Neidio i'r cynnwys

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn - Cymhwysedd i oedolion ar gyfer y brechlyn ffliw

Brechlyn ffliw a beichiogrwydd

Os ydych chi’n feichiog, bydd cael eich brechlyn ffliw yn helpu i’ch amddiffyn chi a’ch baban heb ei eni. 

Mae cael brechlyn y ffliw yn ddiogel yn ystod pob cam o feichiogrwydd. 

Os bydd rhywun sy’n feichiog yn cael y ffliw, mae ei faban yn fwy tebygol o gael ei eni’n gynnar, bod â phwysau geni isel, yn farw-anedig neu farw o fewn eu hwythnos gyntaf. Mae’r brechlyn hefyd yn helpu i amddiffyn y baban yn ystod y pedwar i chwe mis cyntaf o fywyd, pan all ffliw fod yn ddifrifol iawn. 

Dylech gael y brechlyn ffliw cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn feichiog (os yw’r brechlyn ar gael). Gallwch ei gael ar yr un pryd â’r brechlyn feirws Syncytiol Anadlol (RSV)brechlyn y pas, a brechlyn COVID-19 os oes angen, ond peidiwch ag oedi eich brechlyn ffliw er mwyn i chi allu cael brechlynnau eraill ar yr un pryd. 

Os ydych yn feichiog, gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich practis cyffredinol, neu drwy fferyllfa gymunedol. Mewn rhai ardaloedd o Gymru, gall bydwragedd roi brechlynnau ffliw. 

Argymhellir y brechlyn ffliw bob tro y byddwch yn feichiog, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen. 

Mae cael eich brechu bob tymor ffliw yn eich amddiffyn rhag mathau newydd o’r feirws ac yn lleihau’r risg o ledaenu’r ffliw i’ch baban. Bydd yr imiwnedd a gewch o’r brechlyn yn trosglwyddo i’ch baban drwy’r brych. Mae’r brych y tu mewn i’ch croth ac mae’n cysylltu eich cyflenwad gwaed chi â’ch baban yn y groth. 

Yn y gaeaf, bydd miloedd o bobl yn marw o salwch sy’n gysylltiedig â ffliw yn y DU. Cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn chi a’ch baban rhag ffliw.

Pobl â chyflwr iechyd hirdymor o 6 mis-oed

Os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi, rydych chi mewn mwy o berygl o gymhlethdodau o’r ffliw hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iach, ac os ydych chi’n cael y ffliw, gallai wneud eich cyflwr iechyd yn waeth. Mae’n bwysig eich bod yn cael brechlyn ffliw os oes gennych chi: 

  • Diabetes 
  • Problem gyda’r galon 
  • Cwyn ar y frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys asthma sy’n gofyn am anadlwyr neu dabledi steroid rheolaidd 
  • Clefyd yr arennau (o gam 3) 
  • System imiwnedd wan o ganlyniad i afiechyd neu driniaeth (a hefyd cysylltiadau agos â phobl yn y grŵp hwn)
  • Afiechyd yr afu/iau 
  • Wedi cael strôc neu strôc fach 
  • Cyflwr niwrolegol fel clefyd Parkinson, neu glefyd niwronau motor 
  • epilepsi 
  • Dueg goll neu broblem gyda’r ddueg 
  • anabledd dysgu 
  •  salwch meddwl difrifol, neu
  • os ydych yn ordew (gordewdra dosbarth III). Diffinnir hyn fel y rhai â phwysau corff uwch (Mynegai Màs y Corff (BMI) o 40 neu uwch) 16 oed neu hŷn.

Gall oedolion yn y grwpiau hyn gael eu brechlyn ffliw yn eu meddygfa, neu drwy fferyllfa gymunedol. Gall plant yn y grwpiau hyn gael eu brechlyn yn eu hysgol os ydynt o fewn y grŵp oedran hwnnw, neu yn eu meddygfa. 

Pobl 65 oed a throsodd

Os ydych yn 65 oed neu drosodd (gan gynnwys y rhai a fydd yn 65 oed erbyn 31 Mawrth 2025), rydych yn wynebu risg uwch o gymhlethdodau o’r ffliw na phobl eraill.  

