Tywydd poeth - Pwy sy'n cael ei effeithio a'r prif risgiau
Mae unrhyw un yn gallu mynd yn sâl pan fydd y tywydd yn boeth.
Dyma’r rhai mwyaf agored i niwed:
- Pobl hŷn – yn enwedig y rhai dros 65 oed
- Y rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain neu mewn cartref gofal
- Pobl sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes neu rai cyflyrau iechyd meddwl
- Pobl sy’n cymryd meddyginiaeth a allai eu gwneud yn fwy tebygol o gael eu heffeithio’n wael gan dywydd poeth
- Pobl a allai ei chael hi’n anodd cadw’n oer – babanod a phlant ifanc, pobl sy’n gaeth i’r gwely neu’r rhai sy’n gaeth i gyffuriau ac alcohol
- Pobl sy’n treulio llawer o amser yn yr awyr agored neu mewn llefydd poeth. Er enghraifft, pobl sy’n byw mewn fflat ar y llawr uchaf, y digartref, neu bobl sy’n gweithio yn yr awyr agored.
Prif beryglon tywydd poeth
Dyma’r prif beryglon mewn tywydd poeth:
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 6ed Mawrth 2025