Cynllunio gofodol
Cynllunio gofodol yw’r broses o benderfynu sut y gellir defnyddio a datblygu lleoliadau at wahanol ddibenion, e.e. tai, cyflogaeth, hamdden, manwerthu a chyfleusterau gofal iechyd. Yng Nghymru, mae pob awdurdod cynllunio lleol yn cynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sy’n amlinellu’r strategaeth cynllunio gofodol hirdymor ar gyfer datblygu’r ardal. Mae’r cynllun yn nodi dyraniad y tir, safonau ansawdd dylunio, a graddfa’r datblygiad sydd i’w hadeiladu. Mae pob CDLl yn canolbwyntio ar anghenion y boblogaeth leol a disgwylir iddo gydymffurfio â’r fframwaith yn nogfen Polisi Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru. Mae CDLl yng Nghymru yn canolbwyntio fwyfwy ar wella iechyd a llesiant eu cymunedau lleol ac ar leihau anghydraddoldebau iechyd.
Mae Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yn cael eu defnyddio fel mater o drefn wrth gynllunio, a hynny o fewn polisi cynllunio yn gystal â phrosesau rheoli datblygu. Gall Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd nodi effeithiau posibl allweddol cynllun, polisi neu ddatblygiad, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol anfwriadol, yn ogystal â’i effaith ar anghydraddoldebau iechyd.
Trawsysgrif – Iechyd a chynllunio gofodol
Iechyd a Chynllunio Gofodol
Mae ein hiechyd a’n llesiant yn cael eu llunio gan y lleoedd rydym yn byw ynddynt: sy’n cynnwys ein cartrefi, yr amgylchedd o’n cwmpas, ein mynediad at fannau gwyrdd a’n cyfleoedd i deithio trwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae mannau gwyrdd a pharciau yn darparu lleoedd ar gyfer gweithgareddau a chwarae a mynediad at natur, ac maent hefyd yn cael dylanwad cadarnhaol ar ein llesiant meddyliol.
Mae cael y cyfle i gerdded neu feicio yn ein hardal leol yn gwella iechyd ac yn helpu i leihau lefelau llygredd aer.
Mae cartrefi diogel, cynnes a fforddiadwy yn lleihau salwch, yn lleddfu straen ac yn gwella cysylltiadau cymdeithasol, ac mae cael mynediad at fwyd iach yn ein galluogi i fwyta’n dda.
Mae cynllunio gofodol yn ymwneud â rheoli’r mannau hyn yr ydym yn byw ynddynt, a phenderfynu sut y gellir datblygu tir ac adnoddau i’w defnyddio ar gyfer tai, diwydiant a mannau gwyrdd.
Mae’r cysylltiad agos sy’n bodoli rhwng cynllunio ac iechyd a llesiant yn cael ei gydnabod mewn cynlluniau datblygu lleol yng Nghymru, ac mae awdurdodau cynllunio lleol yn sicrhau bod polisi cynllunio yn galluogi datblygu lleoedd iach.
Mae lleoliad a dyluniad adeiladau a gofodau yn bwysig wrth wella ansawdd bywyd cymunedau lleol, ac wrth leihau anghydraddoldebau.
Defnyddir asesiadau o’r effaith ar iechyd (neu HIAs) yn aml fel ffordd o gysylltu cynllunio ac iechyd gan eu bod yn galluogi ystyriaeth o sut y gallai cynllun, polisi neu benderfyniad effeithio ar iechyd a llesiant pobl.
Gellir defnyddio HIAs wrth ddatblygu cynlluniau i sicrhau bod iechyd a thegwch wedi’u hymgorffori mewn polisi cynllunio.
Gellir eu defnyddio hefyd yn ystod y broses ymgeisio am ganiatâd cynllunio fel ffordd o asesu, ac yna mynd i’r afael ag effeithiau posibl datblygiad ar iechyd a llesiant.
I ddysgu rhagor am HIAs, neu’r cysylltiadau sy’n bodoli rhwng cynllunio ac iechyd, ac i gael mynediad at ganllawiau a chymorth, cysylltwch ag Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Offer a thempledi defnyddiol
Mae UGAEIC wedi datblygu sawl adnodd allweddol i gefnogi’r defnydd o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd wrth baratoi CDLl.
Data a thystiolaeth allweddol
Mae amrywiaeth o dystiolaeth a data i’w cael o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys timau iechyd cyhoeddus lleol ac awdurdodau lleol. Bydd y data hwn yn helpu i ddatblygu cynlluniau, i ddylunio gofodau, ac i greu lleoedd iach.
Gallwch ddod o hyd i ffynonellau data a thystiolaeth ddefnyddiol ar y dudalen data ategol Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) a thystiolaeth.
Yn ôl i dudalen pwnc Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA)