Neidio i'r cynnwys

Cosfa’r nofiwr

Beth yw cosfa’r nofiwr?

Mae cosfa’r nofiwr yn frech croen sy’n cosi. Mae’n cael ei achosi gan adwaith alergedd i fath o lyngyr lledog bach sydd i’w ganfod yn naturiol mewn dŵr agored.

Mae’r llyngyr lledog bach sy’n achosi cosfa’r nofiwr yn byw ym mhob rhan o’r byd, mewn dyfroedd awyr agored neu ddyfroedd ‘agored’ naturiol, fel llynnoedd a pyllau. Maen nhw mor fach fel na allwn ni eu gweld, felly nid yw’n bosibl gwybod pryd maen nhw yno.

Nid yw’r llyngyr lledog hyn yn heintio pobl, ond gallant achosi cosi os byddant yn dod i gysylltiad â chroen person. Ni all y ‘cosi’ ledaenu o un person i’r llall, mae angen cyswllt uniongyrchol â’r llyngyr.

Gall unrhyw un sydd mewn cysylltiad â’r llyngyr lledog gael cosfa’r nofiwr – gallai hyn fod wrth nofio, trochi, cerdded neu badlo mewn dyfroedd awyr agored.

Sut ydw i’n gwybod os oes gen i gosfa’r nofiwr?

Mae cosfa’r nofiwr fel arfer yn digwydd o fewn oriau (1 i 48 awr) o fod yn y dŵr. Ar y dechrau, gall achosi teimlad o oglais, cosi neu losgi ar y croen. Smotiau cochlyd bach ymddangos, weithiau’n troi’n frechau a phothelli mwy, gyda chosi dwys.

Fel arfer dim ond croen sy’n cyffwrdd yn uniongyrchol â’r dŵr y mae’n effeithio arno. Mae croen sydd wedi’i orchuddio â dillad nofio tynn fel arfer yn iawn. 

Mae cosfa’r nofiwr fel arfer yn gwella heb driniaeth ac yn diflannu ar ei ben ei hun ymhen 1-3 wythnos.

Gan fod cosfa’r nofiwr yn adwaith alergedd, gall pobl yn yr un dŵr gael adweithiau gwahanol. Ond po fwyaf aml y bydd rhywun yn dod i gysylltiad â’r llyngyr lledog, y mwyaf difrifol (ar unwaith a dwys) y gall ei ymateb fod, y mwyaf difrifol (ar unwaith a dwys) y gall ei ymateb fod.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn cael cosfa’r nofiwr?

Mae’n annhebygol y bydd angen cymorth meddygol ar bobl â chosfa’r nofiwr, gan ei fod fel arfer yn gwella ynddo’i hun, ac nid oes unrhyw brawf y mae angen ei wneud ar ei gyfer. Ond mae’n bwysig nad ydych yn crafu’r frech er mwyn ei hatal rhag cael ei heintio â germau. Siaradwch â’ch fferyllydd os oes angen help arnoch gyda’r cosi.

Mae hefyd yn bwysig cofio y gall llawer o bethau eraill achosi cosi a brech ar y croen. Felly, os ydych chi’n ansicr a oes gennych chi cosfa’r nofiwr, os yw’ch symptomau’n gwaethygu neu os ydych chi’n teimlo’n sâl ar ôl bod mewn dyfroedd awyr agored, ewch i weld eich meddyg teulu neu fferyllydd am gyngor.

Sut ydw i’n gwybod bod cosfa’r nofiwr yn broblem?

Nid yw cosfa’r nofiwr yn arwydd o lygredd neu ddŵr ‘budr’. Ond rydym yn dal i ddysgu mwy am pam mae cosfa’r nofiwr yn broblem mewn rhai dyfroedd ac nid mewn dyfroedd eraill, a sut y gall hyn newid dros amser.

Rydyn ni’n meddwl bod pobl yn fwy tebygol o gael cosfa’r nofiwr pan fo dŵr yn gynhesach, yn yr Haf, mewn dŵr lle mae llawer o adar dŵr yn byw neu’n ymweld (e.e. hwyaid, gwyddau ac elyrch) ac mewn dŵr bas gyda llawer o blanhigion. Gall hefyd fod yn fwy o broblem yn gynnar yn y bore.

Mae’n ymddangos bod plant yn fwy tebygol o ddatblygu cosfa’r nofiwr nag oedolion, mae’n debyg oherwydd eu bod yn treulio mwy o amser mewn dyfroedd bas ac efallai na fyddant yn sychu eu hunain cystal ag oedolion.

Sut gallaf leihau fy siawns o gael cosfa’r nofiwr?

Mae’n anodd gwybod pryd a ble y gallai cosfa’r nofiwr yn broblem cyn i chi fynd i’r dŵr. Hyd yn oed os yw wedi cael ei hadrodd yn rhywle o’r blaen, efallai na fydd bob amser yn broblem yno yn y dyfodol. Ond os ydych am leihau eich siawns o gael cosfa’r nofiwr: 

  • Ceisiwch osgoi nofio neu gerdded mewn dyfroedd cynhesach, bas gyda llawer o blanhigion.
  • Ceisiwch osgoi nofio neu gerdded lle mae llawer o adar dŵr yn byw neu’n ymweld. 
  • Meddyliwch am orchuddio’ch croen e.e. gwisgo siwt wlyb lawn, cap nofio, menig siwt wlyb ac esgidiau. Cofiwch y bydd eich wyneb yn dal yn noeth. 
  • rhwbiwch eich croen yn sych gyda thywel, yn syth ar ôl gadael y dŵr. 
  • Lle bo modd, ewch i gael cawod yn syth ar ôl gadael y dŵr.

Mae hefyd yn syniad da rinsio’ch siwt wlyb mewn dŵr ffres glân ar ôl ei defnyddio. Darganfyddwch mwy o wybodaeth am nofio diogel mewn dyfroedd awyr agored.

Mae’r cyngor hwn yn seiliedig ar wybodaeth gan:

DermNet (2021): ‘Cosfa’r nofiwr’.

Canolfannau rheoli ac atal clefydau (2024): ‘Cosfa’r nofiwr (Cercarial Dermatitis)

A gwybodaeth fanylach gan:

Sefydliad Iechyd y Byd (2021): ‘Canllawiau ar ansawdd dŵr hamdden. Cyfrol 1: Dŵr arfordirol a croyw‘.

Gyda diolch i Adran Dermatoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a’r Athro Davey Jones a chydweithwyr yn y Labordai Monitro Dŵr Gwastraff (Prifysgol Bangor) am eu cymorth i ddatblygu’r wybodaeth hon.