Neidio i'r cynnwys

Plant sy’n derbyn gofal, mabwysiadu, a maethu

Plant sy’n Derbyn Gofal (LAC)

Mae plant a phobl ifanc sydd yng ngofal yr Awdurdod Lleol, gan gynnwys y rhai sydd â chynllun ar gyfer mabwysiadu, yn grŵp sy’n arbennig o agored i niwed. Esgeulustod neu gamdriniaeth yw’r prif resymau dros roi plant mewn gofal. Mae’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) yn rhoi arweinyddiaeth i weithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant sy’n derbyn gofal. Mae gan ein Tîm gysylltiadau cryf â Grŵp Meddygol Cymru, Grŵp Nyrsys Plant sy’n Derbyn Gofal Cymru, Rhwydwaith GIG Diogelu Cymru Gyfan, Grŵp Llywio Plant Sy’n Derbyn Gofal, ac mae’n cynrychioli’r GIG ar y Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gwella Canlyniadau i Blant.

Canllawiau a rheoliadau:

Gwybodaeth ddefnyddiol:

Mabwysiadu a Maethu

Mae’r mwyafrif o blant sy’n derbyn gofal yn byw gyda gofalwyr maeth yn y tymor byr neu’n hirdymor.

Nid yw cael eu hadsefydlu gyda’u teulu biolegol yn briodol ar gyfer pob plentyn sy’n derbyn gofal, ac mae mabwysiadu yn rhoi cyfle am well canlyniadau hirdymor. Mae’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) yn rhoi arweinyddiaeth i weithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio yn y maes mabwysiadu a maethu.
 
Mae gan ein Tîm gysylltiadau cryf â Grŵp Meddygol Cymru, Grŵp Nyrsys Plant sy’n Derbyn Gofal Cymru, Rhwydwaith GIG Diogelu Cymru Gyfan, Grŵp Llywio Plant Sy’n Derbyn Gofal, ac mae’n cynrychioli’r GIG ar y Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gwella Canlyniadau i Blant ac ar Grŵp Llywio Strategol y Fframwaith Maethu Cenedlaethol.

Canllawiau a rheoliadau:

Gwybodaeth ddefnyddiol:

Effaith COVID-19