Pydredd dannedd mewn plant ledled Cymru
Mae Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol Cymru yn cynnal arolygon rheolaidd i fesur digwydded, difrifoldeb ac effaith pydredd dannedd ymhlith plant blwyddyn un (plant 5 oed) a phlant blwyddyn saith (plant 12 oed) yng Nghymru. Rydym hefyd yn cynnal arolygon i fesur digwydded, difrifoldeb ac effaith clefyd deintyddol ar gyfer grwpiau oedolion penodol. Mae hyn yn ein helpu i bennu anghenion iechyd y geg y grwpiau hyn ac i nodi anghydraddoldebau iechyd y geg. Mae’r wybodaeth a gynhyrchir yn helpu GIG Cymru i gynllunio ac i ddarparu gwell gwasanaethau deintyddol yn y dyfodol i fodloni’r anghenion hyn. Mae hefyd yn ein helpu i ddeall sut mae iechyd y geg ymhlith y grwpiau hyn yn effeithio ar ansawdd eu bywyd. Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am gydlynu’r rhaglen ac maen nhw’n gweithio ochr yn ochr ag Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd i gynhyrchu’r adroddiadau blynyddol a’r ffeithluniau. Mae’r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol ym mhob Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gasglu’r data yn y maes.
-
Iechyd y geg ymhlith plant 5 oed yng Nghymru 2024 i 2025
Cyhoeddwyd ar: 31st Mawrth 2026
-
Arolwg deintyddol o blant ym mlwyddyn saith ledled Cymru 2023 i 2024
Cyhoeddwyd ar: 31st Mawrth 2026
-
Arolwg deintyddol o blant ym mlwyddyn un ar draws Cymru 2022 i 2023
Cyhoeddwyd ar: 31st Mawrth 2026