Neidio i'r cynnwys

Gweithio gyda’n gilydd ar gyfer Cymru Iachach: Pum blaenoriaeth polisi

Archwilio ein pum maes blaenoriaeth iechyd y cyhoedd a sut y gallant helpu i greu Cymru iachach a thecach i bawb.

Pum blaenoriaeth polisi iechyd y cyhoedd i Gymru 

Bywydau hirach, iachach a Chymru decach a mwy llewyrchus.

Mae pawb yng Nghymru yn haeddu’r cyfle i fyw bywyd hir ac iach. 

Drwy roi atal wrth wraidd ein dull gweithredu, gallwn adeiladu Cymru iachach, decach a mwy llewyrchus ar gyfer y dyfodol a chefnogi system iechyd a gofal gref a chynaliadwy.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi pum maes lle gall gweithredu wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Y Dechrau Gorau Mewn Bywyd

Mae cael y dechrau gorau mewn bywyd yn meithrin iechyd a llesiant gydol oes.

Mae’r sylfaen ar gyfer bywyd iach yn cael ei meithrin yn ein blynyddoedd cynnar. 

Camau allweddol:

  • Ystyried llesiant plant ym mhob penderfyniad polisi.
  • Cyflawni’r Fframwaith Gweithredu ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar drwy arweinyddiaeth drawslywodraethol. 
  • Sicrhau data iechyd plant cynhwysfawr i lywio polisi, targedu cymorth, ac olrhain canlyniadau ar gyfer babanod a phlant ifanc.
  • Sicrhau y gall pob teulu gael mynediad hawdd at gymorth Ymwelwyr Iechyd, a darparu Dechrau’n Deg yn seiliedig ar angen, nid cod post.
  • Ymgorffori dulliau sy’n ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod – o’r cyfnod cyn beichiogrwydd ymlaen.

Llesiant Ariannol

Mae llesiant ariannol yn arwain at iechyd gwell ac economi lewyrchus.

Mae gwaith diogel sydd wedi’i wobrwyo’n deg ac sy’n talu cyflog byw yn dda i’n hiechyd.

Camau allweddol:

  • Sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn darparu swyddi diogel a sicr sy’n talu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol. 
  • Monitro cynnydd ar gydraddoldeb yn y gweithle, gan gynnwys bylchau cyflog rhwng y rhywiau, ethnigrwydd ac anabledd. 
  • Cefnogi pobl sydd â heriau iechyd i ddechrau gweithio, aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith. 
  • Cysylltu gwasanaethau cyflogaeth â chymorth iechyd yn enwedig i’r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor neu iechyd meddwl fel bod pobl yn cael cymorth pan fydd ei angen arnynt.

Mannau Iach Bob Dydd

Mae bywydau iach yn dechrau yn ein lleoedd bob dydd.

Pan fydd y lleoedd lle rydym yn byw, bwyta, siopa a chwarae yn iach yn ddiofyn, mae’n haws i bob un ohonom fyw bywydau iachach a hapusach.

Camau allweddol:

  • Cynyddu argaeledd cartrefi iach a fforddiadwy, yn enwedig tai cymdeithasol. 
  • Codi safonau tai rhent preifat. 
  • Lleihau amlygiad ac argaeledd tybaco a fêps drwy drwyddedu manwerthwyr, ac ymestyn parthau di-fwg. 
  • Gwneud bwyd a diod iachach yn opsiynau fforddiadwy a gweladwy mewn siopau a bwytai, a chyfyngu ar hyrwyddiadau pris ar gyfer bwyd a diodydd llai iach.

Gofal wedi’i Deilwra i Anghenion Lleol

Mae gofal sydd wedi’i deilwra i anghenion lleol yn meithrin iechyd a gwydnwch.

Mae mynd i’r afael ag achosion sylfaenol iechyd gwael – nid y canlyniadau yn unig – yn sicrhau y gall pawb yng Nghymru ffynnu a mwynhau gwell iechyd a llesiant a bod ein system iechyd yn wydn.

Camau allweddol:

  • Cynyddu cyfran flynyddol cyllideb y GIG a werir ar atal a gofal sylfaenol a chymunedol yn lle triniaeth ysbyty. 
  • Cysylltu iechyd a gofal cymunedol â gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau gwirfoddol i gefnogi’r person cyfan. 
  • Buddsoddi mewn cyfleusterau iechyd cymunedol, staff medrus, data ac offer digidol sy’n cysylltu â chofnodion iechyd i gefnogi gofal cynnar ac ataliol.

Planed Iach, Pobl Iach

Mae planed iach yn amddiffyn ein pobl yn awr ac yn y dyfodol

Mae iechyd pobl a’r blaned yn gysylltiedig â’i gilydd. Mae llawer o gamau gweithredu sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd hefyd yn cefnogi bywydau hirach ac iachach.

Camau allweddol:

  • Buddsoddi mewn llwybrau cerdded a beicio diogel, llwybrau troed, a chanol trefi di-geir. 
  • Gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch ac yn fforddiadwy, gan gynnwys teithio ar fysiau am ddim i bobl ifanc.
  • Diogelu cymunedau rhag niwed i iechyd oherwydd newid hinsawdd drwy fynd i’r afael â llifogydd, gwella diogelwch bwyd, sicrhau digon o ddŵr o ansawdd uchel ar gyfer cyflenwad preifat, ac ehangu mynediad at fannau gwyrdd a gorchudd coed.

Pam mae atal yn bwysig

Mae dull atal yn gyntaf yn bwysicach yn awr yn fwy nag erioed. 

Gall pob £1 a fuddsoddir mewn atal greu elw o £14 i gymdeithas drwy greu pobl iachach, economi gryfach a GIG cynaliadwy. 

Mae gan Gymru fwlch o 20 mlynedd mewn disgwyliad oes iach i fenywod rhwng yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig. Mae dros dair gwaith yn fwy o farwolaethau y gellir eu hosgoi i ddynion a menywod.

Heb newid, bydd anghydraddoldebau iechyd yn parhau i gostio £322 miliwn i Gymru mewn costau ysbytai’r GIG bob blwyddyn.

Mae Cymru yn wynebu heriau iechyd sylweddol:

  • Mae 1 o bob 4 o blant yn tyfu i fyny mewn tlodi
  • Mae 7.2 miliwn o ddiwrnodau yn cael eu colli oherwydd absenoldeb salwch bob blwyddyn 
  • Mae bron i 1 o bob 3 cartrefi yn peri risgiau iechyd
  • Disgwylir 50,000 yn fwy o achosion o ddiabetes mewn 10 mlynedd 
  • Bron i £1 biliwn y flwyddyn – costau iechyd a chynhyrchiant llygredd aer
Gwybodaeth:

Mae’r bylchau hyn yn annheg a gellir eu hosgoi.

Am Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ni yw sefydliad iechyd y cyhoedd cenedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach ac iachach. 

Gyda’n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rydym yn arwain ymdrechion atal hirdymor ac iechyd y boblogaeth, gan weithio gyda phartneriaid ledled y wlad i helpu i greu cymunedau iach a llewyrchus.

Ein nod yw Cymru lle gall pawb fyw bywydau hirach ac iachach gyda mynediad teg a chyfartal at y pethau sy’n cefnogi iechyd a llesiant da.

Drwy ddod â thystiolaeth, partneriaeth ac arloesedd at ei gilydd, rydym yn helpu i greu’r amodau i bobl a chymunedau ledled Cymru ffynnu.

Rhagor o wybodaeth