Neidio i'r cynnwys

Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan

Mae rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnig cymorth wedi’i dargedu i bobl sy’n wynebu risg uwch o ddiabetes math 2, gyda’r nod o’u hatal rhag datblygu’r cyflwr hwn.

Mae’r rhaglen yn golygu bod gweithwyr cymorth gofal iechyd ymroddedig, hyfforddedig gyda goruchwyliaeth gan ddeietegwyr, yn cyflwyno ymyriad byr i bobl sydd wedi prawf gwaed sy’n dangos eu bod yn wynebu risg uwch o ddiabetes math 2. Gan ddefnyddio dulliau a dreialwyd gan feddygon teulu yn lleol, mae’r rhaglen yn cyflwyno dull safonol o atal diabetes math 2 mewn unigolion risg uchel ar gyfer Cymru gyfan.

Cefndir

Mae dros 200,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes, ac mae gan naw o bob 10 ohonynt ddiabetes math 2. Mae hwn yn gyflwr difrifol, ac weithiau’n gyflwr gydol oes. Mae’n un o brif achosion colli golwg ac yn cyfrannu’n helaeth at fethiant yr arennau, trawiad ar y galon a strôc. Mae diabetes math 2 yn cael effaith ddifrifol ar unigolion a’u teuluoedd. Mae cost ariannol hefyd: mae trin diabetes math 2 yn cyfrif am tua 10% o gyllideb flynyddol y GIG.

Yn wahanol i ddiabetes math 1, gellir atal diabetes math 2. Mae tystiolaeth yn awgrymu, drwy gefnogi pobl i wneud newidiadau o ran ffordd o fyw, gellid atal dros hanner yr achosion o ddiabetes math 2. Wedi’i datblygu’n genedlaethol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i chyflwyno’n lleol gan weithwyr cymorth gofal iechyd penodedig ac arweinwyr deietig sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol, mae’r rhaglen yn cefnogi pobl sy’n wynebu risg uwch o ddiabetes math 2 i wneud newidiadau i’w deiet a bod yn fwy egnïol yn gorfforol.

Yn ei cham cyntaf, mae rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn cael ei chyflwyno mewn o leiaf dau glwstwr gofal iechyd sylfaenol ym mhob un o saith ardal bwrdd iechyd Cymru. Bydd y rhaglen yn destun gwerthusiad parhaus, a bydd yr hyn a ddysgir o’r cam cyntaf hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio’r gwaith o’i chynllunio a’i chyflwyno wrth symud ymlaen.

Pam mae angen rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan arnom?

Cymru sydd â’r nifer uchaf o achosion o ddiabetes yn y DU a chyda phwysau gormodol a gordewdra yn dod yn fwy cyffredin, mae nifer y bobl sy’n wynebu risg uwch o ddiabetes math 2 yn cynyddu. Mae effaith diabetes math 2 ar iechyd a llesiant unigolion a’u teuluoedd yn ddifrifol. Mae cost ariannol hefyd: mae trin diabetes math 2 yn cyfrif am tua 10% o gyllideb y GIG.

Mae tystiolaeth yn awgrymu, drwy gefnogi pobl i wneud newidiadau allweddol i’w deiet a lefel eu gweithgarwch corfforol, gellid atal dros hanner yr achosion o ddiabetes math 2. Felly, mae angen a chyfle clir am raglen genedlaethol sy’n cefnogi pobl i wneud newidiadau i’w ffordd o fyw a all oedi neu atal diabetes math 2 rhag dechrau.

Beth yw’r ymyriad?

Mewn ardaloedd lle mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno, bydd pobl sydd wedi cael prawf gwaed sy’n dangos eu bod yn wynebu risg uwch o ddiabetes math 2 (HbA1c rhwng 42-47mmol/mol) yn cael eu gwahodd i fynychu ymgynghoriad 30 munud gyda gweithiwr cymorth gofal iechyd hyfforddedig. Bydd y gweithiwr cymorth gofal iechyd yn siarad â phobl am eu risg o ddatblygu diabetes math 2 a’r hyn y gallant ei wneud i’w lleihau. Gall hefyd eu hatgyfeirio i ffynonellau ychwanegol o gymorth y gallent gael budd ohono. Cynhelir apwyntiad dilynol 12 mis yn ddiweddarach.

