Neidio i'r cynnwys

Hyfforddiant Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA)

Mae UGAEIC yn cynnig ystod o wahanol sesiynau hyfforddi i wella’r ddealltwriaeth a’r defnydd o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd.

I gael rhagor o wybodaeth am sesiynau hyfforddi pwrpasol, cysylltwch â [email protected].

Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd Statudol ar gyfer Cyrff Cyhoeddus – Cyflwyniad i Asesu’r Effaith ar Iechyd

Mae’r hyfforddiant hwn yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o Reoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 a fydd yn dod i rym ar 6 Ebrill 2027.

Bydd y sesiynau hyn yn darparu:

  • Trosolwg sylfaenol o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd
  • Trosolwg o’r Rheoliadau a’r hyn y maent yn ei olygu i Gyrff Cyhoeddus
  • Manylion ynghylch sut mae’r rheoliadau’n ymwneud â chamau’r broses o Asesu’r Effaith ar Iechyd
  • Manteision Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd

Bydd y sesiynau hefyd yn cynnwys amser Holi ac Ateb i gynnig cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gall y sesiynau hyn helpu i roi dealltwriaeth sylfaenol o’r rheoliadau y gellir ei datblygu mewn sesiynau hyfforddi pellach.

Cynulleidfa: Cynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus yng Nghymru

Hyd: 1.5 awr

Fformat: Ar-lein

Sut i gofrestru: Anfonwch neges i: [email protected] i gofrestru eich diddordeb.

Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd Statudol ar gyfer Cyrff Cyhoeddus – Sesiwn e-ddysgu yn rhoi cyflwyniad i Asesu’r Effaith ar Iechyd

Bydd y cwrs, sydd wedi’i gynllunio i ategu’r Canllaw HIA ar gyfer Cyrff Cyhoeddus, yn ymdrin â’r canlynol:

  • Trosolwg o Asesu’r Effaith ar Iechyd
  • Cyd-destun Polisi
  • Gofynion rheoleiddio sy’n ymwneud â chamau’r broses HIA
  • Manteision a Chanlyniadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd
  • Darllen pellach/enghreifftiau o astudiaethau achos.

Cynulleidfa: Cynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus yng Nghymru

Hyd: 1 awr

Fformat: E-ddysgu ar-lein

Sut i gofrestru: Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a bydd ar gael ym mis Tachwedd 2026.

Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd Statudol ar gyfer Cyrff Cyhoeddus – Cymhwyso’r Broses o Asesu’r Effaith ar Iechyd

Bydd y sesiwn hon yn rhoi dealltwriaeth o fethodoleg Asesu’r Effaith ar Iechyd ac yn sicrhau bod y rhai sy’n bresennol wedi’u paratoi’n dda ar gyfer Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd.

Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â’r canlynol:

  • Trosolwg o Asesu’r Effaith ar Iechyd
  • Gofynion rheoliadau sy’n ymwneud â’r camau yn y broses o Asesu’r Effaith ar Iechyd
  • Manteision Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd
  • Enghraifft o astudiaeth achos
  • Cyfle i gymhwyso’r dysgu drwy weithgarwch ymarferol (Gweithdy Cyfranogol ar Asesu’r Effaith ar Iechyd)

Cynulleidfa: Cynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus yng Nghymru sy’n newydd i Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a/neu’r rhai sydd â dealltwriaeth sylfaenol o HIA, sy’n dymuno dysgu mwy am AEI a rhoi cynnig ar un cam o’r broses HIA.

Hyd: 2.5 awr

Fformat: Wyneb yn wyneb, neu ar-lein

Sut i gofrestru: Mae’r sesiynau hyn wedi’u trefnu ar gyfer mis Hydref 2026, bydd rhagor o fanylion yn dilyn. Anfonwch neges i: [email protected] i gael rhagor o wybodaeth.

Asesiadau o’r Effaith Iechyd Gwirfoddol ac Arferion Gorau – Rhoi’r broses Asesu’r Effaith ar Iechyd ar waith

Bydd y sesiwn hon yn rhoi dealltwriaeth i ymarferwyr o fethodoleg Asesu’r Effaith ar Iechyd a gwybodaeth am yr adnoddau a’r offer sydd ar gael i gefnogi ei defnyddio yn eu gwaith.

Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â’r canlynol:

  • Trosolwg o Asesu’r Effaith ar Iechyd
  • Y broses Asesu’r Effaith ar Iechyd
  • Manteision Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd
  • Enghraifft o astudiaeth achos
  • Cyfle i gymhwyso’r dysgu drwy weithgaredd ymarferol (Gweithdy Cyfranogol Asesu’r Effaith ar Iechyd)

Cynulleidfa: Y rhai sy’n newydd i Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a/neu’r rhai sydd â dealltwriaeth sylfaenol o HIA, sy’n dymuno dysgu rhagor am arferion gorau ym maes HIA a rhoi cynnig ar un cam o’r broses HIA.

