Neidio i'r cynnwys

Yr ymchwiliad gwaed heintiedig

Ymchwiliad cyhoeddus statudol annibynnol yw’r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig a sefydlwyd i archwilio amgylchiadau rhoi gwaed heintiedig a chynnyrch gwaed heintiedig i ddynion, menywod a phlant wrth iddynt dderbyn triniaeth gan wasanaethau iechyd cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig, gyda ffocws penodol ar yr 1970au a’r 1980au.

Y lle gorau i gael eich profi am feirysau a gludir yn y gwaed yw unrhyw wasanaeth iechyd rhywiol integredig. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar eich gwasanaethau iechyd rhywiol integredig lleol ar wefan GIG 111 Cymru.

Mae gwasanaeth hunan-brofi gartref ar gael yng Nghymru y gallwch ei ddefnyddio i brofi am feirysau a gludir yn y gwaed.

Os ydych yn hunan-brofi am feirws a gludir yn y gwaed ac mae’r canlyniad yn bositif, mae’n bwysig i chi gysylltu â gweithiwr iechyd proffesiynol mor fuan â phosibl a chael y cymorth emosiynol a meddygol sydd ei angen arnoch.

Archebu pecyn profi a phostio am feirysau a gludir yn y gwaed