Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth am brawf positif ffliw

Os ydych wedi cael prawf positif ar gyfer ffliw, argymhellir, fel bob amser, y dylech aros gartref nes eich bod yn rhydd o symptomau am 24 awr, ac eithrio peswch a all barhau am wythnos neu ddwy.

Tra byddwch yn sâl, dylech:

  • Yfed llawer o hylifau
  • Peswch a thisian i mewn i hancesi papur, y dylid wedyn eu taflu i fin neu eu fflysio i ffwrdd
  • Golchi eich dwylo’n rheolaidd, yn enwedig cyn cyffwrdd â gwrthrychau i ddiogelu aelodau eraill o’ch aelwyd
  • Osgoi cyswllt corfforol agos ag aelodau eraill o’r aelwyd pan fyddwch yn symptomatig

Pan fydd eich symptomau wedi’u datrys gallwch ailddechrau eich gweithgareddau arferol.

Unigolion sy’n 65 oed neu drosodd, neu sydd â chyflyrau iechyd cronig, sy’n profi’n bositif am ffliw (A neu B)

Os ydych mewn grŵp risg ffliw fel:

  • Clefyd anadlol cronig fel asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD),
  • Clefyd cronig y galon,
  • Clefyd arennol cronig,
  • Clefyd cronig yn yr afu/iau,
  • Cyflyrau niwrolegol cronig
  • Diabetig
  • Imiwnoataliedig (esiamplau)

Efallai y bydd triniaeth ar gael, ond mae’n fwyaf effeithiol os caiff ei chychwyn o fewn 48 awr i ddechrau’r symptomau. Mae’n feddyginiaeth bresgripsiwn, felly ni allwch ei phrynu dros y cownter. Gellir gofyn am gyngor ynghylch triniaeth gan eich meddyg teulu neu fferyllydd.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am driniaeth ffliw ar wefan NICE.

Unigolion sy’n asymptomatig (heb unrhyw symptomau o gwbl)

Os nad oes gennych symptomau, mae’n annhebygol eich bod yn heintus (yn trosglwyddo’r ffliw i eraill). Fodd bynnag, os oes gennych symptomau ysgafn iawn hyd yn oed, byddem yn gofyn i chi aros gartref am 48 awr, neu hyd nes eich bod yn rhydd o symptomau am 24 awr, (pa un bynnag sy’n hirach).

Cyswllt aelwyd

Nid oes angen i’ch cyswllt aelwyd ynysu a gallant barhau i gymryd rhan yn eu gweithgareddau arferol cyn belled â’u bod yn parhau i fod yn rhydd o symptomau. Os byddant yn datblygu symptomau bydd angen iddynt drefnu cael prawf COVID, a gall hyn gynnwys prawf ar gyfer ffliw neu beidio. Yn anffodus, ni allwch ofyn yn benodol am brawf ar gyfer ffliw.

Cyswllt aelwyd sydd â chyflyrau iechyd cronig

Os oes gennych aelod o’r aelwyd sydd yn y grwpiau risg uchel a amlinellwyd uchod, ac nad ydynt wedi cael eu brechu rhag ffliw eleni, yna dylid ceisio cyngor gan naill ai eu hymgynghorydd meddygol neu eu meddyg teulu, ynghylch y defnydd o feddyginiaeth broffylactig ar gyfer Ffliw A a B. Mae triniaeth broffylactig yn gwrs o dabledi a allai leihau’r siawns o ddal ffliw wrth fyw gydag unigolyn sydd â Ffliw A neu B. Os nodir hynny, dylid dechrau’r feddyginiaeth hon o fewn 48 awr.

Mae brechu rhag Ffliw A neu B yn cael ei annog yn gryf yn y grwpiau risg uchel hyn.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am bwy all gael budd o broffylacsis ffliw ar wefan NICE.

Os ydych wedi cael brechiad ar gyfer ffliw yn ddiweddar.

Mae brechu rhag ffliw yn cael ei gynnig bob blwyddyn i nifer o unigolion. Mae brechiadau ar gyfer ffliw yn dechrau ym mis Hydref bob blwyddyn. Mae dau fath gwahanol o frechlyn. Mae un yn bigiad yn y fraich a rhoddir y llall drwy’r trwyn. Mae’r brechiad trwyn yn cael ei roi i blant oedran ysgol yn bennaf.

Gall brechiad a roddir drwy’r trwyn gael ei ganfod gan y profion PCR, gan y gall y prawf a ddefnyddir ganfod y brechlyn am hyd at 3 wythnos ar ôl iddo gael ei roi. Os ydych chi, neu eich plentyn wedi cael y brechlyn trwynol yn y tair wythnos cyn cael y prawf, ac yn asymptomatig, mae’n annhebygol iawn bod gennych y ffliw neu eich bod yn heintus. Os oes ganddynt symptomau ysgafn hyd yn oed, byddem fodd bynnag yn argymell eu bod yn aros gartref am 48 awr, neu hyd nes eu bod yn rhydd o symptomau am 24 awr, (pa un bynnag sydd hirach) ar ôl dyddiad y prawf.

NI FYDD brechu a roddir drwy bigiad yn effeithio ar ganlyniadau’r profion hyn.