Neidio i'r cynnwys

Y broses o ddatblygu polisi

Camau datblygu polisi

  1. Cam 1:Cam 1: Diffinio'r broblem a'i hachosion sylfaenol

    • Egluro a fframio’r broblem neu’r mater o ran yr effaith y mae’n ei chael ar iechyd y boblogaeth.
    • Casglu, crynhoi a dehongli gwybodaeth sy’n berthnasol i’r broblem.
    • Diffinio nodweddion y broblem.
    • Nodi bylchau yn y data.
    • Fframio’r broblem mewn ffordd sy’n hwyluso datrysiadau posibl.
    • Gwneud cysylltiadau ac integreiddio ag effeithiau eraill sydd ddim yn rai iechyd.
    • Ymgysylltu â’r rhai sydd â diddordeb yn y broblem.

    Darllenwch ddeunyddiau sy’n ymwneud â diffinio achosion sylfaenol y broblem.

  2. Cam 2:Cam 2: Datblygu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol

    • Datblygu gweledigaeth hirdymor, neu gyfeirio at weledigaeth o’r fath, lle mae’r broblem dan sylw a’i hachosion sylfaenol yn cael eu datrys.
    • Ystyried pa dueddiadau hirdymor all gael eu heffeithio gan eich gweledigaeth neu a all effeithio ar eich gweledigaeth.
    • Meddwl am y canlyniadau rydych chi eisiau eu cyflawni a beth yw llwyddiant i chi/sut y gallwch ei fesur.
    • Ystyried a oes gweledigaethau eraill ar gyfer y dyfodol a allai gefnogi neu wrthdaro â’ch un chi.
    • Cyfeirio at y weledigaeth ar gyfer Cymru ar ffurf y 7 nod llesiant.
    • Cynnal asesiadau effaith priodol/asesiadau o’r effaith ar iechyd.
    • Adeiladu perthnasoedd, ailadrodd eich neges a gofyn cwestiynau.

    Darllenwch ddeunyddiau sy’n ymwneud â datblygu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol.

  3. Cam 3:Cam 3: Nodi a datblygu opsiynau

    • Nodi opsiynau polisi posibl a allai helpu i ddatrys eich problem ac i gyflawni eich gweledigaeth chi a gweledigaeth Cymru.
    • Cymharu’r opsiynau hynny er mwyn dewis yr un mwyaf effeithiol, effeithlon a dichonadwy a fyddai’n helpu i greu manteision trawsbynciol .
    • Gosod amcanion, nodi’r gost ac amcangyfrif effaith atebion, dewis o wahanol opsiynau polisi.
    • Mae ymgynghoriadau’n allweddol wrth lywio datblygiad polisi.
    • Datblygu perthnasoedd â llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill.
    • Annog partneriaid i weithredu a chreu mudiad o amgylch y mater er mwyn i’r neges yn cael ei chlywed yn glir.
    • Enghreifftiau o feysydd lle mae polisïau tebyg wedi’u cyflawni – gwersi a ddysgwyd y naill ffordd neu’r llall

    Darllenwch ddeunyddiau sy’n ymwneud â nodi a datblygu opsiynau.

  4. Cam 4:Cam 4: Gwneud penderfyniadau 'gwleidyddol' (deddfu gwleidyddol, pasio deddfwriaeth)

    • Addysgu seneddwyr a’r cyhoedd a chasglu cefnogaeth.
    • Rhagweld rhwystrau.
    • Os oes angen, parhau i gasglu data a gwneud gwaith ymchwil.
    • Cydweithio â phartneriaid, sy’n gallu ‘lobïo’ ac adeiladu mudiad o amgylch y mater (e.e. y sector gwirfoddol a chomisiynwyr).
    • Adrodd straeon.
  5. Cam 5:Cam 5: Gweithredu'r polisi (troi cysyniad yn realiti)

    • Gweithgareddau i gynyddu’r tebygolrwydd y bydd y polisi yn cyflawni ei fwriadau.
    • Addysgu ar newidiadau, hwyluso’r gwaith o fabwysiadu arferion newydd.
    • Sicrhau monitro a gorfodi

    Darllenwch ddeunyddiau sy’n ymwneud â gweithredu’r polisi.

  6. Cam 6:Cam 6: Gwerthuso llwyddiant a therfynu, ailddiffinio neu gyflwyno'n briodol

    Gwerthuso prosesau.

    • A weithredwyd y polisi yn ôl y cynllun?
    • A oedd rhwystrau neu ffactorau cefnogol wrth ei weithredu?
    • Pa mor dda oedd eich gwaith i ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac a oedden nhw’n teimlo eu bod wedi’u cynnwys yn y broses?

    Gwerthusiad o’r effaith

    • A gafwyd y canlyniadau a’r effeithiau a fwriadwyd?
    • A oes unrhyw ganlyniadau ac effeithiau y gellir eu priodoli i’r polisi?
    • A oedd unrhyw ganlyniadau anfwriadol?

    Darllenwch ddeunyddiau sy’n ymwneud â gwerthuso llwyddiant.