Neidio i'r cynnwys

Carbon Monocsid (CO)

Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael gwenwyn CO:

  • Diffoddwch unrhyw gyfarpar a allai fod yn achosi’r broblem ac agorwch y ffenestri
  • Peidiwch â defnyddio cyfarpar nes ei fod wedi’i wirio gan beiriannydd sydd wedi cymhwyso’n briodol
  • Ewch i weld eich Meddyg Teulu neu i’ch Adran Achosion Brys leol.

Mae carbon monocsid (CO) yn nwy di-liw, di-arogl, ac mae’n wenwynig iawn. Mae’n cael ei gynhyrchu pan fyddwn yn llosgi pren, olew, glo, nwy a siarcol ar gyfer gwresogi a choginio. Mae CO hefyd yn cael ei gynhyrchu gan gyfarpar diffygiol neu wael.

Symptomau gwenwyn CO

  • Mae symptomau gwenwyn CO yn cynnwys: cur pen, cyfog, pendro/penysgafn, diffyg anadl, gwendid, poen yn y frest ac anymwybyddiaeth
  • Gall bod yn agored i lefelau isel o CO am gyfnod hir achosi problemau iechyd difrifol hefyd.
  • Peidiwch ag anwybyddu symptomau gwenwyn CO, yn enwedig pan:
    • mae gan bobl yn yr un lle symptomau tebyg
    • ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar
    • ydych wedi cael offer newydd wedi’i osod, fel boeler neu losgydd coed
    • ydych wedi cael gwneud gwaith adeiladu
    • ydych yn teimlo’n well pan fyddwch y tu allan
    • ydych wedi cynnau’r gwres yn ddiweddar.

CO yn y cartref

Os yw’r peiriannau yn eich cartref yn cael eu gwasanaethu a’u cynnal a’u cadw’n briodol mae’r risg o wenwyn CO yn isel iawn. Ond, gall peiriannau diffygiol, wedi’u gosod yn wael neu wedi’u cynnal a’u cadw yn wael, gynhyrchu CO.

Gallwch osgoi gwenwyn CO yn eich cartref drwy wneud y canlynol:

  • Sicrhau y caiff yr holl offer sy’n llosgi tanwydd (er enghraifft, boeleri, llosgwyr coed) eu gwasanaethu unwaith y flwyddyn gan beiriannydd â chymwysterau priodol,
  • Glanhau eich simneiau a’ch ffliwiau unwaith y flwyddyn.

CO ar wyliau

Pan fyddwch ar wyliau, yn cael diwrnod allan, yn gwersylla neu ar gwch, cofiwch y gall barbeciwiau, poptai, gwresogyddion a generaduron cludadwy i gyd gynhyrchu CO.

Gallwch osgoi gwenwyn CO ar wyliau drwy wneud y canlynol:

  • Mynd â larwm CO gyda chi a’i ddefnyddio
  • Peidio byth â mynd â barbeciw cludadwy y tu mewn neu i mewn i babell neu garafán
  • Peidio byth â defnyddio generadur y tu mewn

Larymau CO

Mae larymau CO yn gwneud sŵn os oes lefelau peryglus o CO yn rhywle.

  • Defnyddiwch larwm sydd wedi’i labelu’n glir gyda BS EN 50291 yn unig.
  • Dim ond rhywbeth wrth gefn yw larwm. Mae angen i gyfarpar gael ei osod, ei gynnal a’i brofi’n rheolaidd o hyd.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n aelod o’r cyhoedd?

Cofiwch fod atal gwenwyn CO yn hawdd:

  1. Arwyddion – dyma brif symptomau gwenwyn CO; cur pen, pendro, cyfog, diffyg anadl, llewygu a cholli ymwybyddiaeth.
  2. Gwasanaeth – gwnewch yn siŵr bod yr holl gyfarpar llosgi tanwydd yn cael ei wasanaethu unwaith y flwyddyn gan beiriannydd sydd wedi cymhwyso’n briodol.
  3. Sain – defnyddiwch larwm a fydd yn canu os bydd lefelau CO yn codi – gallai hyn achub eich bywyd.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n weithiwr iechyd proffesiynol?

  • Pan fydd cleifion yn cyrraedd yr Adran Achosion Brys gyda chur pen, yn enwedig ar ôl hanner nos neu’n gynnar yn y bore, dylid ystyried gwenwyn CO
  • Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu algorithm i helpu gweithwyr meddygol proffesiynol i asesu’r posibilrwydd o wenwyn CO ymysg eu cleifion ac i weld pa gamau i’w cymryd.

Os yw eich claf wedi cael gwenwyn CO, rhowch wybod i’r tîm Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth am beirianwyr sydd â chymwysterau priodol, cysylltwch â:

Ar gyfer Nwy: Cofrestr Diogelwch Nwy – ffoniwch 0800 408 5500
Ar gyfer Olew: OFTEC – ffoniwch 0845 658 5080
Ar gyfer Tanwydd Solet: HETAS – ffoniwch: 0845 634 5626

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi dod i gysylltiad â CO cysylltwch â’r Llinell Argyfwng nwy ar 0800 111999.