Stormydd
Mae stormydd mellt a tharanau yn gallu digwydd trwy gydol y flwyddyn ond maen nhw’n fwy cyffredin yn ystod yr haf.
Mae mellt yn gallu cyrraedd y ddaear trwy wrthrychau, pobl ac adeiladau. Nid yw gwisgo gemwaith neu ategolion metel yn gwneud fawr o wahaniaeth. Y prif ffactorau yw gwrthrychau ac adeiladau uchel. Un o beryglon eraill mellt yw llifogydd sydyn, yn enwedig ar ôl tywydd poeth iawn.
Pan ragwelir stormydd
- Symud unrhyw ddodrefn o’r ardd a thynnu eitemau rhydd o’r tu allan i’r tŷ; gallai’r rhain achosi difrod os yw’r gwynt yn eu chwythu.
- Cau pob drws a ffenestr, yn enwedig drysau mawr y garej.
- Ceisio parcio cerbydau mewn garej neu yn bell o adeiladau, coed, waliau neu ffensys.
- Cau a chlymu unrhyw orchuddion storm dros ffenestri.
- Mae dyfeisiau amddiffyn yn erbyn ymchwydd yn gallu helpu i atal difrod i’ch offer cartref yn ystod ymchwydd pŵer.
- Fe allwch chi ddefnyddio rhagolygon tywydd y Swyddfa Dywydd i gadw golwg ar rybuddion mellt a gweld a fydd stormydd mellt yn eich ardal.
Yn ystod storm
- Aros dan do, a chau ffenestri a llenni er mwyn amddiffyn yn erbyn y perygl o wydr yn torri.
- Peidio â cheisio atgyweirio unrhyw ddifrod nes bod y gwyntoedd cryfion wedi darfod.
- Os oes rhaid i chi fynd allan, ceisio defnyddio drysau ar ochr gysgodol y tŷ yn unig.
- Os cewch eich dal y tu allan mewn gwyntoedd cryfion, dylech fynd yn ôl dan do cyn gynted â phosibl.
- Cadw draw o ochr gysgodol waliau a ffensys – os ydyn nhw’n cwympo, byddan nhw’n dymchwel ar yr ochr hon.
- Ceisio osgoi cerdded yn agos at adeiladau neu goed rhag ofn bod gwrthrychau rhydd yn disgyn neu ganghennau coed yn torri.
- Cadw draw o ffyrdd neu draciau trên, rhag ofn bod y gwynt yn eich chwythu i lwybr cerbyd sy’n agosáu.
- Cymryd gofal os ydych chi’n gyrru ar lwybrau agored fel pontydd, neu ffyrdd agored uchel; dylid gohirio eich taith neu ddod o hyd i lwybrau eraill lle bo hynny’n bosibl.
- Os ydych chi’n gyrru, dylech yrru yn araf a bod yn ymwybodol o wyntoedd o’r ochr; yn enwedig os ydych chi’n tynnu cerbyd arall neu os oes gan eich cerbyd ochrau uchel.
- Cynllunio eich teithiau – efallai y bydd y tywydd wedi creu llifogydd sydyn neu wedi achosi i linellau trydan/coed gwympo, gan effeithio o bosibl ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mellt
Yn yr awyr agored
- Nid oes unrhyw le yn ddiogel yn yr awyr agored yn ystod storm fellt.
- Mae mellt yn gallu taro milltiroedd i ffwrdd o unrhyw law neu gwmwl, felly mae angen dod o hyd i gysgod ar unwaith.
- Mae cerbyd caeedig neu loches gyda phedair wal a tho yn darparu cysgod diogel.
- Pan fyddwch chi’n clywed taranau, rydych chi’n ddigon agos i gael ergyd mellten.
- Dylech gadw draw o ffensys gwifren bigog, llinellau trydan, neu felinau gwynt.
- Dylech adael unrhyw byllau dŵr, llynnoedd, a chrynofeydd dŵr eraill ar unwaith a chadw draw ohonyn nhw.
