Neidio i'r cynnwys

Ecsploetio plant yn rhywiol

Mae Ecsploetio Plant yn Rhywiol (CSE) yn fath o gam-drin rhywiol sy’n digwydd ym mhob math o leoliad ledled Cymru. Mae gan weithwyr iechyd proffesiynol gyfrifoldeb i adnabod plant a phobl ifanc a allai fod mewn perygl o gael eu hecsbloetio’n rhywiol ac i’w cyfeirio at gymorth. Maen nhw’n gwneud gwaith allweddol wrth gefnogi plant sy’n agored i niwed. O ystyried canlyniadau cam-fanteisio rywiol ar iechyd corfforol a meddyliol rhai o’r plant a’r bobl ifanc sy’n ei ddioddef, mae’n bryder iechyd cyhoeddus mawr ac mae angen am ddull systematig o atal ac ymyrryd ledled GIG Cymru.
 
Mae canllawiau amlasiantaethol yn disgrifio cyfrifoldebau gweithwyr iechyd proffesiynol ac mae’r strategaeth atal ecsploetio plant yn rhywiol ar gyfer y GIG yng Nghymru 2016–19 wedi’i chyhoeddi i ddiffinio cyfrifoldebau sefydliadau iechyd ymhellach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau i sefydliadau ar sut i amddiffyn plant sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio’n rhywiol. Mae’r canllawiau wedi’u cyhoeddi o dan adran 28 o Ddeddf Plant 2004 ac adran 139 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.