Is-grŵp Parodrwydd ar gyfer Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID-19

Mae’r Grŵp hwn yn cynghori ac yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd ar y trefniadau a’r adnoddau sydd ar waith i sicrhau ymateb sefydliadol priodol i Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID-19 y DU. Mae’r Grŵp hefyd yn penderfynu a ddylid gwneud cais am Statws Cyfranogwr Craidd ar gyfer pob un o fodiwlau’r Ymchwiliad.

Cynhelir cyfarfodydd yr Is-grŵp Parodrwydd ar gyfer Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID-19 mewn sesiwn breifat. Mae cofnodion pob cyfarfod yn cael eu hadrodd i’r Bwrdd yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.

Bydd yr Is-grŵp yn cyfarfod yn ôl yr angen i sicrhau bod y sefydliad yn ymgysylltu â’r Ymchwiliad ac yn ymateb iddo yn ôl yr angen.

Gweld / lawrlwytho’r Cylch Gorchwyl ac Aelodaeth Is-grŵp Parodrwydd ar gyfer Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID-19.

Pwy yw pwy

Aelodau

O leiaf tri, rhaid i un fod yn Gadeirydd a rhaid i ddau fod yn Gyfarwyddwyr Anweithredol:

Cadeirydd Pippa Britton
Is-gadeirydd (aelod annibynnol) Clare Jenkins
Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu Corfforaethol (aelod annibynnol) Nick Elliott
Prif Weithredwr Tracey Cooper
Dirprwy Brif Weithredwr Huw George

Yn bresennol

Trwy wahoddiad, yn ôl yr angen, ond fel arfer mae’n cynnwys y sawl isod:

Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd Paul Veysey
Aelod staff Fel y gwahoddwyd