Gwerth cymdeithasol iechyd y cyhoedd
Yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, mae mwy a mwy yn cydnabod yr angen am fuddsoddiad cynaliadwy sy’n targedu llesiant pobl, tegwch iechyd, ac atal. Mae fframweithiau newydd wedi arwain at ailstrwythuro systemau yn gyfannol, ac at roi blaenoriaeth i iechyd a llesiant mewn prosesau gwneud penderfyniadau. Mae’r naratif esblygol hwn yn cyd-fynd ag ymrwymiadau byd-eang fel Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig (Saesneg yn unig) a deddfwriaeth genedlaethol, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Hefyd, mae mwy a mwy o ymwybyddiaeth o’r angen i ehangu’r dulliau ‘gwerth am arian’ traddodiadol. Mae sefydliadau’n edrych ar ffyrdd o nodi, o fesur ac o ymgorffori effeithiau a gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach yn eu gweithrediadau, eu strategaethau a’u cyllidebau.
Trwy integreiddio canlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o fewn y prosesau gwneud penderfyniadau a blaenoriaethu cyllid yng Nghymru, gallwn wella iechyd a llesiant yn ogystal â helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Beth yw gwerth cymdeithasol?
Yn aml, caiff gwerth cymdeithasol ei ddisgrifio fel “gwerth meintiol y pwysigrwydd cymharol y mae pobl yn ei roi ar y newidiadau yn eu bywydau”. Er nad oes diffiniad penodol ohono, mae gwerth cymdeithasol yn cwmpasu’r gwerth ehangach y mae sefydliadau yn ei greu ar gyfer cymdeithas, cymunedau, a’r blaned o ddydd i ddydd – y tu hwnt i enillion ariannol ac economaidd. Mae’n cynnwys effaith gadarnhaol y gweithgareddau hyn ar unigolion, ar gymunedau, ar yr amgylchedd ac ar lesiant cymdeithasol cyffredinol.
Yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd, mae defnyddio methodolegau gwerth cymdeithasol i edrych ar werth gwasanaeth, ymyrraeth neu raglen yn cynnig ffordd systematig a chynhwysfawr o fesur, asesu a gwerthuso canlyniadau ac effeithiau ‘gwirioneddol’. Mae dulliau gwerth cymdeithasol yn cael eu harwain gan randdeiliaid, ac maen nhw’n mesur y canlyniadau ar gyfer, a’r effeithiau ar, yr holl randdeiliaid yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Mae tystiolaeth gwerth cymdeithasol yn cynnig llawer o fanteision gan gynnwys hysbysu a chefnogi:
- Dyrannu adnoddau i’r man lle fyddan nhw’n cael yr effaith fwyaf (gwerth) ar bobl, grwpiau penodol, cymunedau, cymdeithas, yr economi a’r amgylchedd. Weithiau gall dadansoddiad gwerth cymdeithasol nodi ffynonellau gwerth newydd nad ydych wedi’u hystyried o’r blaen.
- Buddsoddi mewn ymyriadau gwerth uchel sylfaenol (atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar) er mwyn amddiffyn a gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Gweithio ar werth cymdeithasol
Mae’r Tîm Lles Economeg a Gwerth wedi datblygu cyfres o offer a thystiolaeth i gefnogi sefydliadau i ddeall ac i gasglu gwybodaeth am werth cymdeithasol ehangach eu gweithgareddau ac i ehangu’r sylfaen wybodaeth ynghylch dulliau sy’n canolbwyntio ar y gymdeithas.
Rydym wedi datblygu a sefydlu’r sylfaen dystiolaeth gyfredol ar werth cymdeithasol iechyd y cyhoedd, ac wedi cyhoeddi papurau academaidd a briffiau tystiolaeth cyfatebol ar y pynciau canlynol: cwrs bywyd, iechyd meddwl a gweithgarwch corfforol a maeth.
Un ffordd o fesur gwerth cymdeithasol gwasanaethau yw trwy ddefnyddio ‘Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi’ (SROI). Dyma fethodoleg mesur sy’n seiliedig ar ganlyniadau, ac mae’n cofnodi ac yn meintioli’r gwerth cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd a grëir. Mae’r dull yn ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid er mwyn casglu gwybodaeth a phrofiadau sy’n deillio o’r gwasanaeth ac yn cyfieithu’r wybodaeth ansoddol werthfawr hon yn werthoedd ariannol.
Mae’r E-ganllaw Gwerth Cymdeithasol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus yn adnodd cam wrth gam sy’n egluro sut i ddefnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar gymdeithas – gan gynnwys Enillion Cymdeithasol o Fuddsoddi – wrth wneud penderfyniadau ac wrth flaenoriaethu cyllid. Ei nod yw cefnogi rhanddeiliaid – gan gynnwys ymarferwyr, ymchwilwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau – i ddeall ac i gasglu gwybodaeth am werth cymdeithasol yr ymyriadau a’r gwasanaethau y maent yn eu dylunio, a’u darparu.
Dosbarth meistr ar werth cymdeithasol
Ym mis Ionawr 2024, cyflwynodd y tîm Lles Economeg a Gwerth ddosbarth meistr ar-lein ar y cysyniad o werth cymdeithasol a’r defnydd ohono, gyda’r nod o wella dealltwriaeth ac asesu gwerth cyfannol ehangach iechyd y cyhoedd. Amcanion penodol y dosbarth meistr hwn oedd:
- Hyrwyddo pwysigrwydd casglu data a mesur gwerth ehangach iechyd y cyhoedd.
- Gwella dealltwriaeth o pam mae gwerth a gwerth cymdeithasol yn bwysig drwy gyflwyno’r cyd-destun strategol a pholisi yng Nghymru a thu hwnt.
- Dangos dulliau ymarferol o gasglu data am y gwerth cymdeithasol sy’n cael ei greu gan ymyriadau a gwasanaethau iechyd cyhoeddus.
Gwyliwch y dosbarth meistr ar-lein ar fesur gwerth iechyd y cyhoedd (Saesneg yn unig).