Pam y cafodd yr ymyriad ei gynllunio fel hyn?

Mae rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn adeiladu ar ddulliau a gafodd eu treialu a’u gwerthuso mewn dau glwstwr gofal sylfaenol ar wahân: Cwm Afan a Gogledd Ceredigion. Dangosodd y ddau gynllun peilot hyn addewid o ran defnyddio ymyriad byr i leihau lefelau siwgr (glwcos) yn y gwaed mewn pobl sy’n wynebu risg o ddiabetes math 2.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda gweithwyr proffesiynol o ddisgyblaethau gwahanol i adolygu a mireinio pob elfen o’r cynllun ymyriad. O ganlyniad, mae’r rhaglen yn cyd-fynd â chanllawiau NICE, Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan, egwyddorion gofal iechyd darbodus a mewnwelediadau o wyddor ymddygiad.

A yw’r ymyriad yn effeithiol?

Mae cynllun yr ymyriad yn defnyddio cynlluniau peilot llwyddiannus a gynhaliwyd mewn clystyrau gofal sylfaenol yng Ngogledd Ceredigion a Chwm Afan. Dangosodd y gwerthusiad o’r cynlluniau peilot hyn fod gostyngiad mewn lefelau cyfartalog siwgr (glwcos) yn y gwaed rhwng pobl sy’n cael ymyriad byr a’u hapwyntiad dilynol, gyda nifer llai na’r disgwyl yn mynd ymlaen i ddatblygu diabetes math 2. Bydd rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn cael ei gwerthuso’n barhaus. Bydd yr hyn a ddysgir o gam cychwynnol cyflwyno’r rhaglen yn cael ei ddefnyddio i wella’r rhaglen wrth iddi ddatblygu dros y blynyddoedd i ddod.

Ar gyfer pwy mae rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan?

Mae rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn rhaglen wedi’i thargedu ar gyfer pobl sy’n wynebu risg uwch o ddiabetes math 2. Bydd pobl sy’n wynebu risg uwch yn cael eu nodi drwy brawf gwaed, o’r enw prawf HbA1c, sy’n mesur lefelau siwgr (glwcos) gwaed cyfartalog person dros y ddau i dri mis diwethaf. Mae pobl at risg uwch o ddatblygu diabetes math 2 os mae eu HbA1c yn rhwng 42-47mmol/mol.

Bydd pobl gymwys mewn ardaloedd lle mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno yn cael llythyr gwahoddiad, gyda thalfen gwybodaeth yn gofyn hwy i wneud apwyntiad. Darperir apwyntiadau mewn partneriaeth gan ofal sylfaenol a byrddau iechyd lleol, ac maent yn cael eu darparu fel apwyntiad un-i-un gyda gweithiwr cymorth gofal iechyd. Bydd yr apwyntiad fel arfer yn para tua 30 munud. Gall hyn fod yn bersonol mewn lleoliad lleol neu apwyntiad rhithwir dros y ffôn neu fideo, yn dibynnu ar y gwasanaeth lleol. Bydd yr apwyntiad fel arfer yn para tua 30 munud. Gall hyn fod yn berson, mewn lleoliad lleol, neu apwyntiad dros y ffôn/fideo; mae hyn yn dibynnu ar y gwasanaeth lleol.

Ble mae rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn cael ei chyflwyno?

Yn ei cham cyntaf, mae rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn cael ei chyflwyno mewn o leiaf dau glwstwr gofal iechyd sylfaenol ym mhob un o saith ardal bwrdd iechyd Cymru. Bydd yr hyn a ddysgir o’r cam cyntaf hwn o’r broses gyflwyno yn cael ei ddefnyddio i lywio’r gwaith o ddatblygu’r rhaglen yn y dyfodol.

Pam mae’n cael ei chyflwyno yn yr ardaloedd hyn yn gyntaf?

