Neidio i'r cynnwys

Cyhoeddiadau’r Uned Gwyddor Ymddygiad

Mae ein cyhoeddiadau yn cynnwys offer a chanllawiau ymarferol i’ch helpu i ddefnyddio gwyddor ymddygiadol ar bob cam o’ch gwaith. Rydym hefyd wedi cynhyrchu adroddiadau a ffeithluniau ar waith yr uned ac ar nifer o wahanol bynciau lle gallai gwyddor ymddygiadol gael ei ddefnyddio.

Ein cyhoeddiadau:

Gwella iechyd a llesiant: Canllaw i ddefnyddio gwyddor ymddygiad mewn polisi ac ymarfer

Canllaw i ymarferwyr a llunwyr polisi sy’n egluro sut i ddefnyddio gwyddor ymddygiad yn ymarferol.

Ymateb i’r argyfwng hinsawdd: defnyddio gwyddor ymddygiad

Canllaw i gefnogi llunwyr polisi a gweithwyr proffesiynol i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i greu ymyriadau effeithiol mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Datblygu cyfathrebiadau ar sail ymddygiad

Dyma offeryn rhyngweithiol i’ch helpu i ystyried ymddygiadau wrth ddylunio eich cyfathrebiadau.

Argyfwng costau byw yng Nghymru: Cymhwyso Gwyddor Ymddygiad

Ffeithlun sy’n egluro sut y gellir defnyddio COM-B i gael mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaethau.

Pennu offeryn ymddygiad targed a phoblogaeth darged

Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i’ch helpu i ystyried ac i ddiffinio pa ymddygiad a pha boblogaeth rydych yn ei dargedu wrth i chi greu ‘manyleb ymddygiadol’.

Diagnosis Ymddygiadol: Sut i gasglu mewnwelediadau ymddygiad

Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i’ch helpu i ddatblygu dealltwriaeth systematig o’r pethau sy’n dylanwadu ar eich ymddygiad targed o fewn eich poblogaeth darged.

Diagnosis Ymddygiadol: Mapio mewnwelediadau a dewis swyddogaethau ymyrryd

Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i’ch helpu i ystyried pa swyddogaethau gweithredu fyddai fwyaf priodol i gyflawni eich ymyrraeth ddewisol

Diagnosis Ymddygiadol: Dewis mathau o weithredu

Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i’ch helpu i ystyried pa fathau o weithredu fyddai fwyaf priodol er mwyn cyflawni eich ymyrraeth ddewisol

Nodi a chymhwyso technegau newid ymddygiad

Offeryn ymarferol a rhyngweithiol sy’n cyflwyno Technegau Newid Ymddygiad, sy’n cael eu hystyried yn ‘gynhwysion gweithredol’ o fewn ymyriadau newid ymddygiad. Mae’r offeryn yn eich tywys trwy’r broses o adnabod a chyflwyno Technegau Newid Ymddygiad, gan dynnu ar y model COM-B a’r Olwyn Newid Ymddygiad.

Gwerthuso ymyraethau newid ymddygiad

Dyma offeryn ymarferol a rhyngweithiol a ysgrifennwyd mewn cydweithrediad â’r Tîm Gwerthuso Canolog ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n nodi pwyntiau allweddol y dylech eu hystyried wrth gynllunio ffyrdd o brofi a gwerthuso eich ymyrraeth newid ymddygiad.

Defnyddio gwyddor ymddygiad i wella a diogelu iechyd yng Nghymru

Mae’r offeryn hwn wedi’i ddylunio er mwyn nodi astudiaethau achos sy’n ymwneud â’r defnydd o wyddor ymddygiad er mwyn cael yr effaith orau.

Menter gwaith cyfathrebu sy’n ystyriol o ymddygiad (BICI): Llyfr gwaith

Mae’r llyfr gwaith rhyngweithiol hwn yn adeiladu ar y fframwaith ‘SCALE’, a gyflwynwyd gyntaf gan yr Uned Gwyddor Ymddygiad yn 2023. Mae’r llyfr gwaith yn cynnwys nifer o weithgareddau sydd wedi’u dylunio i’ch tywys drwy’r broses o ddatblygu darn o gyfathrebu gan ddefnyddio gwyddor ymddygiad.

Menter Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad (BICI): Astudiaethau achos

Cafodd y Menter Gwaith Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad (BICI) ei sefydlu yn 2024, pan ddaeth 30+ o bobl o ystod o wahanol dimau â darn o gyfathrebu i’w optimeiddio gan ddefnyddio gwyddoniaeth ymddygiad. Mae’r casgliad hwn o astudiaethau achos yn helpu i amlinellu sut y gellir defnyddio BICI yn y byd go iawn – gan gynnwys gwaith gan dimau sgrinio, timau brechu, yn ogystal â Gofal Sylfaenol a Gofal Sylfaenol Gwyrddach.

