Cyngor iechyd y geg ar gyfer rieni a gofalwyr - Bwyta’n iach
Bob tro y byddwch yn bwyta neu’n yfed rhywbeth sy’n cynnwys siwgr, gall bacteria plac ar eich dannedd greu asid sy’n ymosod ar wyneb y dant.Ar ôl ychydig, bydd twll neu geudod yn ffurfio. Gelwir hyn yn bydredd dannedd. Er mwyn atal pydredd dannedd:
- Cyn gynted ag y byddwch yn dechrau rhoi bwyd i’ch plentyn (diddyfnu), peidiwch ag annog dant melys
- Peidiwch ag ychwanegu siwgr at fwydydd a diodydd
- Peidiwch â rhoi dymi mewn unrhyw beth melys
- Peidiwch â rhoi diodydd llawn siwgr mewn poteli bwydo neu gwpanau babanod
- Dylech leihau faint o siwgr rydych yn ei fwyta a pha mor aml rydych yn ei fwyta
- Peidiwch â bwyta unrhyw fyrbrydau llawn siwgr rhwng prydau bwyd er mwyn rhoi amser i ddannedd adfer o’r ymosodiad gan yr asid
- Peidiwch â rhoi unrhyw ddiodydd heblaw dŵr plaen a llaeth i blant ifanc
Gall rhai byrbrydau gynnwys mwy o siwgr nag yr ydych yn ei sylweddoli. I gael mwy o wybodaeth am fwyta’n iach i blant, ewch i Pob Plentyn.
Mae Sgiliau Maeth am Oes yn cynnig gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth i’ch helpu i wneud dewisiadau bwyta’n iach.
Stop! Bwydydd a diodydd sy’n ddrwg i’r dannedd
Cadwch eich llygaid ar agor am siwgr mewn cacennau, bisgedi, losin, siocled, jam, diodydd pefriog, sqwash ac ysgytlaeth.
Mae diodydd deiet yn cynnwys melysyddion artiffisial nad ydynt yn achosi pydredd ond sy’n asidig ac yn achosi erydiad deintyddol.
Ewch amdani! Bwydydd a diodydd sy’n dda i’r dannedd
Llaeth a dŵr plaen yw’r unig ddiodydd diogel ar gyfer plant ifanc.
Rhowch gynnig ar fyrbrydau iach fel:
- Darnau o lysiau
- Caws a chracers
- Ffrwythau ffres
- Bara pita a hwmws
- Bara
- Tost
Mae ffrwythau a llysiau cyflawn yn bwysig iawn fel rhan o ddeiet iach. Maent yn cynnwys siwgr naturiol ond maent yn fwy diogel o fewn cell y ffrwyth.
Mae llaeth yn rhan bwysig iawn o ddeiet iach. Mae’n cynnwys siwgr naturiol ond math mwy diogel.
Gofal! Bwydydd a diodydd i fod yn wyliadwrus ohonynt
Mae sudd ffrwythau yn cynnwys siwgr naturiol (ffrwctos) sy’n gallu achosi pydredd dannedd. Mae sudd ffrwythau yn bwysig i ddarparu fitamin C a chyrraedd ein 5 dogn y dydd, ond dylid ei yfed gyda phrydau bwyd yn unig.
Gall ffrwythau sych achosi pydredd dannedd. Mae’r siwgr naturiol wedi cael ei ryddhau o gell y ffrwyth fel rhan o’r broses sychu, felly bwytewch y rhain gyda phrydau bwyd yn unig.
Gofynnwch am feddyginiaethau heb siwgr bob amser.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Medi 2025