Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru 2023–2035
Iechyd Cyhoeddus Cymru: Ffocws Cenedlaethol, yn Gyfrifol yn Fyd-eang, Ein Strategaeth Iechyd Ryngwladol fel Galluogydd ein Strategaeth Hirdymor 2023–2035
Yn 2023, fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ddiweddaru Strategaeth Iechyd Rhyngwladol 2017 er mwyn adlewyrchu’r newidiadau sylweddol a oedd wedi digwydd yn y dirwedd fyd-eang ac i alluogi Strategaeth Hirdymor newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae proses ymgynghori eang, gyda chefnogaeth adolygiad o’r llenyddiaeth a map o’r gwaith a chydweithrediadau rhyngwladol sy’n digwydd ar draws y sefydliad, wedi ein galluogi i nodi ein nodau a’n gweithgareddau ar gyfer y deng mlynedd nesaf.
Ein gweledigaeth iechyd ryngwladol yw bod yn sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol ysbrydoledig sydd â chysylltiadau byd-eang, sy’n gweithio tuag at greu Cymru iachach a thecach i fynd i’r afael â heriau byd-eang ac amcanion cyffredin.
Mae’r cyd-destun gwleidyddol, cymdeithasol ac amgylcheddol byd-eang wedi newid yn ddramatig ers y Strategaeth Iechyd Ryngwladol wreiddiol yn 2017, gyda ymadawiad y DU o’r UE (‘Brexit’), pandemig COVID-19, yr argyfwng costau byw ac achosion cynyddol o ddigwyddiadau tywydd eithafol oherwydd newid yn yr hinsawdd wedi cyfrannu at hynny.
Mae llawer o enghreifftiau buddiol o gydweithredu iechyd rhyngwladol ers 2017, ac mae’r Strategaeth hon yn anelu at adeiladu ar y rhain a galluogi cyflawni’r Strategaeth Hirdymor. Gall gwaith iechyd rhyngwladol amrywio o bartneriaethau ymchwil, rhannu gwybodaeth gydfuddiannol trwy gyfarfodydd digidol i hyfforddiant ar y cyd a chydweithio ar brosiectau a gweithgareddau eraill.
Yna gellir defnyddio’r dysgu hwn i wella iechyd a llesiant y boblogaeth ac i leihau anghydraddoldebau yng Nghymru. Gall hyn ein cefnogi i fod yn asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol sydd â chysylltiadau byd-eang, un sy’n defnyddio dulliau arloesol a’n harbenigedd rhyngwladol i helpu i atal clefydau, i hyrwyddo ac i ddiogelu iechyd, i ddarparu arweinyddiaeth system, a chyflwyno gwasanaethau arbenigol. Mae’r strategaeth hon yn dangos sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys sefydliadau iechyd cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ac eraill, i alluogi gweithgarwch iechyd rhyngwladol a gweithio mewn partneriaeth.
Darllen strategaeth iechyd ryngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017–2027.
Darllen strategaeth iechyd ryngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru 2023–2035.