Neidio i'r cynnwys

Rhaglen Diwygio Deintyddol

Noddir a lletyir y Rhaglen Diwygio Deintyddol gan Lywodraeth Cymru. Mae Grŵp Goruchwylio Strategol Deintyddol (DSOG) aml-randdeiliad sy’n goruchwylio’r Rhaglen Diwygio Deintyddol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cyngor iechyd y cyhoedd deintyddol a chymorth hanfodol ar gyfer rheoli rhaglenni i’r rhaglen ddiwygio.

Dyma amcanion strategol cyffredinol y Rhaglen Diwygio Deintyddol:

  1. Gwella iechyd y boblogaeth, iechyd y geg a llesiant trwy ganolbwyntio’n fwy ar atal a mynd i’r afael ag achosion anghydraddoldebau
  2. Gwella mynediad, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad, profiad a chanlyniadau gofal deintyddol
  3. Cyfoethogi llesiant ac ymgysylltiad y gweithlu deintyddol a sicrhau bod capasiti a gallu’r gweithlu’n cael eu hadolygu’n rheolaidd i ddiwallu anghenion gofal iechyd (gan gynnwys atal eilaidd) y boblogaeth
  4. Cynyddu’r gwerth a geir o ariannu gwasanaethau a rhaglenni deintyddol
  5. Sicrhau bod systemau ansawdd, diogelwch a gwella ar waith ar gyfer deintyddiaeth ac iechyd y geg

Caiff y rhain eu cynnwys mewn pedair ffrwd gwaith:

Ffrwd Waith 1: Data, cyllid a weithrediadau

Mae Ffrwd Waith 1 yn mynd i’r afael â’r angen parhaus am ddadansoddiad ariannol, defnyddio data o fewn deintyddiaeth a gweithio ar y cyd â Byrddau Iechyd i ddatrys heriau o fewn y broses rheoli contractau.

Mae gwaith y grŵp hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Gwaith dadansoddi i ddeall y goblygiadau ariannol sy’n deillio o ddiwygio
  • Opsiynau ar gyfer model Refeniw Taliadau Cleifion (PCR) yn y dyfodol
  • Datblygu fframwaith perfformiad a ysgogir gan ddata ar gyfer deintyddiaeth a nodi’r holl ddata sydd ar gael a chynnal gwaith meincnodi
  • Datblygu dull rheoli contractau safonol
  • Ystyried camau gweithredu priodol yn deillio o adroddiadau gwybodaeth ar iechyd y geg
  • Ceisiadau am newid Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (BSA)
  • Darparu darlun o sut mae’r system ddeintyddol gyffredinol yn perfformio
  • Asesu goblygiadau ariannol mwy o fynediad i ofal deintyddol
Ffrwd Waith 2: Cyfathrebiadau ac ymgysylltu

Mae Ffrwd Waith 2 yn datblygu ac yn gweithredu strategaeth gyfathrebu ar gyfer deintyddiaeth; ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a chynnal rhaglen waith i lywio diwygiadau deintyddol.

(Nid yw’r ffrwd waith wedi cyfarfod eto).

Ffrwd Waith 3: Datblygiad clinigol

Mae Ffrwd waith 3 yn arwain ar faterion sy’n ymwneud ag arweiniad clinigol, ansawdd a darpariaeth deintyddiaeth y GIG ar ran y rhaglen, ac yn darparu mecanwaith ffurfiol ar gyfer ‘cymeradwyo’ datblygiadau clinigol cyn y cam gweithredu.

Mae gwaith y grŵp hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Camau clinigol yn deillio o ddata a ffynonellau gwybodaeth eraill sy’n berthnasol i wasanaethau deintyddol
  • Newidiadau i ganllawiau clinigol a gweithredu
  • Datblygu Cylchlythyrau Iechyd Cymru
  • Egwyddorion Gofal o ran rhwystrau a hwyluswyr gweithredu
  • Y cymysgedd o sgiliau ym maes deintyddiaeth y GIG
  • Materion yn codi o Fforwm Ymgynghori Strategol (SAF) a Rhwydweithiau Clinigol a Reolir (MCNs) ac unrhyw ganllawiau clinigol a ddatblygir gan SAFs a Rhwydweithiau Clinigol a Reolir
  • Ystyried sut y gall diwygio ymgorffori datblygiadau digidol a thechnolegol wrth gyflenwi gwasanaethau
  • Alinio gwasanaethau arbenigol ar draws y sectorau sylfaenol, cymunedol ac ysbytai
  • Gweithdrefnau Tystiolaeth Glinigol Gyfyngedig (PoLCE) a gwasanaethau gorfodol / canllawiau eraill sydd eu hangen ar gyfer ymarfer clinigol os nad oes canllawiau ar y meysydd hynny gan sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt ar hyn o bryd
  • Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol
  • Gwasanaethau Deintyddol Ysbyty
  • Bydd rhywfaint o’r gwaith yn cael ei gyflwyno drwy grwpiau Gorchwyl a Gorffen byrhoedlog yn ôl yr angen
Ffrwd Waith 4: Gweithlu

Nod Ffrwd Waith 4 yw llywio a dylanwadu ar bolisïau, cynlluniau a gweithrediad y gweithlu sy’n effeithio ar weithlu deintyddiaeth y GIG. Mae’r ffrwd waith yn caniatáu ystyriaeth a chamau priodol i’w cymryd ar faterion a newidiadau sy’n codi y tu allan i’r rhaglen ddiwygio a fydd yn effeithio ar y gweithlu deintyddiaeth.

Mae gwaith y grŵp hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Gofynion DPP a hyfforddiant sy’n deillio o’r rhaglen ddiwygio, gan gynnwys atal, cymysgedd sgiliau a chyfathrebu
  •  Ymsefydlu drwy’r Rhaglen Fentora (IMP) a newidiadau i’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC)
  • Gwella ansawdd
  • Academïau Gofal Sylfaenol
  •  Dadansoddi a dehongli data System Gwybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol (PCWIS)
  • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Pam mae angen diwygio’r system ddeintyddol?

Mae contract yr Uned Gweithgarwch Deintyddol (UDA), a gyflwynwyd yn 2006, yn methu â bodloni anghenion cleifion a’r proffesiwn deintyddol. Mae strategaeth “Cymru Iachach” Llywodraeth Cymru yn eirioli dros system ddeintyddol fwy seiliedig ar anghenion, ataliol ac o ansawdd uchel. Nod diwygio’r contract yw gwella iechyd y boblogaeth ac iechyd y geg, cynyddu mynediad a thegwch, cefnogi llesiant y gweithlu, a sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau.

Mae contract deintyddol newydd wedi’i gynllunio ar gyfer 2026, a fydd yn rhan o uchelgais ehangach i greu system gofal deintyddol gydgysylltiedig, cynaliadwy a theg. Bydd llwyddiant yn cael ei fesur drwy fonitro parhaus, dadansoddi data, a chanolbwyntio ar ganlyniadau cleifion ac ansawdd gwasanaethau. Mae cydweithredu â rhanddeiliaid yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn ac arwain gwell gofal i gleifion.

Mae’r Rhaglen Diwygio Deintyddol yn datblygu, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, o fewn y cyd-destun a ddisgrifir yn y dogfennau strategol allweddol canlynol.