Cymhwystra ar gyfer y brechlyn - Sut i gael brechiad y ffliw
| Grŵp cymwys | Ble i gael eich brechiad y ffliw |
|---|---|
| Plant dwy neu dair oed (oedran ar 31 Awst 2024) | Meddygfa (DS, mewn rhai ardaloedd, mae plant tair oed yn cael cynnig y brechiad mewn meithrinfa) |
| Plant ysgolion cynradd ac uwchradd | Ysgol gynradd ac uwchradd |
| Plant pedair oed neu hŷn nad ydynt yn yr ysgol | Gwnewch apwyntiad gyda’r Meddyg Teulu |
| Plant rhwng 6 mis a dan 18 oed â chyflwr iechyd tymor hir | Meddygfa (DS. bydd plant oedran ysgol gynradd ac uwchradd yn cael cynnig eu brechiad ffliw yn yr ysgol) |
| Merched beichiog | Meddygfa, rhai fferyllfeydd cymunedol neu, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, gan eu bydwraig |
| Cyflyrau iechyd tymor hir (oedolion) | Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol |
| Pobl 65 oed a hŷn | Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol |
| Gofalwyr di-dâl | Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol |
| Gofalwyr cartref | Fferyllfa gymunedol (neu mewn rhai ardaloedd, mae trefniadau eraill) |
| Staff gofal cartref | Fferyllfa gymunedol (neu mewn rhai ardaloedd, mae trefniadau eraill) |
| Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol | Drwy gyflogwr |
| Gweithwyr dofednod sy’n wynebu’r risg fwyaf | Fferyllfeydd yn y gymuned |
Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r brechlyn ffliw cyn i’r ffliw ddechrau lledaenu yn y gymuned. Fodd bynnag, gellir ei roi ar ddyddiad yn ddiweddarach hefyd.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 1af Gorffennaf 2025