Neidio i'r cynnwys

Tywydd oer

Gall tywydd oer waethygu rhai problemau iechyd ac achosi peryglon iechyd eraill.

Gall tywydd oer achosi hypothermia, cwympiadau ac anafiadau, trawiad ar y galon, strôc, clefydau anadlol a’r ffliw, problemau iechyd meddwl (fel iselder a gorbryder) a gwenwyn carbon monocsid yn sgil boeleri heb eu cynnal a’u cadw/neu wedi’u hawyru’n wael, offer coginio a gwresogi diffygiol.  

Gall salwch cysylltiedig ag oerni a thywydd oer difrifol roi pwysau ar ysbytai, adrannau brys a meddygfeydd. 

Feirysau a germau

Cadwch yn ddiogel rhag y ffliw trwy gael eich pigiad ffliw.  

Gorchuddiwch eich trwyn a’ch ceg â hances wrth besychu neu disian. Dylech annog ffrindiau a theulu i wneud hyn hefyd i atal feirysau a bacteria rhag lledaenu.  

Taflwch hancesi papur i’r bin cyn gynted â phosibl.  

Cofiwch ymolchi’ch dwylo’n rheolaidd gyda sebon a dŵr neu ddefnyddio hylif diheintio sy’n cynnwys 60% alcohol o leiaf. 

Defnyddiwch hancesi papur a meddyginiaethau ar gyfer annwyd a pheswch o’ch fferyllfa. 

I ddysgu mwy am y ffliw ewch i wefan GIG 111. 

Cadw eich cartref yn gynnes a diogel

  • Gwnewch yn siŵr bod eich cartref yn ddigon cynnes – tua 18°C/65°F (ystafell wely) a 21°C/70°F (ystafell fyw).
  • Gallech wresogi un ystafell yn unig ac aros ynddi gymaint â phosibl.
  • Dylai babanod gysgu mewn ystafelloedd sydd wedi’u gwresogi rhwng 16°C ac 20°C.
  • Cadwch ddrafft oer allan a gwres i mewn trwy ddiogelu ymylon ffenestri a drysau. Er hynny, cadwch y mannau awyru yn glir ac agored.
  • Dylai eich offer gwresogi a choginio gael gwasanaeth o leiaf unwaith y flwyddyn gan beiriannydd proffesiynol. I ddod o hyd i beiriannydd cofrestredig: Offer nwy: Gas Safe. Offer Tanwydd Solid: HETAS (Saesneg yn unig).
  • Gwiriwch a allwch gael help, budd-daliadau neu gyngor er mwyn i’ch cartref ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon, a gwella’ch system wresogi neu i helpu gyda biliau. Am ragor o gefnogaeth, ewch i Cyngor ar Bopeth a’r Taliad Tanwydd Gaeaf

Cadwch eich hun yn gynnes

  • Mae bwyd yn ffynhonnell egni hanfodol, sy’n helpu i gadw’ch corff yn gynnes. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael prydau a diodydd poeth (te, coffi neu goco) drwy gydol y dydd.
  • Ni fydd yfed alcohol yn eich cadw’n gynnes.
  • Cadwch yn brysur gartref os gallwch chi.
  • Gwisgwch sawl haen denau o ddillad wedi’u gwneud o gotwm, gwlân neu fleece yn hytrach nag un haen drwchus.
  • Cadwch yn gynnes yn y gwely gyda blancedi a sawl haen denau o ddillad.
  • Mae llawer o wres y corff yn cael ei golli o’r pen. Os oes rhaid i chi fynd allan, gwisgwch het a chofiwch wisgo esgidiau â gwadnau sy’n cydio.

Gwyliwch rhag hypothermia

Mae hypothermia yn digwydd os yw tymheredd y corff o dan 35°C (mae tymheredd arferol y corff tua 37°C). Mae hyn yn argyfwng meddygol ac mae angen ei drin yn yr ysbyty. 

Dysgwch beth yw’r symptomau. Ewch i adran frys eich ysbyty neu ffoniwch 999 

Os bydd :

  • rhywun yn crynu
  • gan rywun groen gwelw, oer a sych – neu’r croen a’r gwefusau yn las
  • tafod rhywun yn dew wrth siarad
  • yn anadlu’n araf
  • wedi blino neu wedi drysu.

Bydd babi sy’n dioddef hypothermia yn: 

  • oer wrth ei gyffwrdd a gall y croen fod yn goch
  • llipa
  • anarferol o dawel a chysglyd ac efallai yn gwrthod bwydo.

Am ragor o wybodaeth ewch i NHS Hypothermia (Saesneg yn unig).

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth bellach

Age Cymru.