Ynglŷn â sgrinio llygaid diabetig - Eich apwyntiad sgrinio llygaid diabetig
Cynhelir sgrinio mewn ysbytai, canolfannau iechyd, practisiau meddygon teulu a rhai lleoliadau cymunedol. Mae gennym hefyd nifer o ganolfannau sgrinio penodol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ein nod yw eich gwahodd i’r lleoliad sydd agosaf at eich cartref, o fewn 45 munud mewn car. Bydd hyn yn dibynnu ar y lleoliad a’r apwyntiadau sydd ar gael.
Mae’n bwysig bod gan eich meddyg eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn cywir, fel arall efallai na fyddwn yn gallu anfon eich llythyr apwyntiad atoch.
Canolfannau sgrinio ar gyfer sgrinio llygaid diabetig
Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau i’r lleoliadau isod. Peidiwch ag anfon unrhyw lythyrau i’r cyfeiriadau hyn.
Gogledd Cymru
Llys Castan, 10 Llys Castan, Bangor, Postcode: LL57 4DF – Cael cyfarwyddiadau (yn agor yn Google Maps)
Cael cyfarwyddiadau (yn agor yn Google Maps)
Gorllewin Cymru
St David’s Park Clinic, St Anne’s Block, Carmarthen, SA31 3HB – Cael cyfarwyddiadau (yn agor yn Google Maps)
Cael cyfarwyddiadau (yn agor yn Google Maps)
De-ddwyrain Cymru
Kimberley House PHW Screening Centre, Llanishen, Cardiff, CF14 5DX – Cael cyfarwyddiadau (yn agor yn Google Maps)
Cael cyfarwyddiadau (yn agor yn Google Maps)
PHW Screening Centre, Rhos House, Mountain Ash, CF45 3HD – Cael cyfarwyddiadau (yn agor yn Google Maps)
Cael cyfarwyddiadau (yn agor yn Google Maps)
Newid fy apwyntiad
Cysylltwch â ni os na allwch ddod i’ch apwyntiad. Efallai y gallwn gynnig amser, dyddiad neu leoliad mwy cyfleus i chi.
Mae apwyntiadau sgrinio llygaid diabetig yn gyfyngedig. Rhowch wybod i ni os ydych yn bwriadu peidio â dod i’ch apwyntiad; gallwn gynnig eich apwyntiad i rywun arall.
Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen cymorth ychwanegol ar gyfer sgrinio, cysylltwch â ni cyn yr apwyntiad os:
- Bydd angen cyfieithydd ar y pryd arnoch gan nad Cymraeg na Saesneg yw eich iaith gyntaf.
- Oes gennych ofynion symudedd neu anabledd, fel y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn cynnig apwyntiad hygyrch i chi.
- Bydd angen apwyntiad hirach arnoch.
- Ydych chi’n meddwl efallai na fyddwch yn gallu eistedd yn y safle iawn wrth ein camerâu.
- Ydych chi’n gofalu am rywun na all wneud penderfyniadau.
- Oes gennych Atwrneiaeth dros iechyd a llesiant yr unigolyn a wahoddir, bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod a’r ddogfen Atwrneiaeth i’w apwyntiad.
Eich cadw’n ddiogel yn eich apwyntiad
Mae staff gofal iechyd yn dilyn canllawiau rheoli heintiau ac atal. Mae hyn yn golygu eu bod yn dilyn arferion glanhau dwylo llym ac yn glanhau pob ardal ac offer clinig yn rheolaidd. Mae glanweithydd dwylo ar gael. Cofiwch, er mwyn atal lledaeniad yr haint, cysylltwch â DESW os ydych chi’n profi unrhyw symptomau haint neu salwch.
Paratoi ar gyfer fy apwyntiad
Cyn eich apwyntiad:
- Darllenwch yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon atoch
- Cysylltwch â ni os bydd angen cymorth arnoch yn ystod eich apwyntiad
- Sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae eich apwyntiad
- Cynlluniwch sut y byddwch yn cyrraedd, gan ganiatáu digon o amser i deithio
- Ni fydd yn ddiogel i chi yrru ar ôl eich apwyntiad a gall fod yn anodd defnyddio ffôn symudol. Bydd angen i chi drefnu cludiant adref cyn i chi fynd i’ch apwyntiad.
- Mynychu eich apwyntiad ar amser. Os byddwch yn cyrraedd yn gynnar, efallai y bydd yn rhaid i chi aros. Os ydych chi’n hwyr, efallai na fyddwn yn gallu eich sgrinio.
- Byddwch yn ymwybodol efallai y bydd angen i chi dalu i barcio yn rhai o’r lleoliadau sgrinio
- Dylech chi neilltuo o leiaf un awr ar gyfer eich apwyntiad
- Dewch â’ch sbectol gyda chi, os ydych yn eu gwisgo
- Os ydych yn gwisgo lensys cyffwrdd, dewch â’ch cynhwysydd gan y gofynnir i chi dynnu’ch lensys ac efallai na fyddwch yn gallu eu rhoi yn ôl i mewn ar unwaith. Efallai y byddai’n well gennych wisgo’ch sbectol ar ddiwrnod eich apwyntiad
- Dewch â sbectol haul gyda chi i’w gwisgo ar ôl eich apwyntiad, oherwydd gall eich llygaid fod yn fwy sensitif i olau ar ôl cael diferion
- Os ydych yn defnyddio monitor glwcos yn y gwaed, cymerwch y darlleniadau cyn eich apwyntiad
- Efallai y byddwch am ddod â byrbryd gyda chi gan nad yw pob lleoliad sgrinio yn cynnig bwyd a diod
- Nid yw’n ddiogel i chi yrru na defnyddio peiriannau nes bod eich golwg yn dychwelyd i normal a bod eich llygaid yn gyfforddus.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24ain Mawrth 2026