Data cenedlaethol a rhyngwladol
Setiau data cenedlaethol
Mae’r adran ganlynol yn cynnwys setiau data ac offer rhyngweithiol sy’n meintioli anghydraddoldebau/annhegwch iechyd a’u penderfynyddion yng Nghymru.
-
Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cynhyrchu ystod eang o ystadegau economaidd, cymdeithasol a phoblogaeth, ac yn cyhoeddi dros 600 o ddatganiadau’r flwyddyn. Mae’r ONS hefyd yn cynnal y Cyfrifiad sy’n digwydd unwaith bob 10 mlynedd – mae data’r Cyfrifiad ar gael drwy NOMIS.
-
Data Cymru
Gyda phwyslais ar lywodraeth leol a darparu gwasanaethau cyhoeddus, mae Data Cymru yn cadw data sy’n ymwneud â: phobl, cymunedau a chydraddoldeb; plant, pobl ifanc ac addysg; cyflogaeth a busnes; iechyd a gofal cymdeithasol; amgylchedd a chynaliadwyedd; Cyfrifiad 2021; a llywodraeth leol.
-
Llywodraeth Cymru – StatsCymru
Mae StatsCymru yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n eich galluogi i weld, trin, creu a lawrlwytho tablau o ddata Cymru.
-
Yr Adran Gwaith a Phensiynau
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyhoeddi ystadegau ar fudd-daliadau, pensiynau, rhaglenni cyflogaeth, dosbarthu incwm a phynciau eraill trwy amrywiaeth o ddelweddau data ac offer ystadegau ar-lein.
Setiau data rhyngwladol
Mae’r adran ganlynol yn cynnwys setiau data ac offer rhyngweithiol sy’n mesur anghydraddoldebau/annhegwch iechyd a’u penderfynyddion ar draws y byd.
-
Sefydliad Iechyd y Byd – Ewrop (Saesneg yn unig)
Mae Set Ddata Tegwch Iechyd menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd (HESRi) yn darparu ystod o ddadansoddiadau a delweddu data sy’n helpu i ddarparu dealltwriaeth ddyfnach o statws presennol anghydraddoldebau iechyd o fewn gwledydd yn y Rhanbarth Ewropeaidd. Gellir defnyddio’r set ddata hefyd i ddadansoddi a fu gostyngiadau sylweddol neu gynnydd yn yr anghydraddoldebau hyn dros gyfnod penodol.
-
Sefydliad Ewropeaidd dros Gydraddoldeb Rhywedd (Saesneg yn unig)
Mae’r Sefydliad Ewropeaidd dros Gydraddoldeb Rhywedd (EIGE) yn cynhyrchu ymchwil annibynnol ac yn rhannu arferion gorau i hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd a dileu gwahaniaethu ar sail rhywedd. Mae’r gronfa ddata yn cynnwys ystadegau rhywedd o bob rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE) a thu hwnt, ar lefel yr UE, Aelod-wladwriaethau ac Ewropeaidd. Ei nod yw darparu tystiolaeth ystadegol y gellir ei defnyddio i gefnogi ac ategu Strategaeth y Comisiwn Ewropeaidd (CE) ar Gydraddoldeb Rhywedd a chefnogi’r Aelod-wladwriaethau i fonitro eu cynnydd.
-
Eurostat (Saesneg yn unig)
Eurostat yw swyddfa ystadegol yr Undeb Ewropeaidd a’i genhadaeth yw darparu ystadegau a data o ansawdd uchel ar Ewrop. Mae Eurostat yn cyhoeddi data ar bynciau sy’n cynnwys economi a chyllid, poblogaeth ac amodau cymdeithasol, trafnidiaeth ac ati.
-
Sefydliad Iechyd y Byd – Offeryn Asesu Tegwch Iechyd (Saesneg yn unig)
Mae HEAT yn galluogi archwilio a chymharu anghydraddoldebau iechyd mewn gwledydd a thiriogaethau yn rhyngweithiol. Mae’n cynnwys data anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys data wedi’u dadgyfuno a mesurau cryno wedi’u delweddu mewn amrywiaeth o graffiau, mapiau a thablau rhyngweithiol.
-
Sefydliad Iechyd y Byd – Arsyllfa Iechyd Fyd-eang (Saesneg yn unig)
Y Global Health Observatory yw porth Sefydliad Iechyd y Byd i ystadegau sy’n ymwneud ag iechyd ar gyfer ei 194 o Aelod-wladwriaethau. Mae’n darparu mynediad at dros 1,000 o ddangosyddion ar bynciau iechyd â blaenoriaeth sy’n cynnwys marwolaethau a baich clefydau, Nodau Datblygu’r Mileniwm, clefydau anhrosglwyddadwy a ffactorau risg ac ati.
-
World Bank Group (Saesneg yn unig)
Mae’r Catalog Data gan Fanc y Byd yn cynnwys data o blatfformau data microdata, cyllid ac ynni Banc y Byd, yn ogystal â dangosyddion datblygu. Mae dangosyddion datblygu yn cynnwys pethau fel mynediad at drydan, digonolrwydd amddiffyniad cymdeithasol a rhaglenni llafur, ymhlith penderfynyddion ehangach eraill.
-
Cenhedloedd Unedig (Saesneg yn unig)
Mae Cronfa Ddata Dangosyddion y Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG Indicators Database) yn galluogi defnyddwyr i gael mynediad at fwy na 200 o broffiliau gwledydd neu ardaloedd. Mae gan y Nodau Datblygu Cynaliadwy fframwaith dangosyddion byd-eang sy’n cynnwys 231 o ddangosyddion unigryw. Mae cyfran fawr o’r dangosyddion yn cipio’r penderfynyddion iechyd e.e. addysg o safon.
-
OECD (Saesneg yn unig)
Mae’r OECD (Organisation for Economic Co-operation and Development) yn fforwm ac yn ganolfan gwybodaeth ar gyfer data, dadansoddi ac arferion gorau mewn polisi cyhoeddus. Mae eu data yn cwmpasu meysydd polisi fel yr economi, cyflogaeth, iechyd, ymhlith eraill.
-
International Labour Organisation (Saesneg yn unig)
Caiff ILOSTAT ei letya gan Adran Ystadegau’r ILO, sef y canolbwynt ar gyfer ystadegau llafur y Cenhedloedd Unedig.