Neidio i'r cynnwys

Ynglŷn â sgrinio ymlediadau aortig abdomenol - Rhesymau dros fynd i sgrinio ymlediad aortig abdomenol

Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio ai peidio.

Mae’n bwysig eich bod chi’n deall manteision a risgiau sgrinio i’ch helpu chi i benderfynu a yw cymryd rhan yn iawn i chi.

Beth yw manteision prawf sgrinio ymlediad aortig abdomenol

  • Fel arfer, nid oes unrhyw arwyddion na symptomau os oes gennych YAA. Mae dod o hyd i YAA yn gynnar yn rhoi’r cyfle gorau i chi gael cynnig monitro a thriniaeth.
  • Sgan uwchsain untro yw’r prawf YAA sy’n cymryd ychydig funudau yn unig.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddynion sy’n cael eu sgrinio ar gyfer YAA yn cael gwybod nad yw ymlediad wedi cael ei ddarganfod.

Beth yw risgiau prawf sgrinio ymlediad aortig abdomenol

  • Gallai prawf sgrinio YAA ddod o hyd i YAA na fyddai wedi achosi niwed i ddyn.
  •  Nid yw prawf sgrinio YAA 100% yn gywir.
  • Weithiau, gellir adrodd am ganlyniadau yn anghywir ond mae hyn yn anghyffredin iawn. Mae hyn yn golygu y gellid dweud wrth unigolyn fod ganddo YAA pan nad yw hynny’n wir, neu efallai y dywedir wrth unigolyn ar gam nad oes ganddo YAA.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am YAA sy’n rhedeg yn y teulu

Gall unrhyw sy’n gwybod bod ganddo hanes teuluol agos o YAA, ac nad yw’n cael ei wahodd i sgrinio (er enghraifft, dynion nad ydynt eto’n 65 oed neu fenywod o unrhyw oedran) siarad â’i feddyg. 

Ystyr teulu agos yw brawd, chwaer neu riant/rhieni.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21ain Ionawr 2026