Gall pobl yn y grŵp oedran hwn gael eu brechlyn ffliw yn eu meddygfa, neu drwy fferyllfa gymunedol. 

Pobl sy’n byw mewn cartref preswyl neu nyrsio

Yn y rhan fwyaf o flynyddoedd rydym yn gweld achosion o’r ffliw mewn cartrefi gofal felly mae preswylwyr yn wynebu risg uwch o ddal y ffliw na phobl eraill. Mae’r trefniadau i breswylwyr gael eu brechlyn ffliw yn fwyaf tebygol o gael eu gwneud gan reolwr y cartref gofal.

Gofalwyr

Os ydych yn ofalwr i rywun y byddai ei iechyd neu les mewn perygl pe baech yn mynd yn sâl gyda ffliw, gan gynnwys gofalwyr di-dâl, dylech gael brechlyn ffliw am ddim. Bydd cael eich brechu rhag y ffliw yn helpu i’ch amddiffyn chi, a hefyd y person/bobl rydych yn gofalu amdanynt. 

Gall pobl yn y grŵp hwn gael eu brechlyn ffliw yn eu meddygfa, neu drwy fferyllfa gymunedol.

Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

Os ydych yn weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol ac yn dod i gysylltiad uniongyrchol gyda chleifion neu gleientiaid, dylech gael brechiad rhag y ffliw i’ch amddiffyn chi a’r bobl rydych yn gofalu amdanynt. Pan fyddwch yn cael eich brechlyn rydych yn helpu i leihau’r risg o ledaenu haint ffliw.  

Mae brechlynnau ffliw’r GIG ar gael am ddim i staff rheng flaen mewn cartrefi gofal a gofalwyr cartref gan y rhan fwyaf o fferyllfeydd cymunedol – ewch â phrawf o’ch cyflogaeth gyda chi pan fyddwch yn mynd am eich brechiad. Mae hyn hefyd yn cynnwys pobl sy’n gweithio mewn cartref gofal i oedolion neu hosbis plant.  

Bydd gweithwyr gofal iechyd yn cael eu brechlyn drwy eu cyflogwr. Mae holl sefydliadau GIG Cymru yn annog staff i gael eu brechlyn ffliw bob blwyddyn.  

Os ydych yn aelod o sefydliad gwirfoddol ac yn darparu cymorth cyntaf wedi’i gynllunio, neu os ydych yn ymatebwr cyntaf cymunedol, dylech hefyd gael brechlyn ffliw. Gallwch gael hwn o’ch meddygfa neu’r rhan fwyaf o fferyllfeydd cymunedol – ewch â phrawf o’ch rôl gyda chi.  

Mae gwahanol fathau o frechlyn ffliw ar gael. Mae rhai yn gweithio’n well mewn gwahanol grwpiau oedran. Ar gyfer yr amddiffyniad gorau, mae’n bwysig cael brechlyn ffliw a argymhellir ar gyfer eich oedran.   

Siaradwch â’ch meddyg, nyrs neu fferyllydd cymunedol i gael rhagor o fanylion. 

A oes unrhyw un na ddylai gael brechlyn ffliw?

Prin iawn yw’r bobl na allant gael brechlyn ffliw. 

Ni ddylai pobl sydd wedi cael adwaith alergaidd difrifol i frechlyn ffliw neu adwaith alergaidd difrifol i unrhyw un o gynhwysion y brechlyn gael y brechlyn hwnnw eto. 

Dywedwch wrth y nyrs neu’r meddyg os oes gennych alergedd difrifol i wyau. Gallwch gael brechlyn ffliw o hyd ond efallai y bydd angen trefniadau arbennig. 

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio brechu rhag y ffliw. 

Os ydych yn sâl gyda thymheredd uchel, gohiriwch y brechiad nes i chi deimlo’n well. 

Os oes amheuon gennych, trafodwch hyn gyda’r person sy’n rhoi’r brechiad i chi. 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 1af Gorffennaf 2025