Gordyfiant Algâ
Mae dŵr croyw a dŵr y môr yn cynnwys algâu. O dan amodau ffafriol, fel tywydd cynnes, heulog, gallant dyfu mewn niferoedd enfawr a chreu gordyfiant algâu.
Gall gordyfiant liwio’r dŵr neu greu sgum ar wyneb y dŵr sydd ar brydiau’n ddrewllyd.
Er nad yw’r rhan fwyaf o ordyfiant yn niweidiol, gall rhai gynnwys tocsinau a all fod yn niweidiol i iechyd.
Gan nad oes modd dweud â’r llygad a yw gordyfiant algâu yn niweidiol, mae’n well osgoi nofio pan fydd gordyfiant algâu yn bresennol.
Edrychwch am arwyddion ar hyd ymyl y dŵr i weld a ddylech ddefnyddio’r dŵr ai peidio.
Pryd y gallech chi fod mewn perygl
Gallech ddod i gysylltiad â gordyfiant wrth fynd i ddŵr llyn, i gorff arall o ddŵr neu i’r môr. Gallai hyn gynnwys:
- Bod mewn dŵr neu gael eich sblasio gan ddŵr sydd wedi ei effeithio
- Llyncu dŵr neu anadlu diferion dŵr wrth hwylio, rhwyfo neu bysgota
- Os yw’r dŵr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dŵr yfed
- Cyffwrdd ag anifeiliaid anwes, cŵn fel arfer, sydd wedi trochi mewn dŵr o’r fath
Beth yw’r perygl i iechyd
Gall tocsinau yn y gordyfiant achosi
- Brech ar y croen,
- Cyfog,
- Chwydu,
- Poenau stumog,
- Twymyn,
- Cur pen,
- Gall cyffwrdd lefelau uchel o algâu gwenwynig achosi salwch mwy difrifol gan gynnwys difrod i’r afu.
Lleihau’r perygl i iechyd yn nhymor gordyfiant algâu
Dydy pob gordyfiant algâu ddim yn berygl i iechyd, ond does dim modd gwybod trwy edrych ar y gordyfiant. Mae’n well ystyried pob gordyfiant fel un niweidiol.
- Dylech osgoi unrhyw gysylltiad â’r dŵr.
- Peidiwch â nofio na chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill lle mae risg uchel o syrthio i’r dŵr.
- Peidiwch â gadael i anifeiliaid neu anifeiliaid anwes fynd i’r dŵr · Mae llai o berygl wrth bysgota a rhwyfo, ond mae’n well osgoi’r perygl.
- Dilynwch y cyngor a welwch ar bob arwydd.
- Ar ôl bod mewn cysylltiad â gordyfiant, mae angen gofalu eich bod yn glanhau’r corff â dŵr glân croyw, cyn gynted â phosibl.
- Yn gyffredinol, ar ôl dod i gysylltiad â dŵr y môr, dŵr afon neu lyn neu unrhyw ddŵr agored arall, dylech bob amser ymolchi’ch dwylo cyn bwyta.
- Gofynnwch am gyngor meddygol os ydych chi’n teimlo’n sâl ar ôl dod i gysylltiad â dŵr sydd wedi ei effeithio.
Algâu gwyrddlas
Mae algâu gwyrddlas (cyanobacteria) fel arfer yn tyfu mewn dŵr croyw (e.e. llynnoedd, pyllau a nentydd).
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Dŵr Cymru.
Algâu’r Môr
Mae algâu’r môr yn cynnwys gwymon a phlanhigion bach o’r enw ffytoplancton. Weithiau gall hwn achosi gordyfiant sy’n gallu cynnwys tocsinau. Bydd y gordyfiant algâu niweidiol hyn (HABs) yn achosi’r perygl mwyaf i iechyd pan fydd y tocsinau yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd, yn enwedig pysgod cregyn. I atal hyn, cynhelir rhaglen reolaidd i fonitro gordyfiant algâu’r môr yn y DU.
Mae gordyfiant algâu’r môr yn llai amlwg na gordyfiant algâu gwyrddlas mewn dŵr croyw ond os gwelwch chi ordyfiant, dylech osgoi ei gyffwrdd a dilyn y cyngor uchod.
Rhagor o wybodaeth
I roi gwybod am ordyfiant, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru neu ffoniwch eu llinell gymorth ar gyfer digwyddiad amgylcheddol sef, 0300 065 3000 (24 awr).