Neidio i'r cynnwys

Tanau gwyllt

Mae tywydd sych a daear sych yn ei gwneud hi’n haws i danau gwyllt ddechrau.

Mae mwg o danau gwyllt yn gallu poeni’r llygaid, y trwyn a’r gwddf. Gall hefyd achosi peswch, gwichian yn y frest a phoen a phrinder anadl.

I’r rhan fwyaf o bobl, bydd y symptomau hyn yn diflannu’n gyflym iawn ac ni fydd unrhyw broblemau iechyd hirdymor.

Os oes tanau gwyllt yng nghyffiniau eich cartref

  • Os ydych chi’n gweld tân gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân.
  • Dilynwch y cyngor gewch chi gan y gwasanaethau brys.
  • Arhoswch y tu mewn i adeilad a chadwch y ffenestri a’r drysau ar gau.
  • Diffoddwch unrhyw offer aerdymheru.
  • Os oes rhaid i chi fynd allan pan fydd tân, dylech osgoi neu gyfyngu ar yr amser y byddwch mewn mannau sydd wedi’u heffeithio gan fwg neu lwch.
  • Os ydych chi’n teithio, cadwch ffenestri ac awyrellau eich cerbyd ar gau a diffoddwch yr aerdymheru.
  • Cofiwch fynd â’ch mewnanadlydd gyda chi os oes ei angen.
  • Os oes gennych chi symptomau sy’n parhau ar ôl i chi fynd i mewn o’r mwg neu’r lludw, gofynnwch am gyngor gan eich meddyg teulu neu GIG 111.

Cadw’r amgylchedd a chi eich hun yn ddiogel

  • Peidiwch â chynnau tân.
  • Ewch am bicnic yn hytrach na barbeciw.
  • Byddwch yn ofalus iawn gyda bonion sigaréts.
  • Cliriwch bob sbwriel, poteli a phob gwydr sydd wedi torri. Gall gwydr yn yr haul weithio fel chwyddwydr a dechrau tân.