’u cyfyngu i;
- Gwasanaethau ysbyty
- Gwasanaethau deintyddol
- Optegol
- Fferylliaeth
- Gwasanaethau Meddygon Teulu
- Cymorth Iechyd Meddwl
- Cludiant ambiwlans
- Triniaeth ganser
Mae angen cyfeirio unrhyw bryderon, adborth neu gwynion sydd gennych am y gwasanaethau hyn at y Bwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth GIG priodol. Am fanylion ar sut i gysylltu â’ch Bwrdd Iechyd Lleol, ewch i dudalen gwasanaethau lleol y GIG.
Os yw eich cwyn yn ymwneud â Phractis Meddyg Teulu/Deintydd/Fferyllydd neu Optegydd, dylech ofyn i reolwr y practis/practis ymchwilio i’ch cwyn yn y lle cyntaf.
Cwynion yn ymwneud â Safonau’r Gymraeg
Bydd unrhyw gwynion a dderbynnir gan aelodau’r cyhoedd ynghylch cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, neu ddiffyg gwasanaethau Cymraeg/Dwyieithog a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael eu hadrodd i’n Tîm y Gymraeg a byddant yn dilyn y broses Gweithio i Wella (gweler isod).
Sut i leisio cwyn
Mae nifer o ffyrdd y gallwch fynegi pryder neu gŵyn ac rydym yn gwella ein prosesau yn barhaus i’w gwneud mor hawdd â phosibl i chi.
Ar hyn o bryd gallwch gwblhau ein ffurflen ar-lein, ysgrifennu llythyr atom, anfon e -bost atom neu siarad â ni yn uniongyrchol gan ddefnyddio’r rhif cyswllt isod.
Ysgrifennwch atom.
Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
Tîm Gweithio i Wella
Iechyd Cyhoeddus Cymru, Rhif 2, Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ
Siaradwch â ni neu e-bostiwch ni.
Gallwch leisio cwyn drwy siarad â ni’n uniongyrchol, neu, os ydych yn anhapus ag ymateb a gawsoch gan staff, cysylltwch â’r Tîm Gweithio i Wella drwy:
Ffôn: 0300 003 0383
E-bost: [email protected]
Mae’r tîm Gweithio i Wella ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8yb a 4yp.
Beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn lleisio cwyn
Pan fyddwch yn lleisio cwyn, byddwn yn cysylltu â chi o fewn pump diwrnod gwaith dros y ffôn, trwy e-bost, neu mewn lythyr.
Yna byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn yn agored ac yn onest a byddwn yn ymateb i chi o fewn 30 diwrnod gwaith lle bynnag y bo modd. Os oes disgwyl i’r ymchwiliad gymryd mwy o amser, byddwn yn cysylltu â chi i egluro pam, a byddwch yn derbyn diweddariadau rheolaidd.
Llais – os oes angen cymorth arnoch i leisio eich cwyn?
Os oes angen cymorth arnoch i leisio cwyn am un o wasanaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru, gallwch siarad â Llais. Mae Llais yn gorff annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru ac mae yma i sicrhau bod eich barn a’ch profiadau yn cael eu defnyddio gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gynllunio a chyflenwi gwell gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd ei staff eirioli cwynion ymroddedig a hyfforddedig yn rhoi’r cymorth annibynnol a chyfrinachol am ddim y mae gennych hawl iddo.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llais.
Beth ddylwn ei wneud os ydw i’n dal yn anhapus gyda chanlyniad fy nghwyn?
Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd yr ydym wedi trin eich cwyn, rhowch wybod i ni fel y gallwn drafod hyn gyda chi ymhellach. Cymerir camau ychwanegol i geisio ateb eich holl gwestiynau a datrys eich cwyn lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, os ydych yn dal yn anfodlon, gallwch godi’r mater ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru drwy ddefnyddio’r cyfeiriad isod. Dim ond os ymchwiliwyd iddi eisoes gennym ni y gall yr Ombwdsmon adolygu eich cwyn.
Cyfeiriad: 1 Ffordd Yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ
Dros y ffôn: 0300 790 0203
E-bost: [email protected]
Cliciwch yma i ymweld â gwefan yr Ombwdsmon.
Y Ddyletswydd Gonestrwydd
O fis Ebrill 2023, mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol ar bob sefydliad GIG yng Nghymru.
Mae mwy o wybodaeth am y ddyletswydd gonestrwydd ar gael yma.
Gwybodaeth i blant a phobl ifanc.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu taflenni gwybodaeth mewn fformatau eraill a fydd yn eich cefnogi i godi pryder.
Cliciwch ar y ddolen hon i ddod o hyd i daflenni gwybodaeth amgen.
Os ydych yn blentyn neu’n berson ifanc ac eisiau Cefnogaeth ac Eiriolaeth, gallwch gysylltu â Meic.
Mae Meic yn wasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 15 oed yng Nghymru. Gall Meic helpu gyda nifer o senarios; o ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfaoedd anodd. Bydd MEIC yn gwrando hyd yn oed pan fyddwch chi’n meddwl na fydd neb arall. Ni fydd staff MEIC yn eich barnu a byddan nhw’n eich helpu drwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a’r cymorth sydd ei angen arnoch i wneud newid.