Hyd: 2.5 awr

Fformat: Wyneb yn wyneb, neu ar-lein

Sut i gofrestru: Anfonwch neges i: [email protected] i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sesiynau sydd ar ddod.

Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd Gwirfoddol ac Arferion Gorau – Sesiwn e-ddysgu sy’n rhoi cyflwyniad i’r Broses HIA

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ategu’r Canllaw HIA Gwirfoddol, ac mae’n cynnwys:

  • Asesu’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru
  • Beth yw Asesu’r Effaith ar Iechyd?
  • Iechyd, Llesiant ac Egwyddorion Asesu’r Effaith ar Iechyd
  • Y Broses a’r Offer
  • Rhoi Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd ar Waith yn ymarferol.

Mae tystysgrif cwblhau ar gael i’w lawrlwytho ar ôl gorffen y cwrs.

Cynulleidfa: Y rhai sy’n newydd i gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, y rhai sydd â diddordeb ynddynt neu sydd eisiau integreiddio asesu’r effaith ar iechyd mewn asesiadau o’r effaith eraill ac a hoffai ddysgu rhagor.

Hyd: 1 awr

Fformat: Sesiynau e-ddysgu ar-lein

Sut i gofrestru: Cynhelir y cwrs e-ddysgu ar blatfform Dysgu@Cymru; os nad oes gennych gyfrif Dysgu@Cymru cysylltwch â [email protected] i ofyn am gyfrif a byddwn yn anfon e-bost atoch i roi mynediad i chi at y cwrs.

Os oes gennych chi gyfrif Dysgu@Cymru: Mewngofnodwch i wefan Dysgu@Cymru. Fe welwch y cwrs Cyflwyniad i HIA drwy agor y tab ‘NHS’ a chlicio ar dudalen ‘Public Health Wales WHIASU’. Anfonwch neges i [email protected] a byddwn yn anfon e-bost atoch i roi mynediad i chi at y cwrs.

Sesiynau codi ymwybyddiaeth o Asesu’r Effaith ar Iechyd

Nodau:

  • Mae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o’r broses AEI, y manteision y gall eu cynnig a sut y gellir ei rhoi ar waith yn ymarferol.
  • ‘Cam cyntaf’ gwych ar y daith Asesu’r Effaith ar Iechyd. Mae’r amser Holi ac Ateb yn cynnig cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
  • Rhoi dealltwriaeth sylfaenol o Asesu’r Effaith ar Iechyd i adeiladu arni mewn sesiynau hyfforddi pellach.

Cynulleidfa: Pawb sydd â diddordeb mewn dysgu am Asesu’r Effaith ar Iechyd.

Hyd: 45 munud

Fformat: Wyneb yn wyneb, neu ar-lein

Sut i gofrestru: Anfonwch neges i [email protected] i drefnu sesiwn.

Cwrs e-ddysgu ar sicrhau ansawdd ac adolygu Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd

Mae’r cwrs yn cynnwys adrannau ar y canlynol:

  • Diffinio ansawdd ac ystyried pam mae Sicrhau Ansawdd (QA) yn bwysig yng nghyd-destun Asesu’r Effaith ar Iechyd
  • Yr hyn sy’n destun sicrhau ansawdd/adolygu
  • Y broses sicrhau ansawdd a’r ystyriaethau – cyflwyno’r fframwaith sicrhau ansawdd
  • Ymarfer ymarferol – cynnal adolygiad byr o Asesiad o’r Effaith ar Iechyd

Mae tystysgrif cwblhau ar gael i’w lawrlwytho ar ôl gorffen y cwrs.

Cynulleidfa: Y rhai sy’n cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, sy’n eu hadolygu neu’n eu defnyddio fel tystiolaeth yn eu gwaith ac a hoffai gael offeryn arfarnu beirniadol i asesu ansawdd.

Hyd: 1 awr

Sut i gofrestru: Cynhelir y cwrs e-ddysgu ar blatfform Dysgu@Cymru; os nad oes gennych gyfrif Dysgu@Cymru cysylltwch â [email protected] i ofyn am gyfrif a byddwn yn anfon e-bost atoch i roi mynediad i chi at y cwrs.

Os oes gennych chi gyfrif Dysgu@Cymru: Mewngofnodwch i wefan Dysgu@Cymru. Fe welwch y cwrs Cyflwyniad i HIA drwy agor y tab ‘NHS’ a chlicio ar dudalen ‘Public Health Wales WHIASU’. Anfonwch neges i [email protected] a byddwn yn anfon e-bost atoch i roi mynediad i chi at y cwrs.

Yn ôl i dudalen pwnc Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA)