Neidio i'r cynnwys

Diogelu iechyd mewn hinsawdd sy’n newid

Mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar iechyd a llesiant yng Nghymru mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys:

  • Salwch sy’n gysylltiedig â gwres (dadhydradu, trawiad gwres) a mwy o farwolaethau oherwydd trawiadau ar y galon, strôc neu glefyd yr ysgyfaint oherwydd tymheredd uchel.
  • Llifogydd a digwyddiadau tywydd eithafol sy’n effeithio ar lesiant corfforol a meddyliol.
  • Newidiadau ym mhatrymau clefydau heintus.

Bydd newid hinsawdd yn cael effaith anuniongyrchol ar y blociau adeiladu sy’n cynnal iechyd a llesiant da, a hynny trwy:

  • Godi costau anghenion sylfaenol, e.e. bwyd a gwresogi,
  • Niweidio seilwaith a mynediad at wasanaethau gofal iechyd, a
  • Effeithio ar argaeledd adnoddau allweddol, e.e. dŵr a bwyd.

Bydd rhai pobl a chymunedau mewn mwy o berygl, gan gynnwys plant a phobl ifanc, pobl hŷn, pobl sydd eisoes â chyflyrau iechyd, a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwres ymhlith pobl dros 65 oed wedi cynyddu o 70% yn fyd-eang (WHO 2023), a disgwylir i Gymru weld y cyfraddau gwaethaf o ran marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwres yn y blynyddoedd i ddod (UKHSA 2024). Rydym yn rhagweld y bydd llifogydd, erydiad arfordirol a chynnydd yn lefel y môr i gyd yn cynyddu gan arwain at effeithiau pellach ar iechyd a llesiant.

Bydd newid hinsawdd hefyd yn effeithio ar iechyd a llesiant meddyliol. Mae rhai pobl yn pryderu neu’n profi straen oherwydd ein hinsawdd newidiol, a gall y rhai sydd wedi byw trwy ddigwyddiad tywydd eithafol, megis llifogydd, gael problemau iechyd meddwl sy’n parhau am beth amser.

Ymateb i effeithiau iechyd

Rydym yn ymdrechu i ddeall sut effaith gaiff hyn ar y gwasanaethau iechyd cyhoeddus rydym yn eu darparu, yn ogystal â’r effeithiau ar boblogaeth Cymru, gan sicrhau bod gennym gynlluniau ar waith i barhau â’n gwaith wrth i’r hinsawdd newid. Mae gennym nifer o dimau ac offer i’n helpu i wneud hyn gan gynnwys –

  • Tîm Iechyd y Cyhoedd Amgylcheddol sydd yn darparu arweiniad a chyngor ar baratoi ac ymateb i beryglon amgylcheddol, gan gynnwys llifogydd a thywydd poeth, er mwyn lleihau amlygiad a risgiau i’n hiechyd.
  • Mae asesiadau o’r effaith ar iechyd (HIA) yn ddull systematig ond hyblyg sy’n ystyried effeithiau ehangach polisïau neu fentrau lleol a chenedlaethol a sut y gallan nhw, yn eu tro, effeithio ar iechyd pobl. Gellir defnyddio’r wybodaeth sy’n cael ei gasglu i wneud y gorau o gyfleoedd ar gyfer iechyd ac i leihau unrhyw risgiau. Mae hefyd yn cynnig ffordd o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
  • Mae Newid Hinsawdd yng Nghymru: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn cefnogi gweithredu ar addasu i’r hinsawdd a gwytnwch. Mae’n gwneud hyn trwy ddarparu tystiolaeth ar effeithiau ehangach newid hinsawdd ar iechyd a’r hyn y mae’n ei olygu i fywydau pobl yn y lleoedd y maent yn byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn chwarae.

Monitro’r effeithiau ar iechyd

Mae’n bwysig bod ein hymdrechion i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd y cyhoedd yn canolbwyntio lle mae’r angen mwyaf. Dyna pam rydym yn cynnal gwaith ymchwil i ddeall sut effaith y mae hinsawdd newidiol yn ei chael ar ein hiechyd corfforol a meddyliol, nawr ac yn y dyfodol.

Rydym yn gwybod y gall newid hinsawdd effeithio ar gyflyrau megis clefyd y galon a chanser, lledaeniad clefydau heintus a’n hiechyd a’n llesiant meddyliol. Bydd hyn yn rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar y GIG. Rydym yn adeiladu systemau i olrhain effeithiau tywydd garw ar iechyd ein poblogaeth, gan ddechrau gyda morbidrwydd a marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwres ac oerfel.

Drwy ddeall a monitro effeithiau newid yn yr hinsawdd ar iechyd, gallwn helpu i sicrhau bod ein hymdrech genedlaethol i fynd i’r afael â’i effeithiau o fudd i’n hiechyd ac yn cefnogi datblygiad GIG gwydn a chynaliadwy yng Nghymru.