Hyfforddiant ac addysg gymunedol
Ydych chi’n weithiwr neu hyrwyddwr iechyd cymunedol?
Os felly, archebwch le ar ein sesiwn ymwybyddiaeth sgrinio ar-lein rhad ac am ddim.
Byddwch yn dysgu am raglenni sgrinio’r GIG a gynigir yng Nghymru, a all eich helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned.
Mae Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu rhaglenni sgrinio cenedlaethol yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol raglenni sgrinio ewch i dudlaen sgrinio.
A yw’r sesiwn hon yn addas i mi?
Gwyddom ei bod hi weithiau’n anodd cael yr wybodaeth gywir am sgrinio’r GIG yng Nghymru. Mae pobl sy’n cefnogi eraill yn y gymuned yn fedrus iawn ac mewn sefyllfa dda i rannu gwybodaeth iechyd a all rymuso unigolion i wneud penderfyniadau sgrinio gwybodus.
Mae’r sesiwn hon ar eich cyfer chi os ydych:
- Â rôl weithredol wrth hybu iechyd yn eich cymuned neu weithle ac rydych chi eisiau codi ymwybyddiaeth o raglenni sgrinio GIG Cymru.
- Yn gallu cael sgyrsiau agored a rhannu gwybodaeth sgrinio mewn ffyrdd sydd fwyaf addas ar gyfer y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw.
- Yn gallu cyfeirio pobl at adnoddau sgrinio gan gynnwys fformatau hygyrch.
Hoffech chi wybod rhagor?
Mae’r sesiwn ymwybyddiaeth sgrinio wedi’i datblygu gan y Tîm Ymgysylltu Sgrinio. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â rhaglenni sgrinio GIG Cymru yn yr Is-adran Sgrinio.
Yn ogystal â darparu hyfforddiant, rydym yn gweithio gyda grwpiau a chymunedau i godi ymwybyddiaeth am raglenni sgrinio’r GIG, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae’r niferoedd sy’n manteisio arnynt yn isel.
Mae cymryd rhan mewn sgrinio pan gânt eu gwahodd yn un o’r pethau y gall pobl ei wneud i ofalu am eu hiechyd. Gall dod o hyd i gyflwr neu afiechyd yn gynnar roi’r siawns orau o driniaeth lwyddiannus i bobl.
Beth fyddaf yn ei ennill o fynychu?
Ar ôl mynychu’r sesiwn, byddwch yn gallu:
- Sôn am raglenni sgrinio’r GIG a gynigir yng Nghymru.
- Gwybod pwy sy’n cael eu gwahodd i sgrinio, sut y byddant yn cael eu gwahodd a phryd.
- Deall manteision a risgiau sgrinio a phwysigrwydd gwneud dewis gwybodus.
- Cydnabod sut y gall anghydraddoldebau iechyd a brofir gan y bobl yr ydych yn eu cefnogi effeithio arnynt pan fyddant yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio.
- Cyrchu a rhannu gwybodaeth gyfredol am sgrinio mewn fformatau gwahanol, er enghraifft, hawdd ei ddarllen.
- Hyrwyddo sgrinio yn eich cymuned gyda phosteri, ffeithluniau, fideos ac adnoddau eraill sydd ar gael.
Beth mae pobl eraill wedi’i ddweud am y sesiynau
- Diolch am y sesiynau – rwy’n teimlo’n fwy gwybodus i rannu manteision sgrinio.
- Roedd y sesiynau’n addysgiadol iawn ac yn cynnwys gwybodaeth hawdd ei deall
- Sesiwn dda a defnyddiol iawn
- Sesiwn dda iawn, cyflwynydd gwych, sesiwn loywi dda iawn llawn gwybodaeth. Byddwn yn argymell yr hyfforddiant i bob gweithiwr iechyd proffesiynol
- Sesiwn addysgiadol iawn, trosolwg gwych o’r mathau o sgrinio sydd ar gael a sut y gallwn hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth yn ein rolau ein hunain. Diolch.
- Roedd yn sesiwn dda gan ddarparu digon o wybodaeth i’w throsglwyddo i gleifion a chleientiaid
- Roedd y sesiwn yn llawn gwybodaeth ac yn cynnwys y lefel gywir o fanylion a gwybodaeth ar gyfer yr amser penodedig. Rwy’n gwerthfawrogi’r arweiniad cychwynnol ar sut i ddefnyddio Teams (gan fy mod yn newydd i hyn) ac roedd rhannau rhyngweithiol y sesiwn yn annog ymgysylltu.
Archebwch ei lle
Byddwn yn cyflwyno’r sesiwn ymwybyddiaeth sgrinio 3 awr ar Microsoft Weminar neu Teams. Cyflwynir y sesiynau yn Gymraeg a Saesneg.
I archebu eich lle, dewiswch eich hoff ddyddiad ac iaith isod a chliciwch ar y ddolen. Bydd hyn yn mynd â chi at ffurflen gofrestru. Dilynwch y cyfarwyddiadau i gwblhau’r ffurflen gofrestru.
Ar ôl cyflwyno’ch ffurflen gofrestru wedi’i chwblhau byddwch yn cael e-bost gyda manylion ar sut i ymuno â’r sesiwn.
Byddwch yn cael e-bost atgoffa ychydig ddyddiau cyn y sesiwn. Cofiwch nodi’r e-bost hwn ar gyfer ymuno ar y diwrnod.
| Dyddiad | Amser | Iaith | Ffurflen archebu |
| Dydd Mawrth 25/03/2025 | 10:00 – 13:00 | Saesneg | Ffurflen archebu |
| Dydd Gwener 09/05/2025 | 09:30 – 12:30 | Saesneg | Ffurflen archebu |
| Dydd Mawrth 03/06/2025 | 09:30 – 12:30 | Saesneg | Ffurflen archebu |
| Dydd Mercher 25/06/2025 | 13:00 – 16:00 | Saesneg | Ffurflen archebu |
| Dydd Gwener 11/07/2025 | 09:30 – 12:30 | Saesneg | Ffurflen archebu |
| Dydd Mercher 17/09/2025 | 13:00 – 16:00 | Saesneg | Ffurflen archebu |
| Dydd Mawrth 07/10/2025 | 09:30 – 12:30 | Saesneg | Ffurflen archebu |
| Dydd Mawrth 18/11/2025 | 09:30 – 12:30 | Saesneg | Ffurflen archebu |
| Dydd Gwener 05/12/2025 | 09:30 – 12:30 | Saesneg | Ffurflen archebu |
| Dydd Mawrth 27/01/2026 | 09:30 -12:30 | Saesneg | Ffurflen archebu |
| Dydd Mercher 11/02.2026 | 09:30 – 12:30 | Saesneg | Ffurflen archebu |
| Dydd Mawrth 24/02/2026 | 09:30 – 12:30 | Cymraeg | Ffurflen archebu |
| Dydd Gwener 06/03/2026 | 09:30 – 12:30 | Saesneg | Ffurflen archebu |
Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol, mae gwybodaeth am sut i ganslo eich lle yn yr e-bost gyda’r cyfarwyddiadau ymuno.
Noder: Mae angen isafswm i allu cynnal y cwrs. Os bydd angen canslo’r cwrs, byddwn yn rhoi gwybod i chi er mwyn i chi allu cadw lle ar ddyddiadau yn y dyfodol.