Mae’r clystyrau gofal sylfaenol sy’n rhan o gam cyntaf rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan wedi’u nodi yn seiliedig ar y canlynol:

  • p’un a oes nifer uchel o achosion o ddiabetes math 2 yn eu hardal
  • p’un a oes angen clir o ran iechyd y boblogaeth
  • eu parodrwydd i gyflwyno’r rhaglen

Mae dau glwstwr gofal sylfaenol o bob ardal bwrdd iechyd yn cymryd rhan yn y rhaglen, gan sicrhau bod Cymru gyfan yn cael ei chynrychioli yn y cam cyntaf hwn o’r broses gyflwyno.

Pryd mae rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn cael ei chyflwyno?

Mae’r clystyrau gofal sylfaenol wedi dechrau cyflwyno’r ymyriad byr yn Haf ac Hydref 2022. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno ar gyflymder gwahanol ym mhob ardal bwrdd iechyd, yn dibynnu ar drefniadau cyflwyno yn lleol.

Pwy oedd yn rhan o’r gwaith o gynllunio a datblygu rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan?

Mae rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn adeiladu ar ddulliau a gafodd eu treialu a’u gwerthuso mewn dau glwstwr gofal sylfaenol ar wahân: Cwm Afan a Gogledd Ceredigion. Ers hynny, mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ddisgyblaethau gwahanol ac ardaloedd byrddau iechyd gwahanol wedi gweithio gyda’i gilydd i adolygu a mireinio’r gwaith o gynllunio’r ymyriad a’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen. Mae’r rhaglen wedi’i datblygu mewn ymgynghoriad â’r trydydd sector a phobl byw sy’n byw gyda diabetes math 2.

Pwy sy’n rhan o’r gwaith o gyflwyno rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan?

Bydd rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn cael ei chyflwyno gan weithwyr cymorth gofal iechyd ymroddedig, hyfforddedig, gyda goruchwyliaeth gan ddeietegwyr arweiniol lleol. Bydd y gweithwyr cymorth gofal iechyd a’r deietegwyr yn gweithio mewn partneriaeth â phractisau cyffredinol i nodi pobl gymwys a’u gwahodd i’r ymyriad byr, a fydd naill ai’n digwydd mewn meddygfeydd neu mewn lleoliadau eraill, yn dibynnu ar drefniadau lleol.

Sut y bydd rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn cael ei gwerthuso?

Mae gwerthuso yn elfen allweddol o Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan a chaiff ei ddefnyddio i fesur effaith a llywio gwelliannau yn y dyfodol. Mae Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain y gwaith o werthuso rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan drwy ddau ddull ar wahân.

  • Er mwyn gwerthuso canlyniadau rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, cynigiwyd dull lletem mewn camau wedi’i addasu. Bydd y gwerthusiad o ganlyniadau yn asesu a yw’r ymyriad yn arwain at newid yn lefelau HbA1c pobl yn eu hapwyntiad dilynol ar ôl 12 mis, ac a oes gwahaniaeth o ran HbA1c i bobl sy’n cael yr ymyriad o gymharu â’r rhai a gafodd ofal arferol.
  • Er mwyn gwerthuso proses a gwerth rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, dewiswyd consortiwm rhwng Prifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Bangor i gynnal asesiad annibynnol o’r hyn sy’n gweithio, ble a pham. Bydd hyn yn galluogi dysgu gwersi yn ystod y cam cychwynnol o gyflwyno’r rhaglen, er mwyn llywio’r gwaith o raddio’r rhaglen ledled Cymru.

Bydd y dysgu hwn yn cael ei gyflawni drwy’r wybodaeth a gesglir drwy gyfweliadau â chleifion a gweithwyr proffesiynol, arsylwi ar ymyriadau, dadansoddi dogfennau a chasglu data rheolaidd gan bractisau meddygon teulu ar gymhwysedd ymyriad, gwahoddiad, y nifer sy’n manteisio ar y rhaglen a chamau dilynol. Bydd asesiad sy’n seiliedig ar werthoedd hefyd yn cael ei gynnal i asesu aliniad rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn erbyn egwyddorion gofal iechyd darbodus Cymru.

Ble gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddiabetes math 2 a sut i leihau fy risg?