Modiwl e-ddysgu dinasyddiaeth fyd-eang
Mae hwn yn blatfform dysgu ar-lein rhad ac am ddim sydd wedi’i anelu at weithwyr iechyd proffesiynol a phawb yn GIG Cymru sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am Ddinasyddiaeth Fyd eang (GC).
Mae’n cynnwys: beth mae’n ei olygu i’n bywydau bob dydd, deall safbwyntiau rhyngwladol a phrofiadau gweithwyr iechyd proffesiynol, sut allwn ni gyfrannu, help gydag datrysiadau, a gwella ymwybyddiaeth fyd-eang o fewn a thu allan i’r gwaith.
Mae’r adnodd wedi’i greu i annog datblygiad Dinasyddiaeth Fyd-eang a bydd yn galluogi staff y GIG i:
- Ddysgu pam fod anghydraddoldebau yn bodoli yng Nghymru a’r byd, a’r effaith y maent yn ei gael ar iechyd
- Cymryd rhan mewn trafodaethau ar iechyd a datblygiad rhyngwladol, yn ogystal â themâu a phynciau eraill
- Cwestiynu gwahanol safbwyntiau
- Herio stereoteipiau
- Dysgu am effaith gymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a gwleidyddol globaleiddio, yn enwedig ar iechyd a’r GIG
- Ystyried eu gwerthoedd eu hunain a sut maent yn effeithio ar eraill
- Gwrando, deall a pharchu gwahanol safbwyntiau
- Bod yn fyfyriol a datblygu sgiliau meddwl beirniadol
- Deall y gwahanol ffyrdd o leihau tlodi byd-eang
- Datblygu a chefnogi eu datblygiad personol a phroffesiynol
Mae’r adnodd wedi’i rannu’n chwe modiwl, un craidd a phum ‘astudiaeth fanwl’ am bynciau sy’n cynnwys cymorth a datblygu, iechyd sy’n seiliedig ar hawliau, globaleiddio, heddwch a gwrthdaro a newid yn yr hinsawdd. Mae’r adnodd yn hawdd ei gyrchu, yn hawdd ei ddefnyddio a bydd yn amhrisiadwy i holl weithwyr proffesiynol y GIG.
Dywedodd Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Bydd adeiladu gweithlu sydd ag ymwybyddiaeth fyd-eang yn arwain at fanteision i’r rhai sy’n gweithio o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru, yn ogystal â buddion i’r boblogaeth yn ehangach.”
Dywedodd Dr Gillian Richardson, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (Brechlynnau) a oruchwyliodd y prosiect a ddechreuodd yn 2018:
“Rydym yn byw mewn byd rhyng-gysylltiedig, lle gall bygythiadau iechyd lleol ddod yn broblemau byd-eang yn gyflym iawn, a gall bygythiadau byd-eang yn cael effaith leol. Rydym wedi gweld hyn gyda’r pandemig Coronafeirws, newid hinsawdd, diogelwch bwyd a dŵr a chadwyni cyflenwi meddygol hanfodol ac eraill. Yn 2017 ymrwymodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, trwy ei Strategaeth Iechyd Rhyngwladol 10 mlynedd, i ddod yn sefydliad sy’n canolbwyntio’n genedlaethol ac sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Mae’r adnodd hwn, a gynhyrchwyd ar y cyd ag Oxfam Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, yn ehangiad o hyn, ar gyfer GIG Cymru gyfan, gan adeiladu ar Fframwaith Llywodraeth Cymru ‘Iechyd yng Nghymru a Thu Hwnt i’w Ffiniau’ (2012) lle roedd datblygu gweithwyr proffesiynol GIG Cymru fel dinasyddion byd-eang yn un o bedair blaenoriaeth allweddol.”
Comisiynwyd yr adnodd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Oxfam Cymru, ac fe’i lansiwyd ar 4 Tachwedd yng Nghynhadledd Iechyd Cymru ac Affrica 2021.
Mae’r modiwlau i’w cael yn Dysgu@Cymru (Saesneg yn unig)
Gallwch wylio fideo ar y modiwlau dinasyddiaeth fyd-eang ar YouTube (Saesneg yn unig)