Neidio i'r cynnwys

Y pum amod hanfodol

Y pum amod hanfodol yw’r meysydd gweithredu polisi aml-sectoraidd i ymdrin â bylchau iechyd cymhleth a pharhaus a chynyddu cyfleoedd i bawb fyw bywydau iach a llewyrchus.

  • Iechyd a Gwasanaethau Iechyd

    Polisïau sy’n ceisio sicrhau argaeledd, hygyrchedd, fforddadwyedd ac ansawdd gwasanaethau ac ymyriadau ataliol a gofal iechyd. Er enghraifft, diogelu iechyd, hybu a gwella iechyd, gofal sylfaenol, eilaidd a gofal wedi’i drefnu.

  • Iechyd ac incwm a diogelu cymdeithasol

    Polisïau sydd â’r nod o ddarparu sicrwydd a chymorth economaidd i leihau canlyniadau iechyd a chymdeithasol sy’n deillio o dlodi ac incwm isel drwy gydol bywyd unigolyn. Er enghraifft, cymorth ariannol i rieni, pobl hŷn neu bobl ddi-waith.

  • Iechyd ac amodau byw

    Polisïau sydd â’r nod o sicrhau cyfleoedd ar gyfer, a mynediad ac amlygiad i, amodau byw ac amgylcheddau sy’n cael dylanwad cadarnhaol ar iechyd a lles pobl. Er enghraifft, cynllunio, tai diogel o ansawdd da, aer glân, mannau gwyrdd.

  • Iechyd a chyfalaf cymdeithasol a dynol

    Polisïau sydd â’r nod o ddatblygu a chryfhau cysylltiadau cymdeithasol ac asedau cymunedol, gan gynnwys addysg, sgiliau, adnoddau cymunedol a phwrpasol rhyngweithio cymdeithasol i hyrwyddo dysgu, a diogelu a hyrwyddo iechyd a lles drwy gydol bywyd rhywun. Er enghraifft, gwella hyfforddiant, prentisiaethau, adeiladu cydlyniant cymunedol a gwydnwch, ymddiriedaeth, ymdeimlad o berthyn.

  • Iechyd a chyflogaeth ac amodau gweithio

    Polisïau sydd â’r nod o wella effaith cyflogaeth, amodau gweithio a chydraddoldeb yn y gweithle ar iechyd. Er enghraifft, argaeledd gwaith, cyflog byw, gofynion corfforol a meddyliol, sicrhau iechyd a diogelwch yn y gwaith.

Am ragor o wybodaeth am y fframwaith tegwch iechyd ‘pum amod hanfodol’ a ddatblygwyd gan Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygu yn Fenis, yr Eidal, darllenwch Healthy, prosperous lives for all: the European Health Equity Status Report.