Neidio i'r cynnwys

Ynglŷn â sgrinio llygaid diabetig - Rhesymau dros fynd i sgrinio llygaid diabetig

Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn prawf sgrinio ai peidio.  Mae’n bwysig eich bod yn deall manteision a risgiau sgrinio i’ch helpu i benderfynu a yw cymryd rhan yn iawn i chi.   Mae prawf sgrinio llygaid diabetig yn un o’r 15 archwiliad gofal iechyd hanfodol a nodwyd gan Diabetes UK (Saesneg yn unig)

A fydd prawf sgrinio llygaid diabetig yn fy atal rhag cael retinopathi diabetig?

Nid yw sgrinio llygaid diabetig yn eich atal rhag cael retinopathi. Gall sgrinio ddod o hyd i newidiadau os ydynt yno eisoes.

Gall retinopathi diabetig ddatblygu ar unrhyw adeg. Mae’n bwysig siarad â’ch optegydd neu feddygfa os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch golwg hyd yn oed os ydych wedi bod yn cael prawf sgrinio llygaid diabetig yn ddiweddar.

Mae’n bwysig cadw’n iach, trwy reoli a thrin eich diabetes. Ewch i Rheoli diabetes | gofalu am eich diabetes | Diabetes UK (Saesneg yn unig) neu siaradwch â’ch gweithiwr iechyd proffesiynol i gael mwy o wybodaeth.

Pa mor gywir yw prawf sgrinio llygaid diabetig?

Sgrinio llygaid diabetig yw’r ffordd orau o ddod o hyd i retinopathi yn gynnar. Fodd bynnag, mae rhai newidiadau yn anodd iawn eu gweld.

Weithiau ni allwn dynnu llun clir o gefn eich llygaid. Weithiau byddwn yn eich ffonio’n ôl am apwyntiad arall neu efallai y byddwn yn eich cyfeirio at arbenigwr llygaid am gynnig arall.

Gall retinopathi diabetig ddatblygu ar unrhyw adeg. Mae’n bwysig siarad â’ch optegydd neu feddygfa os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch golwg, hyd yn oed os ydych wedi bod yn cael prawf sgrinio llygaid diabetig yn ddiweddar.

Beth yw risgiau sgrinio llygaid diabetig?

  • Sgrinio llygaid diabetig yw’r ffordd orau o ddod o hyd i retinopathi. Nid yw sgrinio ar gyfer retinopathi diabetig 100% yn gywir. Ar adegau prin, gall sgrinio golli newidiadau weithiau. Gwneir popeth posibl i leihau hyn rhag digwydd.
  • Gall sgrinio llygaid diabetig ddod o hyd i retinopathi yn gynnar ond nid yw’n ei atal rhag datblygu.

Gall y diferion llygaid a ddefnyddir yn ystod sgrinio achosi rhywfaint o anghysur am ychydig eiliadau. Bydd eich golwg yn aneglur am tua phedair i chwe awr. Yn anaml iawn gall y diferion achosi sgîl-effeithiau eraill.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch mynd am eich prawf sgrinio llygaid diabetig, siaradwch â’ch meddyg neu dîm diabetes.

Gallwch optio allan o’r rhaglen sgrinio trwy gysylltu â ni. Mae hyn yn golygu y gallwch ddewis peidio â chael eich gwahodd. Os byddwch yn newid eich meddwl gallwch ddewis yn ôl i’r rhaglen sgrinio unrhyw bryd drwy gysylltu â ni.

Beth yw manteision prawf sgrinio llygaid diabetig?

  • Gall sgrinio llygaid diabetig ddod o hyd i newidiadau yn eich llygaid cyn iddo effeithio ar eich golwg.
  • Gall dod o hyd i newidiadau yn gynnar a chael triniaeth atal colli golwg.
  • Mae sgrinio llygaid diabetig yn wahanol i brawf llygaid eich optegydd gan ei fod yn edrych am newidiadau a achosir gan ddiabetes.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26ain Chwefror 2025