Ynglŷn â sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig - Ynglŷn â’r prawf
Pwy fydd yn tynnu’r sampl o waed?
Bydd y prawf sgrinio ar smotyn o waed eich babi newydd-anedig yn cael ei wneud pum diwrnod ar ôl y geni. Fe allai’r prawf gael ei wneud yn hwyrach na phum diwrnod weithiau. Y fydwraig fydd yn tynnu’r sampl fel arfer, a hynny yn eich cartref neu yn yr ysbyty.
Mae rhai gweithwyr iechyd proffesiynol eraill wedi cael eu hyfforddi i wneud y profion sgrinio ar smotiau o waed babanod newydd-anedig, ac fe allai un o’r gweithwyr yma dynnu’r sampl.
Mae staff gofal iechyd yn dilyn canllawiau atal a rheoli heintiau. Mae hyn yn golygu eu bod yn dilyn arferion glanhau dwylo llym ac yn glanhau holl ardaloedd ac offer y clinig yn rheolaidd.
Siaradwch â’ch bydwraig am sut y bydd sgrinio yn digwydd yn eich Bwrdd Iechyd. Bydd yn esbonio beth maen nhw’n ei wneud i’ch cadw chi a’ch babi yn ddiogel.
Mynediad at sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig os nad oes gennych fydwraig y GIG
Mae gan bob babi sy’n cael ei eni yng Nghymru hawl i sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig (sgrinio ar gyfer cyflyrau prin ond difrifol). Mae rhai teuluoedd yn defnyddio bydwragedd preifat neu annibynnol yn hytrach na gwasanaethau mamolaeth y GIG. Mae eraill yn dewis cael genedigaeth heb gymorth (a elwir yn enedigaeth rydd hefyd).
Os byddwch am i’ch babi gael sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yng Nghymru, mae angen i chi ddefnyddio eich gwasanaeth mamolaeth GIG lleol, hyd yn oed os byddwch yn dewis peidio â derbyn gofal ôl-enedigol arall y GIG. I’ch helpu i benderfynu a yw sgrinio smotyn gwaed yn iawn i’ch babi, gweler ein tudalen we Gwybodaeth i Rieni.
Dylech chi neu’ch bydwraig gysylltu â’ch gwasanaeth mamolaeth GIG lleol i drefnu apwyntiad sgrinio. Gellir cymryd samplau gwaed yn eich cartref neu mewn uned famolaeth neu glinig lleol. Er mwyn i ni allu nodi cyflyrau’n gynnar, dylid cymryd samplau rhwng pedwar a chwe diwrnod ar ôl i’ch babi gael ei eni.
Mae angen i fabanod sy’n cael eu sgrinio gael rhif GIG er mwyn sicrhau y gallwn gyfateb y canlyniad sgrinio cywir i bob babi. Os nad oes gan eich babi rif GIG eisoes, byddwch yn cael un yn yr apwyntiad sgrinio.
Os ydych eisoes yn cael gofal mamolaeth ac ôl-enedigol gan y GIG, bydd eich bydwraig yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn awtomatig, a bydd yn trefnu bod sampl smotyn gwaed eich babi yn cael ei chymryd.
Sut byddan nhw’n tynnu’r sampl o waed?
Bydd y fydwraig yn defnyddio dyfais arbennig i bigo sawdl eich babi. Yna bydd yn casglu pedwar diferyn o waed gan eu rhoi ar gerdyn pwrpasol. Mae’r broses gyfan yn cymryd ychydig funudau’n unig fel arfer. Bydd y fydwraig yn anfon y cerdyn i Labordy Sgrinio’r Newydd-anedig yng Nghaerdydd, lle bydd y profion yn cael eu gwneud. Bydd y fydwraig yn ysgrifennu manylion eich babi ar y cerdyn fel ffordd o’i adnabod.
Efallai bydd cael pigo’i sawdl yn gwneud i’ch babi deimlo’n anghyfforddus, ac fe allai grïo.
Gallwch helpu drwy:
- sicrhau bod eich babi’n gynnes ac yn gyfforddus,
- ac anwesu a bwydo’ch babi.
Cysylltwch â’ch bydwraig os ydych chi’n teimlo’n sâl neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am apwyntiad sgrinio eich babi.
Oes angen tynnu samplau o waed fwy nag unwaith?
Ambell waith bydd y fydwraig neu’r ymwelydd iechyd yn cysylltu â chi ac yn gofyn am ail sampl o waed o sawdl eich babi.
Ymhlith y rhesymau dros wneud hyn mae:
- ni chafodd digon o waed ei gasglu’r tro cyntaf
- nid oedd y wybodaeth a gafodd ei hysgrifennu ar y cerdyn yn gyflawn
- nid oedd y canlyniad yn glir
- roedd eich babi wedi cael ei eni’n gynnar, neu
- roedd eich babi wedi cael trallwysiad gwaed cyn y prawf.
Bydd eich bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd yn egluro’r rheswm dros ofyn am ail sampl. Os bydd angen ail brawf, mae’n bwysig fod hynny’n digwydd yn brydlon fel bod yr holl brofion wedi cael eu cwblhau yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl y geni.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24ain Ebrill 2025