- PEIDIWCH â gorwedd ar y llawr neu gysgodi o dan goeden. Os nad oes lloches gerllaw, neu os na allwch chi gyrraedd lloches, dylech chi gyrcydu a thynnu’ch pen i mewn i’ch corff.
- Os ydych chi’n teimlo eich gwallt yn codi, dylech chi gyrcydu ar unwaith.
- Yn gyffredinol, mae ceir yn ddiogel oherwydd eich bod dan do mewn ffrâm a tho metel. Os ydych chi eisoes yn eich car, caewch y ffenestri a’r drysau.
- Mae ceir sydd â thoeau ffabrig a cheir â thoeau sy’n agor yn llai diogel oherwydd bod y to yn gallu mynd ar dân os yw’n cael ei daro gan fellt.
- Nid yw beiciau modur na beiciau yn ddiogel yn ystod mellt.
Dan do
- Peidiwch â defnyddio ffôn â chortyn. Ni ddylech ddefnyddio ffonau symudol na ffonau heb gortyn heblaw os nad ydyn nhw wedi’u cysylltu â phlwg gan wefrydd.
- PEIDIWCH â defnyddio unrhyw beth sydd wedi’i gysylltu ag allfa drydanol, fel cyfrifiadur neu gyfarpar electronig arall.
- Dylech gadw draw o’r gawod ac o ddŵr, gan gynnwys golchi llestri.
- Cadwch draw o ffenestri a drysau.
- PEIDIWCH â gorwedd ar loriau concrid neu bwyso yn erbyn waliau concrid.
- Os oes rhywun wedi cael ei daro gan fellten, fe allwch ei gyffwrdd a rhoi cymorth cyntaf iddo ar unwaith. Ni fyddwch yn cael eich trydanu.
Ar ôl storm
- Peidiwch â chyffwrdd unrhyw geblau trydan/ffôn sydd wedi’u chwythu i lawr.
- Peidiwch â cherdded yn rhy agos at waliau, adeiladau na choed rhag ofn bod y storm wedi’u gwanhau.
- Dylech sicrhau bod unrhyw gymdogion neu berthnasau sy’n agored i niwed yn ddiogel, a’u helpu i drefnu gwaith atgyweirio.
Asthma storm daranau
Mae asthma storm daranau yn digwydd pan fydd pobl yn dweud bod ganddyn nhw symptomau asthma yn ystod storm daranau.
Mae’n deillio o gyfuniad o lefelau paill neu lefelau sborau ffwngaidd uchel a storm daranau.
Mae gwyntoedd cryfion yn ystod stormydd taranau yn gallu codi paill a’i dynnu i mewn i gymylau. Yna mae’r paill yn gallu amsugno dŵr, chwyddo a rhwygo ar agor, gan ryddhau alergenau. Mae pobl yn gallu anadlu’r alergenau hyn i mewn i’w cyrff, a gall hyn arwain at byliau o asthma.
Mae asthma storm daranau yn gallu effeithio ar bobl o bob oed, ond mae’n fwy tebygol o effeithio ar y canlynol:
- Pobl sydd ag asthma yn barod, neu sydd wedi cael pyliau o asthma yn y gorffennol.
- Pobl sy’n cael clefyd y gwair neu rhinitis alergaidd wedi’u sbarduno gan beilliau.
Dyma ambell i awgrym da os yw stormydd taranau yn sbarduno eich asthma:
- Parhau i ddefnyddio eich mewnanadlydd ataliol rheolaidd, a sicrhau bod eich mewnanadlydd lliniarol gennych chi bob amser.
- Aros dan do cyn, yn ystod ac ar ôl stormydd taranau, a chadw’r drysau a’r ffenestri ar gau er mwyn cadw’r paill allan.
- Cymryd eich triniaethau clefyd y gwair arferol fel chwistrell i’r trwyn a/neu feddyginiaeth wrth-histamin yn ystod y tymor paill.
Mwy o wybodaeth
Dod o hyd i ragolygon
Stormydd
Cadw yn ddiogel yn ystod mellt a tharanau