Neidio i'r cynnwys

Darparu’r rhaglen Cynllun Gwên

Rhaglen genedlaethol sy’n gweithio ar draws amgylcheddau a phroffesiynau i wella iechyd y geg i blant yng Nghymru yw’r Cynllun Gwên.

Wrth i blant heneiddio

Amgylchedd Pwy sy’n ymwneud a’r rhaglen Gweithredoedd
Cartef Timau’r Cynllun Gwên
Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd
Gwasanaethau’r Blynyddoedd Cynnar
Hyfforddiant i staff a myfyrwyr
• Adrannau Iechyd y geg ar gyfer Rhaglen Plant Iach Cymru
• Adnoddau wedi’u hargraffu a e-daflenni.
• Pecynnau brwsio dannedd i’w defnyddio yn y cartref a chwpanau hyfforddi
Practis Deintyddol Timau’r Cynllun Gwên
Gwasanaethau deintyddol clinigol
• Hyfforddiant i staff
• Rhaglen e-ddysgu ‘Cynllun Gwên ar waith’
• Adnoddau wedi’u hargraffu
Meithrinfeydd ac Ysgolion Cynradd Timau’r Cynllun Gwên
Staff addysgu/ gofal plant
• Hyfforddiant i staff
• Rhaglen brwsio dannedd dan oruchwyliaeth
• Rhaglen farnais fflworid
• Pecynnau brwsio dannedd yn y cartref
• Adnoddau addysgu yn y dosbarth
• Rhwydwaith Ysgolion lach Cymru a darpariaeth cyn ysgol

Mae strwythur Cynllun Gwên yn seiliedig ar gyfarwyddiad gan Lywodraeth Cymru: Cylchlythyr Iechyd Cymru 2017: Ailbennu ffocws Cynllun Gwên, y rhaglen i wella iechyd y geg ymhlith plant.