Gwyddor ymddygiad mewn ymarfer a pholisi: Ailgylchu yn y cartref

Er mwyn newid ymddygiadau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd mewn ffordd effeithiol, rhaid i ni fod yn glir ac yn benodol am yr ymddygiad yr ydym yn gobeithio ei newid, rhaid i ni ddeall beth sy’n rhwystro neu’n hwyluso’r ymddygiad targed, a rhaid gweithredu ystod eang o ymyriadau i ddatrys a/neu wella’r pethau a nodwyd sy’n rhwystro a/neu’n hwyluso. Gan ddefnyddio ailgylchu gwastraff mewn cartrefi fel enghraifft, pwrpas yr astudiaeth achos yma yw dangos sut y gall gwyddor ymddygiad helpu i nodi ac i weithredu ystod o wahanol fathau o ymyraethau a allai helpu i fynd i’r afael â phenderfynyddion ymddygiadol a dylanwadu ar ymddygiad.

Gwyddor Ymddygiad ar gyfer Gwell Iechyd: Sut ydyn ni’n gwneud yn Iechyd Cyhoeddus Cymru?

Ffeithlun sy’n rhoi crynodeb o werthusiadau ac adroddiadau o’n cynnydd ar draws pum maes ‘Ymrwymiad Strategol’ Sefydliad Iechyd y Byd, ar gyfer gweithio tuag at gymhwyso gwyddoniaeth ymddygiadol yn rheolaidd ar gyfer gwell iechyd yng Nghymru.

Adroddiad UGY: Archwilio ffactorau sydd yn dylanwadu ar gymhwyso gwyddor ymddygiad mewn ymarfer iechyd y cyhoedd ar draws Cymru

Adroddiad i archwilio ffactorau sy’n dylanwadu ar gymhwyso gwyddor ymddygiad o fewn ymarfer iechyd y cyhoedd ledled Cymru.

Adroddiad UGY: Dylanwad Uned Gwyddor Ymddygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar draws y system iechyd cyhoeddus – gwerthusiad mapio realaidd o’r crycheffeithiau

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at themâu allweddol i’w datblygu sy’n cynnwys meithrin perthnasoedd, datblygu gallu, a’r defnydd ymarferol o wyddor ymddygiad mewn polisi ac mewn ymarfer. Fel dull hanfodol o wella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau, gall gwyddor ymddygiad helpu i wneud y gorau o bolisïau, gwasanaethau a chyfathrebu i gefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r gwerthusiad hwn o effeithiau ehangach realaidd yn darparu argymhellion allweddol i ysgogi effaith barhaus.

Adroddiad UGY: Menter Cyfathrebiadau ar Sail Ymddygiad (BICI)

Lansiwyd y Fenter Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad ym mis Mehefin 2024, gyda dros 35 o randdeiliaid o ystod o dimau gwahanol yn dod â darn o gyfathrebu i’w optimeiddio trwy gymhwyso gwyddor ymddygiad. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am sut y cafodd y fenter ei datblygu a’i chyflwyno, gan gynnwys mewnwelediad gwerthuso prosesau gan fynychwyr carfanau a dwy astudiaeth achos.

Gwell iechyd trwy wyddor ymddygiad: Cynllun galluogi i Gymru

Mae’r cynllun hwn yn disgrifio map llwybr o gamau gweithredu pwysig a all sicrhau’r amodau i alluogi’r defnydd mwy arferol a systematig o wyddor ymddygiad mewn gwasanaethau, gwelliant ac arloesi, cyfathrebu, dulliau polisi a systemau sy’n anelu at wella iechyd a lles. Mae’r cynllun, a ddatblygwyd gyda grŵp cynghori technegol a strategol, a mewnbwn gan ein Cymuned Gwyddor Ymddygiad Cymru, yn defnyddio dulliau rhanbarthol a rhyngwladol o gymhwyso gwyddor ymddygiad ym maes iechyd a lles, ac yn disgrifio sut, drwy gymhwyso gwyddor ymddygiad yn ein gwaith, y gallwn gael yr hyn yr ydym yn anelu ato’n amlach, a thrwy wneud hynny wireddu difidend ymddygiadol sy’n optimeiddio ein heffaith er gwell iechyd a thegwch.

Yn ôl i’r dudalen bwnc gwyddor ymddygiadol