Profi heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs)
Profi a Phostio
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth yma i gael pecyn profi cartref am ddim am glamydia a gonorea. Gallwch hefyd gael pecyn am ddim a fydd yn profi am feirysau a gludir yn y gwaed megis HIV, siffilis, hepatitis B a hepatitis C. Gallwch ddefnyddio’r rhain yn eich cartref, wedyn eu postio i’r labordy yn yr amlen ragdaledig. Danfonwch popeth yn ôl gyda’ch sampl i’r labordy, gan gynnwys y ffurflen gais, oherwydd ni ellir eich samplau cael ei brofi hebddo.
Am fwy o wybodaeth a chyfarwyddiadau pecyn ewch i Sianel YouTube Iechyd Rhywiol Cymru. Mae’r rhan helaeth o’r fideos ar gael yn Gymraeg ond mae rhai yn uniaith Saesneg.
Proses pecyn profi cartref
Er mwyn i ni ddarparu’r gwasanaeth bydd rhaid i ni gael rhywfaint o ddata personol gennych, a gaiff eu casglu ar y system, sy’n cael ei weithredu gan Signum Health. Dim ond y data personol sy’n angenrheidiol ar gyfer y broses penodol rydym yn ei chwblhau fyddwn ni’n eu casglu a’u phrosesu. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n deall bod eich data personol yn werthfawr iawn ac rydym yn hynod o ofalus gyda diogelwch data oherwydd hynny. Rydym yn defnyddio mesurau technegol cadarn i sicrhau bod eich data personol a’r mynediad ato wedi’u cyfyngu, i bobl sydd angen eu phrosesu fel rhan o’u waith. Yn unol â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar gyfer Diogelu Data (GDPR), pan rydym yn casglu neu’n prosesu data personol gan bobl, rhaid i ni roi gwybod iddynt sut a pham rydym yn eu phrosesu, beth rydym yn ei wneud â hwy a gyda phwy, os unrhyw un, ydym am eu rhannu â. Rydym yn gwneud hyn drwy gyfrwng Polisi Preifatrwydd.
Archebu eich pecyn
Os ydych chi’n hapus i barhau a defnyddio’r wasanaeth, archebwch eich pecyn postio gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Cofiwch ein bod yn defnyddio gwasanaeth y Post Brenhinol a bod oedi yn effeithio arno weithiau. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Y Post Brenhinol, ewch yma.
Mpox / BrechM
NI FYDD pecyn samplau gartref STI yn profi am Mpox. Dim ond trwy’r clinig iechyd rhywiol y gallwch chi gael prawf am Mpox – ffoniwch eich gwasanaeth lleol i drafod hyn gyda nhw. Dylech aros gartref ac osgoi cysylltiad agos â phobl eraill hyd nes y byddwch chi wedi cael gwybod beth i’w wneud. Gallwch ddod o hyd i fanylion cysylltu clinig iechyd rhywiol lleol ar wefan GIG 111 Cymru.
Nid yw profi’n bositif (neu’n negyddol am haint sy’n cael ei drosglwyddo’n rhywiol) yn golygu nad oes gennych chi Mpox – dim ond os bydd y meddyg yn eich asesu ac yn gofyn am brawf y cewch chi eich profi am Mpox.
Pecynnau cymunedol
Er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth Profi a Phostio GIG Cymru, sy’n darparu mynediad cyflym a hawdd at gitiau samplu hunan-brofi ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, rydym nawr yn darparu citiau mewn nifer o leoliadau cymunedol.
Ar gyfer y rhai y byddai’n well ganddynt beidio ag ymweld â lleoliad gofal iechyd i gael eu profi, y rhai sydd efallai heb fynediad digidol at archebu hunan-brofion ar-lein, neu unigolion sydd heb gyfeiriad addas i’w derbyn, gellir casglu citiau o’r safleoedd canlynol:
Map o Gymru wedi’i rannu’n saith rhanbarth wedi’u rhifo, mae pob rhanbarth yn cynrychioli bwrdd iechyd.
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Os ydych chi’n wefan sy’n bodoli’n barod ac eisiau archebu mwy o stoc neu eisiau cysylltu, e-bostiwch y tim iechyd rhywiol os gwelwch yn dda: [email protected].
Os ydych chi’n gweithio rhywle yr ydych yn teimlo y byddai’n cael budd o gael pecynnau profi cymunedol ar eich gwefan, cysylltwch drwy e-bostio’r cyfeiriad e-bost uchod i ddechrau’r sgwrs.